Sut mae pleidleisio?
Nodwch - newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy.
Mae'r newidiadau isod yn berthnasol i'r etholwyr hynny sy'n ystyried gwneud cais am bleidleisio drwy'r post neu benodi rhywun i bleidleisio ar eu rhan, a elwir yn ddirprwy.
Newidiadau i bleidleisio drwy'r post:
Byddwch yn gallu gwneud cais am bleidlais drwy'r post ar gyfer etholiadau Seneddol ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu YN UNIG drwy system ar-lein llywodraeth ganolog newydd. Bydd yn ofynnol cadarnhau hunaniaeth etholwyr sy'n gwneud cais am bleidlais drwy'r post ar gyfer y ddau fath hyn o etholiad gan ddefnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau, a hynny wrth wneud cais ar-lein ond hefyd wrth lenwi cais papur.
Bydd eich cais am y ddau fath hyn o etholiad yn para am hyd at dair blynedd. Bydd angen i chi wneud cais newydd erbyn y trydydd 31 Ionawr ar ôl i'ch cais gael ei ganiatáu. Bydd hysbysiad o'r angen i wneud cais newydd yn cael ei anfon cyn hyn ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.
Mewn etholiadau Seneddol neu etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, bydd terfyn hefyd ar faint o bleidleisiau drwy'r post y caiff etholwr eu cyflwyno mewn unrhyw orsaf bleidleisio neu adeilad cyngor. Byddwch yn cael cyflwyno eich un eich hun, a hyd at bump arall.
Yn y ddau fath hyn o etholiad, bydd pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr yn cael eu gwahardd rhag ymdrin â phecynnau pleidleisio drwy'r post ar ran etholwyr oni bai eu bod yn cyflwyno eu pleidlais eu hunain, perthynas agos neu rywun y maen nhw'n darparu gofal rheolaidd iddo neu y darperir gofal rheolaidd iddo gan sefydliad sy'n eu cyflogi neu'n eu defnyddio.
Yn achos etholiadau'r Senedd a Llywodraeth Leol yn unig ni fyddwch yn gallu gwneud cais ar-lein am bleidlais drwy'r post ond bydd yn rhaid i chi lenwi cais papur. Gallwch ofyn am un o'r ffurflenni hyn gan eich swyddfa etholiadau neu fynd ar-lein i lawrlwytho'r ffurflen hon o wefan y Comisiwn Etholiadol. Nid oes angen cadarnhau ID ar gyfer y ddau fath hyn o etholiad.
Gall eich cais am y ddau fath hyn o etholiad bara am gyfnod amhenodol ar yr amod eich bod yn parhau i adnewyddu eich llofnod bob pum mlynedd. Bydd cais am adnewyddu eich llofnod yn cael ei anfon atoch gan y swyddfa etholiadau ar yr adeg ofynnol.
Ar gyfer etholwyr sydd â threfniant pleidlais drwy'r post ar waith cyn 31 Hydref 2023 - nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall. Bydd y swyddfa etholiadau yn cysylltu â chi pan fydd angen i chi adnewyddu eich pleidleisiau drwy'r post ar gyfer pob math o etholiad.
Pryd y bydd y newidiadau yn dod i rym?
- Disgwylir i'r broses gwneud cais bob tair blynedd i bleidleiswyr drwy'r post sy'n gwneud cais ar gyfer Etholiadau Seneddol ac Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ddechrau o fis Hydref 2023. Ni fydd angen i etholwyr sydd â threfniant pleidlais drwy'r post presennol ar waith cyn i'r newidiadau ddod i rym wneud unrhyw beth tan 31 Ionawr 2026, ond bydd y Tîm Etholiadau yn cysylltu â chi cyn y dyddiad hwn ynghylch y trefniadau pontio.
- Disgwylir i'r rheolau ynghylch cyfrinachedd a phwy sy'n cael ymdrin â phleidleisiau drwy'r post ar gyfer y mathau uchod o etholiad fod ar waith ar gyfer etholiadau sy'n cael eu cynnal ar 2 Mai 2024 neu ar ôl hynny.
- Disgwylir ceisiadau pleidleisio absennol ar-lein a gorfod gwneud cais ar wahân ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol o fis Hydref 2023.
Newidiadau i bleidleisio drwy ddirprwy:
Yn achos etholiadau Seneddol ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu bydd newidiadau i'r terfyn ar faint o bobl y caiff pleidleisiwr fod yn ddirprwy ar eu cyfer. Ar hyn o bryd caiff person fod yn ddirprwy ar gyfer nifer diderfyn o berthnasau agos a dau etholwr arall. O dan y rheolau newydd ar gyfer y mathau hyn o etholiad, byddai pleidleiswyr yn cael eu cyfyngu i fod yn ddirprwy ar gyfer pedwar o bobl, a dim ond dau ohonynt sy'n cael bod yn etholwyr domestig sy'n byw yn y DU waeth beth fo'u perthynas (neu uchafswm o 4 o bobl, lle mae 2 berson yn byw yn y DU a 2 berson wedi'u cofrestru fel rhai sy'n byw dramor).
Yn achos etholiadau'r Senedd ac etholiadau Llywodraeth Leol nid oes unrhyw newid i'r rheolau cyfredol h.y., cewch fod yn ddirprwy i ddim mwy na dau etholwr, ac eithrio lle maen nhw'n ŵr neu'n wraig, yn bartner sifil, yn rhiant, yn fam-gu neu'n dad-cu, yn frawd, yn chwaer, yn blentyn neu'n ŵyr yr etholwr.
Pryd y bydd y newid hwn yn dod i rym?
