Grant Gwres Carbon Isel

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/12/2023

Rydym wedi llwyddo i sicrhau grant Gwres Carbon Isel Llywodraeth Cymru. Nod y grant yw helpu i hwyluso'r symudiad i ffwrdd o losgi tanwydd ffosil ar gyfer gwresogi a dŵr twym. Mae'r cyngor wedi derbyn cyllid o ychydig o dan £4 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf, gyda chyfraniad pellach o 10% yn dod yn uniongyrchol gan y cyngor. Bydd y cyngor yn defnyddio'r cyllid i gael gwared ar systemau gwresogi tanwydd ffosil ac uwchraddio i bympiau gwres o'r awyr a phympiau gwres ffynhonnell daear mewn 6 ysgol gynradd ar draws y sir:

  • Ysgol Peniel
  • Ysgol Cae’r Felin
  • Ysgol Bro Brynach
  • Ysgol y Ddwylan
  • Ysgol Llechyfedach
  • Ysgol y Dderwen

Bydd gosod y pympiau gwres yn cael ei gwblhau ar y cyd â mesurau effeithlonrwydd ynni eraill (os nad ydynt eisoes yn bresennol), megis, ffenestri gwydr dwbl, waliau ceudod ac inswleiddio llofftydd. Bydd hyn yn gwneud y mwyaf o'r gostyngiad mewn allyriadau carbon, a rhagwelir y bydd y prosiect yn arbed 162tCO2e bob blwyddyn.

Cyngor a Democratiaeth