Deddfwriaeth a Chanllawiau

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/04/2024

Yng Nghymru mae gennym erbyn hyn fframwaith o ddeddfwriaeth, polisi a chanllawiau cydlynol a ddatblygwyd i arwain gweithredu a gofalu am a chyfoethogi bioamrywiaeth yng Nghymru a’r defnydd cynaliadwy o’n hadnoddau naturiol.

Yn Sir Gaerfyrddin, mae’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau a amlinellwyd yn Neddf Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cynnig cyfeiriad pendant i gyrff cyhoeddus (gan gynnwys y cyngor) ar gyfer diogelu bioamrywiaeth ac ecosystemau cynaliadwy.  Yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru cynhyrchwyd Cynllun Gweithredu sy’n esbonio trefn realistig ar gyfer yr hyn y gellir ei gyflawni yn y cyfnod cychwynnol, ac sy’n cyflwyno fframwaith fydd yn parhau i gael ei ddatblygu. Mae’r Cyngor wedi nodi sut fydd yn sicrhau cydweithio ar draws yr awdurdod er mwyn datblygu dealltwriaeth o fioamrywiaeth. Mae Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016 hefyd yn ceisio sicrhau bod ystyried bioamrywiaeth yn cael ei wreiddio yn yr holl brosesau datblygu busnes a phrosiectau trwy gyfrwng camau sy’n chwilio am gyfleoedd i ofalu am a chyfoethogi ein hamgylchedd naturiol a hwyluso cydnerthedd ecosystemau.

Er bod hyn yn creu heriau mae hefyd yn cynnig cyfleoedd i’r Cyngor roi sylw i gyfoethogi bioamrywiaeth o fewn meysydd gwaith lle na chafodd efallai ei ystyried yn y gorffennol. Caiff y Blaen Gynllun ei adolygu’n rheolaidd a chyflwynir adroddiad i Lywodraeth Cymru bob 2 flynedd.

Mae Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor 2018-23 hefyd yn cynnwys amcan Llesiant i ‘Ofalu am yr Amgylchedd ar hyn o bryd ac i’r dyfodol’, sy’n adlewyrchu’r Nod Cydnerthedd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n mynnu fod cyrff cyhoeddus yn pennu amcanion ar gyfer sicrhau ‘amgylchedd naturiol bioamrywiol yn cynnwys ecosystemau iachus, byw’. Mae hyn yn rhan o’r nod cyffredinol i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Cynllunio