Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diweddarwyd y dudalen ar: 24/11/2023

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol newydd yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Mae’n golygu bod rhaid i ni wneud ein gwaith mewn ffordd gynaliadwy, a meddwl am yr effaith gall ein gwaith gael ar bobl sy’n byw eu bywydau yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol. Rhaid i ni weithio gyda chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i:

  • gydweithio’n well
  • cynnwys pobl, gan adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau
  • edrych ar bethau yn yr hirdymor yn ogystal â chanolbwyntio ar y sefyllfa ar hyn o bryd
  • cymryd camau i geisio rhwystro problemau rhag gwaethygu - neu hyd yn oed eu hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Er mwyn helpu i ddeall y Ddeddf, rydym wedi cymryd dull ABC:

Fel bob un o’r cyrff cyhoeddus unigol a enwir yn y Ddeddf, mae’n rhaid i ni ddilyn yr egwyddor datblygu gynaliadwy - sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Er mwyn i Gymru fod yn gynaliadwy, mae’n bwysig ein bod yn gwella’r pedair agwedd ar ein llesiant (economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol) - mae pob un mor bwysig â’i gilydd.

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus weithredu pum ffordd allweddol o weithio wrth iddynt wneud penderfyniadau yn y dyfodol: edrych i’r tymor hir; gweithio mewn ffordd integredig; cynnwys amrywiaeth eang o’r boblogaeth; cydweithio gydag eraill; a deall gwraidd problemau er mwyn eu hatal rhag digwydd.

Wrth wneud penderfyniadau, mae’n rhaid i bob corff cyhoeddus sicrhau ei fod yn meddwl am sut bydd pethau’n effeithio ar bobl a fydd yn byw yng Nghymru yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu bod angen iddyn nhw feddwl am fod yn gynaliadwy. Mae bod yn gynaliadwy yn golygu defnyddio’r pethau sydd eu hangen arnom ni gan sicrhau bod digon ar ôl ar gyfer y cenedlaethau fydd yma yn y dyfodol.I fod yn gynaliadwy, mae’n rhaid iddyn nhw feddwl am:

  • Y tymor hir
  • Pa effaith penderfyniadau gael ar ei gilydd?
  • Sut maen nhw’n cynnwys pobl eraill wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau
  • Sut maen nhw’n gweithio gydag eraill
  • Sut i roi stop ar broblemau cyn iddyn nhw ddigwydd

Mae hyn yn golygu bod angen i ni weithio ar y cyd i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ein hardal trwy weithio i gyflawni’r 7 nod Llesiant. Byddwn yn asesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ac yn cyhoeddi cynllun llesiant bydd yn gosod allan ein hamcanion lleol a’r camau byddwn yn cymryd er mwyn eu cyflawni.

Mae’r saith o nodau llesiant yn dangos y math o Gymru rydym eisiau ei gweld. Gyda’i gilydd maent yn darparu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf, i weithio tuag ati. Maent yn gyfres o nodau; mae’r Ddeddf yn datgan yn glir bod rhaid i gyrff cyhoeddus weithio i gyflawni’r holl nodau, nid dim ond un neu ddau.

Bydd hyn yn ein helpu i greu Cymru rydym i gyd eisiau byw ynddi, yn awr ac yn y dyfodol.

Mae’r byrddau hyn wedi cael eu sefydlu fel rhan o’r Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol, ac yn disodli Byrddau Gwasanaethau Lleol (LSB) oedd ar waith yn flaenorol.

Eu diben yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd drwy gydweithio i gyflawni’r nodau llesiant.

Ceir 19 o fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Lleol a bydd 20 o Asesiadau Llesiant Lleol drafft yn cael eu llunio yn barod ar gyfer ymgynghori’n gyhoeddus yn eu cylch.

Aelodau Statudol pob un o’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yw:

  • Yr awdurdod lleol
  • Y Bwrdd Iechyd Lleol
  • Yr Awdurdod Tân ac Achub
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

Yn ychwanegol at yr aelodau statudol, bydd yr holl Fyrddau Gwasanaethau Lleol yn gwahodd y bobl ganlynol i gymryd rhan:

  • Gweinidogion Cymru
  • Prif Gwnstabliaid
  • Comisiynydd yr heddlu a throseddu
  • Ambell Wasanaeth Prawf
  • O leiaf un corff sy’n cynrychioli sefydliadau gwirfoddol perthnasol
  • Ymhellach, bydd Byrddau Gwasanaethau Lleol yn gallu gwahodd sefydliadau eraill yn y gwasanaethau cyhoeddus i gymryd rhan

Yn Sir Gaerfyrddin mae ein pedwar aelod statudol yw:

Ein partneriaid eraill yw:

Ein hamcanion llesiant

Cyngor a Democratiaeth