Negeseuon e-bost y Dreth Gyngor
Diweddarwyd y dudalen ar: 22/10/2026
Os ydych chi'n syrthio ar ei hôl hi o ran eich taliadau Treth Gyngor, a bod gennym eich manylion cyswllt, efallai y byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost.
Bydd y neges e-bost yn cael ei hanfon o email@sirgar.gov.uk. Bydd yn cynnwys eich enw, fel y mae'n ymddangos ar eich bil Treth Gyngor, a bydd yn manylu ar eich taliad Treth Gyngor sy'n ddyledus. Bydd y neges e-bost yn darparu dolenni i chi i allu gwneud taliad, drwy ein llinell dalu awtomataidd, a'n gwefan. Bydd hefyd yn darparu manylion cyswllt i chi os hoffech drafod eich taliad(au) sy'n ddyledus:
