Pam yr ydym yn ymgynghori

Mae Rhan 6 o Ddeddf Tai 1996 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol gael cynllun ar gyfer penderfynu sut y bydd yn dyrannu tai cymdeithasol. Cyn inni wneud unrhyw newidiadau mawr i'r cynllun hwn, dylem roi cyfle rhesymol i randdeiliaid wneud sylwadau.

Datblygodd polisi Llywodraeth Cymru gynlluniau i sicrhau bod gwasanaethau'n cyd-fynd â'r dull Ailgartrefu Cyflym, ac yn gweithio tuag ato. Arweiniodd hyn at adolygu ein Polisi Dyrannu Tai tua diwedd 2022. Ers mis Ebrill 2023 rydym wedi bod yn treialu'r Polisi Dyrannu Brys. Mae hyn wedi ein galluogi i dreialu'r dull newydd hwn o ddyrannu a nodi unrhyw broblemau gyda'n newidiadau arfaethedig i flaenoriaethu'r rhai sydd â'r angen mwyaf am dai a llunio polisi tymor hir newydd.

Pwrpas yr ymarfer ymgynghori hwn yw caniatáu rhagor o fewnbwn gan nifer o randdeiliaid sy'n ein galluogi i sicrhau bod anghenion unigolion o ran tai yn cael eu diwallu, a bod unrhyw gyfnod o fod yn ddigartref yn brin, yn fyr ac nad yw'n digwydd dro ar ôl tro.

 

Camau nesaf

Defnyddir yr adborth o'r gwaith ymgynghori i lywio'r polisi terfynol. Bydd y wybodaeth a gesglir yn ein galluogi i nodi barn y rhanddeiliaid, gan sicrhau ein bod yn parhau i weithio tuag at ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru a blaenoriaethu'r rhai sydd â'r angen mwyaf am dai.

Yr amcan ddyddiad ar gyfer cyhoeddi'r adroddiad, sy'n cynnwys adborth, fydd Mehefin 2024 a bydd penderfyniad yn cael ei wneud erbyn mis Hydref 2024