Pam yr ydym yn ymgynghori

Diweddarwyd y polisi codi tâl presennol ddiwethaf ym mis Ebrill 2019; felly, teimlwyd ei bod bellach yn bryd adolygu'r polisi, ac ystyried unrhyw newidiadau angenrheidiol.

Mae'r polisi drafft yn nodi'r diwygiadau arfaethedig a awgrymwyd ac yn ceisio ymgynghori yn eu cylch.

Camau nesaf

Bydd Adroddiad Ymgynghori yn crynhoi’r sylwadau a gyflwynwyd gan ymgyngoreion yn cael ei baratoi a’i gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.

Bydd yr Adroddiad Ymgynghori yn cael ei gyflwyno i aelodau'r Cabinet i'w ystyried a ddylid cymeradwyo'r strategaeth ai peidio.