Cofrestru i bleidleisio
Sicrhewch eich bod yn cael dweud eich dweud – defnyddiwch eich hawl i bleidleisio. Os na fyddwch yn pleidleisio byddwch yn colli eich cyfle i ddylanwadu ar y ffordd y gweithredir y wlad.
Gallwch bleidleisio:
- Pan fyddwch yn 18 ac wedi eich cofrestru i bleidleisio
- Hefyd, mae angen i chi fod yn un o ddinasyddion Prydain, Iwerddon, y Gymanwlad, neu'r Undeb Ewropeaidd.
Cofiwch nad oes modd i chi bleidleisio os nad yw eich enw ar y Gofrestr Etholiadol. Os nad ydych yn siŵr a ydych wedi cofrestru i bleidleisio, llenwch ein ffurflen ar-lein a byddwn yn gwirio eich manylion.
Sut ydych yn cael eich cofrestru?
Gallwch gofrestru ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu gwnewch gais am ffurflen gan y swyddfa etholiadau.
- Gallwch gofrestru yn 16 oed neu'n hŷn (gan fod y Gofrestr Etholiadol yn cael ei gweithredu o 1 Ragfyr hyd at 30 Tachwedd bob blwyddyn, mae angen dyddiadau geni'r rheiny sydd bron â chyrraedd eu 18 oed arnom er mwyn sicrhau eu bod ar y gofrestr mewn da bryd fel bo modd iddynt bleidleisio). Er ei fod yn bosibl y bydd eich enw yn ymddangos ar y Gofrestr Etholiadol cyn eich bod yn 18, ni fydd hawl gennych i bleidleisio hyd nes y byddwch yn 18.
- Rhaid i chi fod yn un o ddinasyddion Prydain, Iwerddon, y Gymanwlad, neu'r Undeb Ewropeaidd.
- Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i gael eich cofrestru i bleidleisio
- Nid oes rheidrwydd arnoch i bleidleisio ond mae'n rhaid i chi gael eich cofrestru i bleidleisio
- Mae'n rhaid i chi gael eich cofrestru'n flynyddol
- Os ydych yn gwneud cais am gredyd, gall asiantaethau archwilio credyd ddefnyddio'r gofrestr i wirio eich manylion, ac os nad ydych wedi eich cofrestru gallai eich cais am gredyd gael ei wrthod.
Myfyrwyr
Fel myfyriwr, gallwch gofrestru yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor ac yn eich cyfeiriad cartref - felly p'un a ydych yn y brifysgol neu gartref, os ydych wedi cofrestru, gallwch bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad. Ni chewch bleidleisio ddwywaith yn un o etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru nac yn un o etholiadau Seneddol y Deyrnas Unedig. Ond cewch bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol gartref ac yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor, cyhyd ag nad ydynt yn yr un ardal llywodraeth leol.
Beth yw’r cam nesaf?
Mae'r wybodaeth yr ydym yn ei derbyn ar y ffurflenni cofrestru a ddychwelir gan bob cartref yn cael ei defnyddio i lunio rhestr, a elwir yn Gofrestr Etholiadol. Cafodd cofrestr 2018 ei chyhoeddi a'i gweithredu ar 1 Rhagfyr 2017. Ceir dau fersiwn o'r gofrestr hon, sef y gofrestr lawn a'r gofrestr agored.
Mae'r gofrestr lawn yn cynnwys pawb sydd wedi eu cofrestru i bleidleisio. Fe'i defnyddir ar gyfer etholiadau a chan rai sefydliadau i wirio ceisiadau credyd ac i atal troseddau. Mae'r gofrestr agored yn cynnwys rhai o'r bobl sydd wedi eu cofrestru i bleidleisio. Gallwch ddewis a ydych am fod ar y gofrestr hon ai peidio drwy roi tic mewn blwch ar y ffurflen gofrestru a anfonir i'ch cartref. Gall unrhyw un brynu'r gofrestr hon a'i defnyddio at ba bwrpas bynnag.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau, ASau a ASEau
- Eich Cynghorydd Sir
- Sut mae bod yn Gynghorydd
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Cynulliad Cymru
- Aelodau Seneddol
- Aelodau Senedd Ewrop
Adrannau'r Cyngor
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
Strategaethau a chynlluniau
Cyllideb y Cyngor
Ymgynghori a Pherfformiad
- Ymgynghoriadau actif
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Amcanion lles
Canllawiau Brexit
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth