Cyllideb y Cyngor

7. Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor

Efallai y gallwch chi helpu i arbed arian i'r Cyngor trwy ddefnyddio'r awgrymiadau syml canlynol. Bydd hyn yn ein galluogi i gynnal a darparu gwasanaethau pwysig yn fwy effeithiol.

Ailgylchu mwy o sbwriel eich cartref

Mae'n ofynnol i ni gynyddu ein cyfradd ailgylchu i 64% ac am bob 1% o dan y targed hwn gan Lywodraeth Cymru, bydd y Cyngor yn cael dirwy o £164,000.

Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon

Yn ogystal ag anharddu'r amgylchedd; mae'n costio amser ac adnoddau i'w lanhau. Helpwch ni i ddal y troseddwyr - ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gweithredu ac erlyn pobl.

Cael gwared â'ch sbwriel yn gyfrifol

Mae glanhau strydoedd yn costio swm sylweddol i'r Cyngor bob blwyddyn. Trwy waredu sbwriel yn iawn, bydd hyn yn lleihau'r angen i staff y Cyngor lanhau sbwriel o'n strydoedd.

Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol

Mae'n costio llai i ni weinyddu Debyd Uniongyrchol nag unrhyw ddull talu arall. Gallwch dalu am y Dreth Gyngor, Rhent Tai a mwy. Ffoniwch ni ar 01267 234567 sefydlu Debyd Uniongyrchol.

Dewch yn wirfoddolwr

Gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r gymuned leol, dysgu a datblygu sgil newydd, dod yn wirfoddolwr a chefnogi pobl leol.


Yn ogystal, gofynnwn ichi barhau i ddefnyddio gwefan y cyngor i gael mynediad i wasanaethau sydd ar gael ar-lein yn hytrach na chysylltu â ni dros y ffôn neu'n bersonol.

Byddwn yn sicrhau bod mwy o'n gwasanaethau ar gael drwy ein gwefan, e-bostiwch digidol@sirgar.gov.uk a dywedwch wrthym beth yr hoffech gael mynediad iddo ar-lein.