Neges destun y Dreth Gyngor
Diweddarwyd y dudalen ar: 22/10/2026
Os ydych yn syrthio ar ei hôl hi o ran eich taliadau Treth Gyngor, a bod gennym eich manylion cyswllt, efallai y byddwn yn cysylltu â chi drwy neges destun.
Bydd y neges destun yn cael ei hanfon o 'CarmsCC'. Bydd yn cynnwys eich enw, fel y mae'n ymddangos ar eich bil Treth Gyngor, ac yn gofyn i chi glicio ar ddolen i gadarnhau pwy ydych chi::

Bydd y ddolen bob amser yn cynnwys 'sirgar.llyw.cymru' ac ar ôl clicio, bydd yn cyflwyno tudalen ddilysu i chi i gadarnhau eich côd post:

Ar ôl cadarnhau pwy ydych chi, byddwch yn cael eich ailgyfeirio at dudalen newydd a fydd yn manylu ar eich taliad(au) sy'n ddyledus o ran y Dreth Gyngor ac yn rhoi dolenni pellach i chi wneud taliad, drwy ein llinell dalu awtomataidd, a'n gwefan. Bydd hefyd yn darparu manylion cyswllt i chi os hoffech drafod eich taliad(au) sy'n ddyledus:

