Polisi Dyann Tai Cymdeithasol Brys

Proses Gwneud Cais ac Asesu

3.1  Pan wneir cais i ymuno â’r Gofrestr Tai cynhelir asesiad tai ar y cais hwnnw. Er y bydd y Cyngor yn ystyried pob ymholiad am help gyda thai, nid yw pob ymgeisydd yn gymwys o dan y Polisi hwn i ymuno â’r Gofrestr Tai (Gweler Adran 2). Mae’r broses ceisiadau ac asesu ar gyfer tai cymdeithasol o dan y Polisi Brys hwn fel a ganlyn:

 

Gwybodaeth, cyngor a chymorth brys

3.2  Bydd tîm o Ymgynghorwyr Hwb Tai yn trafod anghenion ac amgylchiadau tai unigol ac yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth brys priodol.
Bydd cyfweliad yr asesiad cychwynnol yn caniatáu inni ganfod yn llawn:

  • pa mor argyfyngus yw’r angen am dai
  • asesu a fydd ymgeisydd yn gymwys i ymuno â’r Gofrestr Tai
  • ystyried dewisiadau tai er mwyn llunio cynlluniau tai unigol
  • ystyried a oes gan ymgeisydd yr adnoddau ariannol ar gael i dalu ei gostau tai
  • darganfod a oes unrhyw debygrwydd rhesymol y caiff yr ymgeisydd ei gartrefu trwy gofrestru
  • adnabod unrhyw gymorth sydd ei angen (atgyfeiriwch lle y bo angen)

3.3  Gellir cysylltu â’r tîm ar y ffôn ar 01554 899389 neu trwy e-bost yn schoptions@sirgar.gov.uk Yn dilyn yr asesiad cychwynnol, os ydym yn meddwl y gallai’r ymgeisydd fod yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref dylid cyfeirio ymgeiswyr at Ymgynghorydd Dewisiadau Tai. Er mwyn siarad â rhywun wedi oriau swyddfa mewn argyfwng ffoniwch 0300 3332222 neu e-bostiwch contactus@deltawellbeing.org.uk.

3.4  Mae’r Cyngor yn defnyddio proses gwneud cais ar-lein, a darperir cymorth i’n trigolion mwyaf agored i niwed a’r sawl na allant lenwi’r cais ar eu pen eu hunain ac nad oes ganddynt y cymorth i wneud hynny.

3.5  Ni fydd asesiad llawn ond yn digwydd yn dilyn cyfweliad asesu cychwynnol ac wedi inni dderbyn yr holl ddogfennau ategol a’r wybodaeth dystiolaethol i gefnogi’r cais. Byddwn yn cynorthwyo ein trigolion agored i niwed i wneud hyn.

3.6  Yn dilyn yr asesiad, byddwn yn rhoi gwybod i ymgeiswyr beth yw canlyniad yr asesiad, a ydynt yn gymwys i ymuno â’r gofrestr ai peidio, ac a gawsant eu rhoi mewn Band neu os nad oes ganddynt unrhyw ffafriaeth arbennig. Y Band fydd yr un sy’n adlewyrchu orau eu hangen tai. Bydd ganddynt yr hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad hwn os nad ydynt yn cytuno â chanlyniad yr asesiad.

3.7  Bydd cais ar y cyd yn cael ei drin yn un cais. Bydd anghenion tai holl aelodau’r aelwyd yn cael eu hystyried wrth asesu cais. Fodd bynnag, nid ydym yn derbyn ceisiadau lluosog oddi wrth ymgeisydd, sy’n golygu na all unrhyw unigolyn gael ei enw ar fwy nag un cais am gartref ar unrhyw un adeg. Bydd pob ymgeisydd yn cael ystod lawn o ddewisiadau realistig i ddiwallu ei angen am gartref, ac sydd wedi cael eu teilwra i’w anghenion unigol.

3.8  Cyfrifoldeb pob ymgeisydd yw gofalu fod manylion ei gais yn gywir adeg cofrestru a’u bod yn cael eu diweddaru wedi hynny pan mae amgylchiadau’n newid. Gall methu gwneud hynny olygu y caiff y cais ei ddileu, y caiff yr ymgeisydd ei roi yn y Band anghywir, neu fod Cynnig Llety a wneir yn cael ei dynnu’n ôl oherwydd bod manylion y cais yn anghywir.