Disgwylir y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym o 23 Hydref.
Yn achos etholwyr sydd â dirprwy wedi'i benodi cyn 31 Hydref 23:
Bydd angen i bob etholwr presennol (domestig a thramor) sydd â threfniant dirprwy ar waith cyn 31 Hydref 2023 wneud cais newydd erbyn 31 Ionawr 2024. Bydd y tîm etholiadau yn cysylltu â chi ac yn rhoi digon o rybudd a chymorth i chi ddiweddaru eich trefniadau.
agos at ddyddiad yr etholiad, anfonir cerdyn pleidleisio swyddogol atoch chi yn nodi Dyddiad yr Etholiad a ble mae eich gorsaf bleidleisio leol. Gallwch bleidleisio yno rhwng 7am a 10pm ar Ddiwrnod yr Etholiad. Bydd ein staff ni ym mhob gorsaf bleidleisio i’ch helpu gydag unrhyw gwestiynau neu os oes gennych anabledd.
Gallwch ddewis pleidleisio trwy’r post mewn etholiad, ond mae’n rhaid eich bod wedi llenwi a dychwelyd ffurflen gais i’r Gwasanaethau Etholiadol erbyn y dyddiad cau a nodwyd ar eich cerdyn pleidleisio (y dyddiad cau yw’r 12 fed diwrnod gwaith cyn yr etholiad bob tro).
Pleidleisiau post
Yn lle mynd i'ch gorsaf bleidleisio gallwch wneud cais am bleidlais bost. Mae Pleidleisiau Post ar gael i bawb a gellir eu danfon i unrhyw gyfeiriad, hyd yn oed dramor, ond cofiwch fod rhaid i'ch papur pleidleisio gyrraedd yn ôl inni cyn cau'r pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.
Lawrlwythwch ffurflen cais pleidlais drwy'r post ar y wefan Comiswn Etholiadol
Pleidleisio procsi
Os na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad gallwch wneud cais i gael pleidlais brocsi. Ystyr hynny yw eich bod yn penodi rhywun i bleidleisio ar eich rhan.
Yna mae'r person hwnnw neu honno yn mynd i'r orsaf bleidleisio a bwrw eich pleidlais.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen cais yw chwe diwrnod cyn diwrnod yr etholiad (heb gynnwys penwythnosau a gwyliau banc). Mewn rhai amgylchiadau, pan fo gennych argyfwng sy'n golygu na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio'n bersonol, gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng hyd at 5pm ar ddiwrnod y bleidlais.
Lawrlwythwch ffurfleni cais pleidlais drwy ddirprwy ar y wefan Comiswn Etholiadol
Pleidleisio drwy'r post drwy ddirprwy
Os nad yw eich dirprwy yn mynd i fod gartref diwrnod yr etholiad, gall wneud cais am i'w bapur pleidleisio drwy ddirprwy gael ei bostio ato/ati. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen cais yw chwe diwrnod cyn diwrnod yr etholiad (heb gynnwys penwythnosau a gwyliau banc). Gwnech gais am ffurflen gais pleidleisio drwy'r post drwy ddirprwy gan ffonio 01267 228 889.
Dychwelyd eich ffurflenni cris
Mae'n rhaid i chi ddychwelyd eich ffurflenni cais drwy'r post/drwy procsi i'r cyfeiriad canlynol:
Uned Gwasanaethau Etholiadol, Adeilad 4, Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin, SA31 1HQ
Pleidleisio Hygrych
Dylai pleidleisio ac etholiadau fod ar gael yn hawdd i bawb sydd â'r hawl gyfreithiol i bleidleisio, p'un a oes ganddynt anabledd ai peidio. Gwyddom y bydd angen mwy o gefnogaeth ar rai pobl nag eraill i ddefnyddio eu pleidlais – a bydd ein tîm etholiadau yn hapus i helpu. Ar gyfer pleidleiswyr ag anableddau, mae'r wefan Every Vote Counts yn adnodd ardderchog gyda gwybodaeth glir am y broses etholiadol, cofrestru i bleidleisio a phleidleisio yn y gorsafoedd pleidleisio.
Yn yr orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad bydd bwth pleidleisio lefel isel i bobl anabl yn addas i'w ddefnyddio gyda chadair olwyn. Bydd hysbysiadau print bras o bapurau pleidleisio ar gael i'w gweld ym mhob gorsaf bleidleisio, gellir eu defnyddio er gwybodaeth, ond rhaid i chi barhau i fwrw'ch pleidlais ar bapur pleidleisio print safonol fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Bydd cymorth a elwir yn ddyfais gyffyrddadwy ar gael i alluogi pleidleiswyr dall neu rai sydd â nam ar eu golwg i bleidleisio heb gymorth. Gofynnwch i staff yn yr orsaf bleidleisio am y ddyfais hon. Byddwch hefyd yn gallu gofyn i'r Swyddog Llywyddu (y person sy'n gyfrifol am yr orsaf bleidleisio) i'ch helpu, maent wedi'u rhwymo'n gyfreithiol gan yr Angen am Gyfrinachedd felly bydd eich pleidlais yn gyfrinachol.
Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, angen help i gofrestru neu i bleidleisio, cysylltwch â'r tîm etholiadau ar 01267 228889.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Cynlluniau gwaith i'r dyfodol
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Ymgynghori a Pherfformiad
- Ymgynghoriadau actif
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Amcanion lles
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2021-22
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau Lleol 2022
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2021
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Adolygiad o Ffiniau Seneddol
- Deddf Etholiadau 2022 ac ID Pleidleisiwr
- Adolygiad Cymunedol 2023
Diogelu Data
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth