Prentisiaethau Amdani
Mae prentisiaeth yn gyfle i ennill cyflog, ennill profiad ymarferol a chyflawni cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol a chael mynediad i fanteision gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin.
Fel prentis, cewch eich mentora gan ein staff profiadol trabyddwch hefyd yn treulio cyfran o'ch amser cyflogedig yn mynychu hyfforddiant gyda'ch darparwr hyfforddiant i'ch helpu i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i gwblhau eich cymhwyster. Mae ein rhaglen brentisiaeth Amdani ar gyfer unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn sy'n dechrau yn eu gyrfa neu'n chwilio am newid gyrfa, nid oes terfyn oedran uchaf, ond efallai y bydd rhai cyfyngiadau neu ofynion mynediad eraill yn dibynnu ar y rôl rydych chi'n gwneud cais amdani.
Rydym yn cynnig prentisiaethau ym meysydd Gweinyddu Busnes, Gwasanaeth Cwsmeriaid, TGCh, Peirianneg Fecanyddol, AAT, Rheoli Adeiladu, ac amrywiaeth o brentisiaethau eraill felly cadwch lygad allan.
Fel prentis, mae cyfleoedd i ddefnyddio eich Cymraeg bob dydd drwy sgyrsiau gyda chwsmeriaid a’ch tîm ac ymgymryd â’ch dysgu’n ddwyieithog.
I gael rhagor o wybodaeth am Amdani, edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.