Swydd Wag: Gweithredydd Cynnal a Chadw Cyfleusterau
Oriau yr wythnos: 37
Cyflog: Gradd D £23,500
Mae Cyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn am benodi gweithiwr cynnal a chadw cyfleusterau amser llawn i ymuno â thîm bach prysur iawn.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar drwydded yrru glân, lawn yn y DU a mwynhau gweithio mewn amgylchedd awyr agored boed glaw neu hindda.
Mae profiad mewn rôl debyg a'r gallu i ddatrys problemau o ddydd i ddydd yn hanfodol. Mae angen i'r ymgeisydd fod yn gorfforol heini i ymgymryd â'r rôl hon gan ei bod yn cynnwys cloddio â llaw, cario deunyddiau, a cherdded am gyfnodau hir ym mhob tywydd.
Cysylltwch â Paul Mann ar 01556 834346 i gael rhagor o wybodaeth a/neu ffurflen gais. D.S. Ni dderbynnir CVs.
Y dyddiad cau yw dydd Gwener, 25 Ebrill 2025. Cynhelir y cyfweliadau ddydd Mawrth, 1 Mai 2025.