  • Hefyd, mae Adran 171 Deddf Tai 1996 yn darparu ei bod yn drosedd i ymgeisydd ar gyfer Cofrestr Tai (neu rywun ar ei ran) wneud yn fwriadol neu’n ddiofal ddatganiad materol neu gadw’n ôl wybodaeth y mae’r Cyngor yn rhesymol wedi gofyn amdani.

3.9  Bydd rhaid i ymgeiswyr ailgofrestru eu cais am gartref ddwywaith y flwyddyn i gadarnhau eu bod eisiau cael eu hystyried ar gyfer cartref o hyd. 6 a 12 mis wedi dyddiad eu cais, bydd ymgeiswyr yn cael eu hatgoffa fod rhaid iddynt adnewyddu eu cais. Caiff ymgeiswyr wybod yn ysgrifenedig am y trefniadau ar gyfer adnewyddu’r cais.

3.10  Bydd methu adnewyddu eu cais neu fethu ailgofrestru, mewngofnodi a mynd i mewn i’w cyfrifon, neu gynnig am eiddo sy’n diwallu eu hanghenion, yn golygu y tynnir ymgeiswyr oddi ar y Gofrestr Tai o fewn y cyfnod amser a nodwyd. Mae gan ymgeiswyr yr hawl i apelio yn erbyn cael eu tynnu oddi ar y Gofrestr Tai trwy ddarparu’r dystiolaeth angenrheidiol.

 

Asesiadau Dewisiadau Tai

3.11  Fel rhan o’r asesiad o ddewisiadau tai, byddwn yn penderfynu a fydd ymgeisydd yn gymwys i ymuno â’r Gofrestr Tai. Mae’n rhaid inni sicrhau bod ymgeiswyr yn gymwys i ymuno â'r Gofrestr ac fe gynhelir gwiriadau manwl i sicrhau mai dim ond y sawl sy’n gyfreithiol gymwys ar gyfer tai cymdeithasol sy’n cael eu cofrestru. Rydym angen gwybodaeth fydd yn cynnwys prawf adnabod ffurfiol â llun (e.e., pasbort, trwydded yrru) a Rhif Yswiriant Gwladol. Bydd hyn yn ein helpu i wneud gwiriadau cychwynnol cyn cofrestru. Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth i’n helpu i sicrhau y gwneir dyraniadau yn deg ac yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.

3.12  Mae rhai grwpiau o bobl na allant yn gyfreithiol ymuno â’r Gofrestr waeth beth yw eu hanghenion tai neu amgylchiadau. (Gweler Adran 2 ac Atodiad Un). Mae’r rhain yn bobl:

  • Sy’n dod o dan reolau mewnfudo amrywiol ac na allant wneud cais am gymorth tai
  • Sy’n byw’r tu allan i’r Ardal Deithio Gyffredin (DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon) at ddibenion treth
  • Nad oes ganddynt hawl i fyw yn y DU
  • Y penderfynodd yr Ysgrifennydd Gwladol nad ydynt yn gymwys i gael cartref.

3.13  O dan Adran 160A (7) ac (8) Deddf Tai 1996 gallwn beidio cofrestru pobl y’u cafwyd yn euog o ymddygiad annerbyniol. Digwydd hynny pan rydym yn fodlon fod ymgeisydd (neu aelod o aelwyd yr ymgeisydd) yn euog o ymddygiad annerbyniol sy’n ddigon difrifol i’w gwneud yn anaddas i fod yn denant.

  • Mae ymddygiad annerbyniol yn golygu ymddygiad a fyddai (pe baent yn ddeiliad contract) yn torri amodau Adran 55 Deddf Rhentu cartrefi (Cymru) 2016 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall). Gweler 2.4 a 2.5 uchod i gael rhagor o fanylion.

3.14  Bydd unrhyw un sy’n 16 neu’n 17 oed fel arfer yn cael eu cyfeirio at ein tîm Gwasanaethau Cymdeithasol neu fudiadau eraill sy’n gweithio gyda phobl ifanc ac agored i niwed. Efallai y cynhelir asesiad Deddf Plant 1989. Os yw’r plentyn yn cael ei ystyried yn blentyn mewn angen, rhoddir llety iddo o dan A20 Deddf Plant 1989. Pan nad yw’n cael ei ystyried yn blentyn mewn angen, bydd yn cael ei gyfeirio at y llety â chymorth neu dros dro mwyaf priodol sydd ar gael i’w letya.

