Polisi Dyann Tai Cymdeithasol Brys

Cymhwysedd a Dewis

Cymhwysedd

2.1  Gall unrhyw un wneud cais i gael ei ystyried ar gyfer cartref o dan y Polisi hwn. Ni fydd pob ymgeisydd yn gymwys i gael cartref o dan y Polisi hwn ond ni fydd pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn gymwys ac abl i ymuno â’r Gofrestr Tai (gweler 2.2 i 2.4 isod). Mae’r Cyngor yn cadw Cofrestr Tai o ymgeiswyr am dai ar ei gyfer ei hun, yn ogystal ag ar gyfer ei Bartneriaid sydd wedi dewis mabwysiadu’r Polisi hwn.

2.2  Ni ellir ond gwneud dyraniadau i bersonau cymwys ac ni all y Cyngor enwebu rhai pobl sy’n dod o dramor a chanddynt hawliau cyfyngedig i aros yn y Deyrnas Unedig neu sy’n gaeth i reolaeth fewnfudo (onid ydynt o ddosbarth a ragnodwyd gan Weinidogion Cymru - gweler 2.4). Gall personau o dramor gynnwys Dinasyddion Prydeinig sydd wedi byw’r tu allan i’r Ardal Deithio Gyffredin ac nad ydynt yn byw fel arfer yn yr Ardal Deithio Gyffredin.

2.3  Rhestrir personau sy’n gaeth i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i dderbyn dyraniad o lety tai a chymorth tai yn Rheoliad 3 a 5 Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwysedd) (Cymru) 2014. Trwy reoliadau 4 a 6 y Rheoliadau hyn, mae Gweinidogion Cymru yn rhagnodi’r dosbarth o berson a ddylid (tra nad ydynt yn gaeth i reolaeth fewnfudo) eu trin yn bersonau o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai, neu gymorth tai, yn eu tro. Amlinellir hynny yn Atodiad Un.

2.4  Mae gan y Cyngor hawl, yn unol ag A160A Deddf Tai 1996 i gyfyngu mynediad at ei Gofrestr Tai trwy ac yn unol â chyflwyno amodau cymhwysedd ychwanegol.

  • Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyfyngu mynediad at ei Gofrestr Tai i berson os bydd ef/hi neu aelod o’i deulu/theulu wedi bod yn euog o ymddygiad afresymol sy’n ddigon difrifol i’w gwneud yn anaddas i fod yn denant yr awdurdod; ac yn yr amgylchiadau ar yr adeg y caiff ei gais ei ystyried, maent yn anaddas i fod yn denant yr awdurdod oherwydd yr ymddygiad hwnnw.
    Pan mae’r Cyngor yn cyfeirio at “ymddygiad” mae’n golygu ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall a ddaw o fewn Adran 55 Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Amlinellir hynny yn Atodiad Dau.

2.5  Mae’n rhaid inni fod yn fodlon hefyd nad yw ymgeiswyr yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf fyddai’n eu hatal rhag bod yn gymwys ar gyfer y polisi dyrannu. Mae’r meini prawf hyn yn cynnwys:

  • Gwaethygu eu hamgylchiadau yn fwriadol er mwyn cael mantais ar y polisi.
  • Darparu gwybodaeth ffug neu gadw gwybodaeth yn ôl, sy’n drosedd.

2.6  Er mwyn ymuno â’r Gofrestr Tai mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn 16 oed neu’n hŷn (er gweler 3.14 isod).

2.7  Mae’n bwysig nodi, er ein bod yn caniatáu i bobl 16 ac 17 oed ymuno â’r Gofrestr Tai, na allant yn gyfreithiol gael tenantiaeth yn eu henw eu hunain nes iddynt gyrraedd 18 oed. Golyga hynny fod rhaid iddynt gael rhywun all weithredu’n warantwr a dal eu tenantiaeth dan ymddiried iddynt.

 

Trosolwg o Ddewis

2.8  Rhoddir blaenoriaeth ar y Gofrestr Tai i ymgeiswyr:

  • Sydd ag angen am gartref
  • Sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer llety gwarchod a llety ar gyfer pobl hŷn (ar gyfer pobl dros 55); sydd angen tai gofal ychwanegol (Tai â gofal a chymorth; aseswyd eu bod angen cartref wedi’i addasu; neu sy’n dymuno cofrestru ar gyfer Perchentyaeth Cost Isel (LCHO)
  • Sy’n methu diwallu eu hanghenion tai yn ariannol
  • Sy’n byw neu’n gweithio yn ardal yr awdurdod lleol a/neu’n bodloni’r gofynion Cysylltiad Lleol (Atodiad Tri); neu’n bodloni un o’r gofynion ar gyfer cael eithriad i ofynion Cysylltiad Lleol

2.9  Ni roddir ffafriaeth i ymgeiswyr:

  • Sydd â’r adnoddau ariannol i dalu eu costau tai eu hunain
  • A fu’n euog, neu y bu aelod o’u haelwyd yn euog, o ymddygiad afresymol sy’n ddigon difrifol i’w gwneud yn anaddas i fod yn denant y Cyngor AC yn yr amgylchiadau ar yr adeg y caiff eu cais ei ystyried, eu bod yn haeddu, oherwydd yr ymddygiad hwnnw, peidio cael eu trin yn aelod o grŵp o bobl y rhoddir blaenoriaeth iddynt
  • Nad oes ganddynt Gysylltiad Lleol â Sir Gaerfyrddin, fel y’i diffinnir yn Adran 81 Deddf Tai (Cymru) 2014, oni chawsant eu heithrio o’r meini prawf ar gyfer Cysylltiad Lleol fel y’u nodir yn Atodiad Tri

 


Casgliad

2.10  Bydd y Cyngor yn ystyried pob cais am dai cymdeithasol a wneir yn unol â gofynion gweithdrefnol y Polisi hwn. Fodd bynnag, wrth ystyried ceisiadau, mae’n rhaid i’r Cyngor ganfod a yw ymgeisydd yn gymwys am lety neu a yw ef wedi cael ei eithrio o ddyraniad.

2.11  Er mwyn cael mwy o fanylion am gymhwysedd ac eithriadau trowch at Adran 3. Dylid nodi fod y gyfraith ynghylch cymhwysedd yn gymhleth ac y gall newid.