Pam yr ydym yn ymgynghori
Mae Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd y Cyngor wedi cynnull Grŵp Gorchwyl a Gorffen i adolygu swyddogaeth trwyddedu bridio cŵn y Tîm Iechyd Anifeiliaid, Materion Defnyddwyr a Busnes.
Nod yr adolygiad yw asesu a yw'r gwasanaeth a ddarperir ar hyn o bryd yn ddigon cadarn, cyson, cydlynol, yn darparu canlyniadau mesuradwy ac yn cynnig gwerth am arian, ac archwilio cyfleoedd i wella.
Fel rhan o'r adolygiad mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn gofyn am farn trigolion Sir Gaerfyrddin a rhanddeiliaid allweddol.
Camau nesaf
Bydd adborth yn cael ei roi i'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen - Craffu i'w ystyried fel rhan o'i adolygiad.
Ar ôl cwblhau'r adolygiad, bydd adroddiad terfynol, a fydd yn cynnwys argymhellion i'r Cabinet, yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd yn ddiweddarach eleni.