 

Meini Prawf Bandio Brys

3.15  Rhoddir ymgeiswyr mewn Band gan ddibynnu ar eu hangen fydd yn cael ei adnabod trwy’r asesiad tai ac yn unol â’r meini prawf a nodir yn y Bandiau.

3.16  O dan y polisi hwn bydd pobl a gafodd eu hasesu o dan Ran 2 Deddf Tai (Cymru) 2014 a phan dderbyniwyd dyletswydd Adran 75; a’r sawl a aseswyd o dan Atodiad 3 y Cod Ymarfer gyda blaenoriaeth ychwanegol yn cael eu hystyried yn gymwys i ymuno â Band A brys i sicrhau eu bod yn cael blaenoriaeth ddigonol ar gyfer tai.

3.17  O dan y Polisi hwn bydd y Cyngor yn cadw Cofrestr o’r ymgeiswyr hynny sy’n gymwys ac sy’n perthyn i:

Band A – Cymhwysedd Brys
Band B – Angen Tai
Band C – y sawl sy’n “gofrestredig yn unig”

A’r sawl nad oes ganddynt unrhyw ffafriaeth yn ôl y Polisi hwn (gweler Adran 2.8).

3.18  Ni fydd pobl a aseswyd yn rhai nad oes ganddynt unrhyw anghenion tai yn cael unrhyw flaenoriaeth ar y Gofrestr Tai o dan y Polisi fel arfer. Ac eithrio ar gyfer yr ymgeiswyr hynny

  • sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer llety gwarchod a llety ar gyfer pobl hŷn (ar gyfer pobl dros 55); sydd angen tai gofal ychwanegol (Tai â gofal a chymorth; aseswyd eu bod angen cartref wedi’i addasu; neu sy’n dymuno cofrestru ar gyfer Perchentyaeth Cost Isel (LCHO)). Efallai y cynigir eiddo iddynt neu y byddant yn gallu cynnig am eiddo na chawsant eu derbyn gan ymgeiswyr o Fandiau A a B.

3.19  Ar gyfer ymgeiswyr presennol (adeg cyflwyno’r polisi hwn) ym Mand A, mewn angen tai brys, bydd eu Band yn cael ei gadw, yn amodol ar 3.8 - 3.10 uchod.

3.20  Bydd cartrefi’n cael eu rhoi i bobl â’r angen mwyaf gyntaf. Dim ond os na ellir cysylltu eiddo ag ymgeisydd mewn Amgylchiadau Eithriadol neu ym Mand A y bydd yn cael ei hysbysebu yn Canfod Cartref - Home Finder.

3.21  Nid yw Tai Cymdeithasol ond yn cael eu dyrannu i bobl a dderbyniwyd ar ein Cofrestr Tai. Unwaith y cadarnhawyd cymhwysedd i ymuno â’r Gofrestr Tai, rhoddir ymgeiswyr mewn Band neu’r grŵp “dim ffafriaeth” fel a ganlyn:

1.Digartrefedd: Ffafriaeth Ychwanegol

  • Ymgeiswyr a gafodd eu hasesu o dan Ran 2 Deddf Tai (Cymru) 2014 a phan dderbyniwyd dyletswydd Adran 75

2.Digartrefedd: Ffafriaeth Resymol

  • Ymgeiswyr sy’n ddigartref, ac y bydd eu lletya yn lleddfu eu digartrefedd (Adran 73 Deddf Tai (Cymru) 2014)
  • Ymgeiswyr a brofodd eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref ac y bydd eu lletya yn eu hatal rhag mynd yn ddigartref (Adran 66 Deddf Tai (Cymru) 2014)
  • Ymgeiswyr y byddai gennym ddyletswydd digartrefedd iddynt gan fod angen iddynt symud ymlaen o dai â chymorth

3.Angen Tai Brys: Ffafriaeth Ychwanegol

  • Ymgeiswyr y mae gennym ddyletswydd ddigartrefedd iddynt oherwydd trais neu fygythiadau o drais sy’n debygol o ddigwydd ac sydd o’r herwydd angen cael eu hailgartrefu ar frys, gan gynnwys:
    • dioddefwyr cam-drin domestig neu fathau eraill o gam-drin
    • dioddefwyr digwyddiadau casineb
    • tystion i droseddau, neu ddioddefwyr troseddau, a fyddai mewn perygl o gael eu bygwth sy’n gyfystyr â thrais neu fygythiadau o drais pe baent yn aros yn eu cartrefi presennol.
  • Ymgeiswyr y mae angen iddynt symud oherwydd rhesymau risg neu resymau meddygol/lles sy’n bygwth eu bywydau na fyddant yn gwella nes y cynigir llety mwy addas iddynt. Bydd hyn yn galw am asesiad gan weithiwr proffesiynol priodol
  • Ymgeiswyr y mae angen iddynt symud i lety addas oherwydd anaf difrifol, cyflwr meddygol, neu anabledd a gafodd ef neu hi, neu aelod o’u haelwyd, trwy wasanaethu yn y Lluoedd Arfog
  • Ymgeiswyr sydd ar hyn o bryd yn byw mewn eiddo lle y mae gofyniad statudol arnynt i symud allan oherwydd gorchymyn gwahardd/gorchymyn dymchwel/gorchymyn prynu gorfodol
  • Ymgeiswyr sydd ar hyn o bryd yn tanfeddiannu tŷ cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin ac sydd angen symud i eiddo llai gan fod yr eiddo presennol yn anfforddiadwy ac y byddai aros yno yn creu caledi

Mae Deddf Tai 1996 Adran 167 yn rhoi manylion llawn am sefyllfaoedd lle y dylid rhoi flaenoriaeth ychwanegol i ymgeiswyr a/neu y dylid eu hasesu o dan Ran 2 Deddf Tai (Cymru) 2014 a byddwn yn asesu ymgeiswyr yn llawn yn unol â’r ddeddfwriaeth hon.

* Mae'r gyfraith yn dweud wrthym fod yn rhaid i ni flaenoriaethu'r grwpiau mewn print trwm.

  • Ymgeiswyr sydd angen symud, gan na fydd eu cyflwr meddygol/lles yn gwella. Nid yw’r asesiad yn seiliedig ar y cyflwr meddygol yn unig, ond sut mae eu llety presennol yn effeithio eu hiechyd. Mae hyn yn cynnwys ymgeiswyr yn byw mewn cartref symudol, carafán neu gerbyd wedi’i addasu
  • Ymgeiswyr sydd angen symud er mwyn darparu neu dderbyn cymorth a gofal gan na allant gyflawni gweithgareddau beunyddiol ar eu pen eu hunain h.y. golchi, glanhau, a mynd i mewn ac allan o’r gwely
  • Ymgeiswyr sydd ar hyn o bryd yn tanfeddiannu tŷ cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin ac sydd eisiau symud i eiddo llai
  • Ymgeiswyr sydd eisiau symud o gartref wedi’i addasu nad ydynt ei angen mwyach. Byddai hynny wedyn o fudd i aelwyd arall sydd angen y math arbenigol hwn o eiddo
  • Ymgeiswyr sy’n byw mewn amodau anhylan neu dai gorlawn neu sydd yn byw mewn amodau anfoddhaol mewn rhyw ffordd arall
  • Ymgeiswyr sydd angen symud i ardal benodol o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin, pan fyddai methu diwallu’r angen hwnnw yn creu caledi iddyn nhw neu i eraill
  • Ymgeiswyr nad oes ganddynt unrhyw anghenion tai yn ôl y wybodaeth a roesant yn eu cais.
  • Mae ganddynt yr adnoddau ariannol i dalu eu costau tai eu hunain
  • Buont yn euog, neu bu aelod o’u haelwyd yn euog, o ymddygiad afresymol sy’n ddigon difrifol i’w gwneud yn anaddas i fod yn denant y Cyngor AC yn yr amgylchiadau ar yr adeg y caiff eu cais ei ystyried, eu bod yn haeddu, oherwydd yr ymddygiad hwnnw, peidio cael eu trin yn aelod o grŵp o bobl y rhoddir blaenoriaeth iddynt
  • Nid oes ganddynt Gysylltiad Lleol â Sir Gaerfyrddin, fel y’i diffinnir yn Adran 81 Deddf Tai (Cymru) 2014, onid ydynt yn eithriedig o’r meini prawf ar gyfer Cysylltiad Lleol fel y’u rhestrir yn Atodiad Tri