Cwmaman
Part of the Ten Towns initiative
Un o ‘Barthau Twf’ mawr economi Sir Gâr ac yn lleoliad ar gyfer buddsoddi strategol a thwf mewn tai, cyflogaeth a thir masnachol. Yn unigryw ymysg deg tref wledig Menter y Deg Tref gan ei bod yn ganolbwynt hirdymor ar gyfer buddsoddi ar raddfa ranbarthol mewn seilwaith ac amryw o barthau twf, gan gynnwys Gorllewin Cross Hands, Parth Bwyd a Safle Strategol Dwyrain Cross Hands, gyda’r olaf yn targedu’r sectorau allweddol gan gynnwys gwyddorau bywyd, gweithgynhyrchu uwch, a thechnolegau amgylcheddol, creadigol ac amaeth-bwyd. O ganlyniad, mae llawer o’r heriau economaidd-gymdeithasol mae cymunedau gwledig eraill yn eu hwynebu yn llai tyngedfennol yn Cross Hands a’i chefnwlad ehangach, sydd wedi profi twf sylweddol mewn poblogaeth dros y blynyddoedd diwethaf ac sy’n cefnogi poblogaeth iau gyda chyfraddau uwch o weithgarwch economaidd a lefel uwch o gyflogaeth lawn-amser.
Ein Blaenoriaethau
Mae ein Cynllun Twf Economaidd yn nodi'r blaenoriaethau canlynol a fydd yn cael eu cyflawni drwy brosiectau penodol.
- Annog buddsoddi ac ymateb i’r galw am safleoedd diwydiannol a busnes o safon uchel yn Cross Hands
- Parth Busnesau Bach Heol Llandeilo / Heol Caerfyrddin
- Gwella trafnidiaeth a theithio llesol
- Parth Twf: brand a gwybodaeth
- Parth Twf: corff busnes ac Ardal Gwella Busnes posibl
- Siop Hyrwyddo Bwyd Gorllewin Cymru