Polisi Dyann Tai Cymdeithasol Brys

Atodiad Un – Personau sy’n gaeth i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai

Mae’r dosbarthiadau canlynol o bobl sy’n gaeth i reolaeth fewnfudo yn bobl sy’n gymwys am ddyraniad o lety tai o dan Ran 6 Deddf 1996-

Dosbarth A – person a gofnodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn ffoadur o fewn y diffiniad yn Erthygl 1 y Confensiwn Ffoaduriaid ac y mae ganddo hawl i ddod i neu aros yn y Deyrnas Unedig;

Dosbarth B – person—

  1. a chanddo hawl eithriadol i ddod i neu aros yn y Deyrnas Unedig a ganiatawyd y tu allan i ddarpariaethau’r Rheolau Mewnfudo; ac
  2. nad yw ei hawl i ddod i neu aros yn dibynnu ar amod yn mynnu fod y person hwnnw yn gofalu am a lletya ei hun, ac unrhyw berson sy’n dibynnu ar y person hwnnw, heb droi at arian cyhoeddus

Dosbarth C – person sydd fel arfer yn byw yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon ac nad yw ei hawl i ddod i neu aros yn y Deyrnas Unedig yn dibynnu ar unrhyw gyfyngiad neu amod, ac eithrio person—

  1. a gafodd hawl i ddod i neu aros yn y Deyrnas Unedig yn dilyn addewid a wnaed gan noddwr y person;
  2. a fu’n byw yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd yn dechrau ar ddyddiad cyrraedd neu’r dyddiad pan wnaed yr addewid ar gyfer y person, pa ddyddiad bynnag sydd ddiweddaraf; ac
  3. y mae ei noddwr, neu pan mae mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw;

Dosbarth D - person a gafodd warchodaeth ddyngarol a ganiatawyd o dan y Rheolau Mewnfudo

Dosbarth E - person sydd fel arfer yn byw yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon ac y mae ganddo hawl cyfyngedig i ddod i’r Deyrnas Unedig yn ddinesydd Affgan perthnasol o dan baragraff 276BA1 y Rheolau Mewnfudo.

Dosbarth F — person y mae ganddo hawl cyfyngedig i ddod i neu aros yn y Deyrnas Unedig am resymau teuluol neu fywyd preifat o dan Erthygl 8 y Confensiwn Hawliau Dynol, megis hawl a ganiatawyd o dan baragraff 276BE (1), paragraff 276DG neu Atodiad FM y Rheolau Mewnfudo, ac nad yw’n dibynnu ar amod yn mynnu fod y person hwnnw yn gofalu am a lletya ei hun, ac unrhyw berson sy’n dibynnu ar y person hwnnw, heb droi at arian cyhoeddus.

Dosbarth G – person sydd fel arfer yn byw yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon ac a gafodd ei adleoli i’r Deyrnas Unedig o dan Adran 67 Deddf Mewnfudo 2016 ac y mae ganddo hawl cyfyngedig i aros o dan baragraff 352ZH y Rheolau Mewnfudo.

Dosbarth H – person sydd fel arfer yn byw yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon ac a gafodd hawl Calais i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 352J y Rheolau Mewnfudo.

Dosbarth I — person sydd fel arfer yn byw yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon ac y mae ganddo hawl cyfyngedig i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan baragraff 405 y Rheolau Mewnfudo.

Dosbarth J — person –

  1. y mae ganddo hawl cyfyngedig i ddod i neu aros yn y Deyrnas Unedig trwy Atodiad Hong Kong Rheolau Mewnfudo Dinasyddion Prydeinig (Dramor) 16;
  2. nad yw ei hawl i ddod i neu aros yn dibynnu ar amod yn mynnu fod y person hwnnw yn gofalu am a lletya ei hun, ac unrhyw berson sy’n dibynnu ar y person hwnnw, heb droi at arian cyhoeddus; ac
  3. sydd fel arfer yn byw yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon.

Dosbarth K — person—

  1. sy’n cael hawl i ddod i neu aros yn Y Deyrnas Unedig yn unol â’r Rheolau Mewnfudo, lle y rhoddir hawl o’r fath trwy—
    (aa) Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid; neu
    (bb) y cynllun blaenorol ar gyfer staff a gyflogwyd yn lleol yn Affganistan (a elwir weithiau’n gynllun ex-gratia); neu
  2. y mae ganddo hawl i ddod i neu aros yn y Deyrnas Unedig nad yw’n dod o dan is-baragraff (i), a adawodd Affganistan yn dilyn dymchwel llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021, ond ac eithrio person (P)—
    (aa) sy’n gaeth i amod yn mynnu fod P yn gofalu am a lletya ei hun, ac unrhyw berson sy’n dibynnu ar P, heb droi at arian cyhoeddus; neu
    (bb) a gafodd hawl i ddod i neu aros yn y Deyrnas Unedig yn dilyn addewid a roddwyd gan noddwr P ac a fu’n byw yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd yn dechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu’r dyddiad y rhoddodd noddwr P yr addewid ar gyfer P, pa ddyddiad bynnag sydd ddiweddaraf, ac y mae ei noddwr, neu pan mae mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw; a

Dosbarth L - person a gafodd hawl i ddod i neu aros yn y Deyrnas Unedig oherwydd Rheolau Cynllun Mewnfudo Atodiad Wcráin.