Tref fach sy’n adnabyddus am ei chastell a’i phensaernïaeth hanesyddol, ei harfordir hardd a blaendraeth deniadol, yn ogystal â’i hamlygrwydd byd-eang yn sgil ei chysylltiadau â’r bardd Dylan Thomas.
Tyfodd y dreflan yn hanesyddol o gwmpas ardal yr harbwr gwreiddiol ac Afon Coran ac mae ei datblygiad o ddwysedd uchel.
Mae’r dref wedi dod yn lle poblogaidd i fyw ac ar gyfer ail gartrefi / tai gwyliau. Mae’r A4066 rhwng Sanclêr a chyrchfan lan-môr Pentywyn yn mynd trwy ganol Talacharn, gan ganiatáu mynediad cymharol hawdd yn ôl ac ymlaen i’r A40, er bod y strydoedd hanesyddol drwy’r dref yn anaddas ar gyfer dwysedd trwm o draffig. Ymddengys mai llety twristiaid a busnesau lletygarwch yw nodwedd amlycaf yr economi leol, er bod y boblogaeth yn elwa ar gyfleoedd am waith ymhellach i ffwrdd gan gynnwys ardaloedd cyflogaeth ddiwydiannol a masnachol ysgafn o amgylch Sanclêr ac amrywiaeth helaethach o gyfleoedd, gan gynnwys cyflogaeth sector cyhoeddus yng Nghaerfyrddin.
Y tu allan i’r dref, mae’r economi’n cynnal amrywiaeth o fusnesau gwledig gan gynnwys busnesau seiliedig ar amaethyddiaeth a’r tir, bwyd a diod a thwristiaeth.
Mae hefyd llawer o ficrofusnesau, gan gynnwys mentrau mwy newydd sy’n ymwneud â ‘ffordd o fyw’, busnesau cysylltiedig ag ymwelwyr a diwydiannau creadigol sy’n cyfuno byw a gweithio mewn ardaloedd gwledig.
Darganfod talacharn
Ein Blaenoriaethau
Ein blaenoriaethau Twf Economaidd yw:
- Mesurau ailddechrau ac adfer – ymateb i COVID-19
- Cartrefi Fforddiadwy
- Parcio, Cerdded a Rheoli Traffig
- Cefnogi twf busnes
- Hyrwyddo Talacharn
- Tref a chefn gwlad digidol-glyfar
- Safleoedd Allweddol a Llecynnau Cyhoeddus
- Caffael blaengar
- Cynlluniau ynni cymunedol
- Economi Gylchol
Cynllun twf talacharn
Yn ôl i Deg Tref