Gwasanaeth negeseuon testun ac e-bost y Dreth Gyngor

Os ydych ar ei hôl hi o ran eich taliadau Treth Gyngor, a bod gennym eich manylion cyswllt, mae'n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi drwy neges destun a/neu neges e-bost.

Pam rydym yn defnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall y gwasanaeth hwn atal cyhoeddi hysbysiadau adennill statudol fel llythyrau atgoffa am y Dreth Gyngor a gall eich helpu i osgoi talu costau drud.

Er bod y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnig i atal cwsmeriaid rhag mynd ymhellach i ddyled, ni ddylech ddibynnu arno.

Eich cyfrifoldeb chi yw talu'r rhandaliadau sy'n ddyledus ar eich cyfrif yn unol â'ch bil. Gall methu â gwneud hynny arwain at gymryd camau adennill pellach.

Sut y byddwn yn cysylltu â chwsmeriaid?

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi drwy un neu ragor o'r canlynol:

  • neges destun a sgrin ddilysu
  • e-bost a sgrin ddilysu

Rwyf wedi cael neges - sut ydw i'n gwybod a yw hyn yn ddilys ai peidio?

Gweld manylion yr hyn y dylech ddisgwyl ei dderbyn gyda phob math o neges: