Polisi Dyann Tai Cymdeithasol Brys

Trosolwg

1.1  Cafodd y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Brys hwn (a elwir o hyn ymlaen “y Polisi”) ei lunio yn unol ag Adran 167(2) Deddf Tai 1996, sy’n caniatáu i awdurdodau lleol roi blaenoriaeth ychwanegol i ymgeiswyr a chanddynt anghenion tai brys.

1.2  Datblygwyd y Polisi hwn gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cymunedau, Tai ac Adfywio. Ar hyn o bryd mae’n disodli’r Polisi presennol ar gyfer dyrannu tai cymdeithasol a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn ar 14 Rhagfyr 2016.

1.3  Gweithiodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen gydag eraill i gyd-gynhyrchu’r Polisi, gan ymgysylltu â’n Partneriaid Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSL). Cafodd y cynigion eu profi gyda staff rheng flaen ac mae eu hadborth wedi dylanwadu ar ddatblygiad y Polisi.

1.4  Mae’r Polisi ar gyfer dyrannu tai cymdeithasol a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn ar 14 Rhagfyr 2016 felly’n cael ei ddisodli gan y polisi newydd, diwygiedig (o 28 diwrnod wedi iddo gael ei gymeradwyo gan y Cyngor Sir) i alluogi’r Cyngor a’i Bartneriaid i ddefnyddio ei adnoddau tai prin i ddiwallu anghenion ei drigolion mwyaf agored i niwed a’r sawl sydd fwyaf angen tai.

1.5  Mae’r Polisi hwn yn cyflwyno trefniadau interim clir ar gyfer sut y dyrannwn dai cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, yn ystod y cyfnod atal, mewn ffordd deg a thryloyw.

1.6  Mae’r Polisi hwn yn esbonio sut y byddwn yn enwebu ymgeiswyr cymwys ar gyfer tai mewn ardal y dymunant gael eu cartrefu ynddi. Pan nad yw hynny’n bosib, efallai y cynigiwn gartref addas mewn ardal arall sy’n diwallu eu hanghenion.

1.7  Rheolir y ffordd y dyrennir tai cymdeithasol yn gyfreithiol ond mae’n adlewyrchu rhai blaenoriaethau lleol. Datblygwyd ein blaenoriaethau lleol oherwydd galw cynyddol ar y Gwasanaeth Digartrefedd ac ar Dai Cymdeithasol trwy gytundeb gyda’n Partneriaid Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSL).

1.8  Gweithredwn Gofrestr Dai Gyffredin gyda’n Partneriaid Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Mae’r sefydliadau hyn, ynghyd â’r Cyngor, yn ffurfio’r ‘Bartneriaeth’ y cyfeirir ati yn y ddogfen hon ac y mae eu manylion ar gael oddi wrth y Cyngor. Mae’r Polisi hwn yn berthnasol i dai cymdeithasol a ddarperir gennym ni, Cyngor Sir Caerfyrddin, a’r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig canlynol:

  • Cymdeithas Tai Bro Myrddin
  • Cymdeithas Tai Caredig
  • Cymdeithas Tai Pobl
  • Cymdeithas Tai Wales and West

1.9  Gwneir hyn i sicrhau bod gan bob ymgeisydd sy’n cynnig am dai cymdeithasol un broses gwneud cais ac maent yn cael ei asesu trwy ddefnyddio’r un meini prawf. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i geisio sicrhau bod pob cartref yn cael ei ddyrannu yn ôl y Polisi Dyrannu Brys hwn.

1.10  Mae’r Polisi hwn yn esbonio pwy sy’n gymwys ar gyfer y dyraniad brys o dai cymdeithasol, beth rydym yn ei ystyried wrth wneud y penderfyniad, a sut rydym yn dyrannu ac yn gwneud cynnig tenantiaeth rhesymol. Bydd effaith y ffordd y caiff y Polisi Dyrannu Brys hwn ei weithredu yn cael ei fonitro a’i adrodd.

1.11  Mae’n rhaid i’r Polisi hwn gyflawni ein cyfrifoldebau cyfreithiol ac fe’i datblygwyd yn unol â Deddf Tai 1996 (Rhan 6), Deddf Tai (Cymru) 2014, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Cod Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Lleol: Dyrannu Llety a Digartrefedd (Llywodraeth Cymru, 2016) - a elwir yn “Cod Canllawiau”.