Tref sy’n tyfu, ac wedi profi cynnydd mewn poblogaeth a thai dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r dref yn agos i Gaerfyrddin, ac mae hyn wedi helpu hyrwyddo’r datblygiadau preswyl. Mae’r twf hwn wedi helpu cynnal nifer y bobl sydd mewn oedran gwaith, sy’n weithgar yn economaidd ac mewn cyflogaeth lawn amser. Mae mynediad uniongyrchol y dref i’r A40 wedi annog twf cyflogaeth draddodiadol gref gan gynnwys ardaloedd cyflogaeth ddiwydiannol a masnachol ysgafn drwy’r holl dref.
Mae gan Sanclêr hefyd ganol tref bach, traddodiadol. Y tu allan i’r dref, mae’r economi’n cynnal amrywiaeth helaeth o fentrau gwledig gan gynnwys busnesau seiliedig ar amaethyddiaeth a’r tir, bwyd a diod a thwristiaeth.
Mae hefyd llawer o ficrofusnesau, gan gynnwys mentrau mwy newydd sy’n ymwneud â ‘ffordd o fyw’, busnesau cysylltiedig ag ymwelwyr a diwydiannau creadigol sy’n cyfuno byw a gweithio mewn ardaloedd gwledig.
Mae agwedd sylfaenol bwysig hefyd i’r economi gyda llawer o bobl yn cael eu cyflogi mewn darparu gwasanaethau lleol hanfodol o ddydd i ddydd, crefftau medrus a phroffesiynau fel hyfforddwyr gyrru, atgyweirio cyfrifiaduron a hyfforddwyr personol ac ati.
Mae rôl ehangach Sanclêr yn cynnwys cynnal swyddogaeth gymdeithasol, cyflogaeth, addysg a siopau lleol i Talacharn a phentrefi llai o gwmpas y dref fel Bancyfelin a chymunedau Wardiau Llansteffan a Thre-lech. Mae canolfan hamdden Sanclêr hefyd yn gwasanaethu anghenion ei threfi cyfagos.
darganfod Sanclêr
Ein Blaenoriaethau
Ein blaenoriaethau Twf Economaidd yw sicrhau twf economaidd cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar gadw a denu poblogaeth o oedran gweithio a chynnal a gwella mynediad at wasanaethau. Mae gweithredoedd i gefnogi'r adferiad a'r twf yn mynd i'r afael â'r tair thema gyffredinol uchod - Busnes, Pobl a Lle gyda phedair blaenoriaeth drawsbynciol ar gyfer creu cysylltedd digidol hynod ddibynadwy, gwella sgiliau i gyflawni'r swyddi a grëir, economi carbon isel a gwyrdd ac economi teg a chyfartal sy'n cefnogi'r iaith a'r diwylliant Cymraeg. Y camau blaenoriaeth ar gyfer adferiad a thwf yw:
- Mesurau ailddechrau ac adfer – ymateb i COVID-19
- Cefnogi twf busnesau
- Tref a chefn gwlad digidol-glyfar
- Llecynnau cyhoeddus canol y dref
- Gorsaf drenau Sanclêr
- Cysylltiadau cerdded a beicio
- Economi Ymwelwyr
- Hyrwyddo Sanclêr
- Caffael Blaengar
- Cynlluniau ynni cymunedol
- Economi Gylchol
- Cartrefi Fforddiadwy
Cynllun twf sanclêr
Yn ôl i Deg Tref