Swyddfa'r Crwner

Diweddarwyd y dudalen ar: 18/01/2024

Swyddogion barnwrol annibynnol yng Nghymru a Lloegr yw'r Crwneriaid ac mae'n rhaid iddynt ddilyn y deddfau sy'n ymwneud â Chrwneriaid a chwestau. Mae gan bob Crwner ddirprwy a rhaid i’r naill neu’r llall fod ar gael bob amser i ymdrin â materion sy'n ymwneud â chwestau ac archwiliadau post mortem.

Yr Uwch-grwner dros dro ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yw Mr Paul Bennett. Pan nad yw ef ar gael, gwneir ei waith gan Gareth Lewis, y Dirprwy Grwner – mae'r ddau'n gyfreithwyr profiadol. Lleolir ei swyddfa yn Swyddfa'r Crwner, Adain y Gogledd, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP. Mae'r swyddfa ar agor rhwng 9:30am ac 1:00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Y rhif ffôn yw 01437 775001. Y cyfeiriad e-bost yw hmcpembs@pembrokeshire.gov.uk. Y tu allan i'r oriau swyddfa gellir cysylltu drwy'r gorsafoedd heddlu.

Mae'r Crwneriaid yn ymholi i'r marwolaethau a gyflwynir i'w sylw, yr ymddangosir eu bod yn farwolaethau treisgar, annaturiol neu fod achos y farwolaeth yn anhysbys neu’n sydyn. Bydd y Crwner yn ceisio canfod y rheswm meddygol dros y farwolaeth; os bydd achos y farwolaeth yn dal yn ansicr ar ôl y post mortem, bydd cwest yn cael ei gynnal.

Ni chaiff yr holl farwolaethau eu hadrodd i'r crwner yn y rhan fwyaf o achosion, gan amlaf gall Meddyg Teulu neu feddyg mewn ysbyty dystio i achos meddygol y farwolaeth a gall y farwolaeth gael ei chofrestru gan y Cofrestrydd Genedigaethau a Marwolaethau yn y modd arferol. Er hynny, rhaid i Gofrestryddion hysbysu'r Crwner am farwolaethau sy'n digwydd dan rai amgylchiadau penodol. Er enghraifft:os na all meddyg roi tystysgrif briodol ynghylch achos y farwolaeth; os digwyddodd y farwolaeth yn ystod llawdriniaeth; os afiechyd diwydiannol oedd i gyfrif am y farwolaeth; os oedd y farwolaeth yn annaturiol neu wedi digwydd o ganlyniad i drais, neu wedi digwydd dan amgylchiadau amheus eraill.

Ymholiad yw'r cwest i bwy sydd wedi marw ac i sut, pryd a ble y bu farw. Nid yw cwest yn dreial; rhaid i'r Crwner beidio â beio neb am y farwolaeth. Gan amlaf caiff cwest ei agor yn bennaf i gofnodi bod marwolaeth wedi digwydd ac i gadarnhau pwy yw'r ymadawedig. Yna caiff y cwest ei ohirio hyd nes y bydd ymholiadau'r heddlu ac ymchwiliadau'r Crwner wedi'u cwblhau. Yna gellir ailagor y cwest llawn.

Pan fydd ymchwiliadau'r Crwner wedi'u cwblhau, pennir dyddiad y cwest sydd i'w ailagor a rhoddir gwybod i'r rhai sydd â hawl cael gwybod, os oes gan y Crwner eu manylion. Mae cwestau'n agored i'r cyhoedd ac fel rheol bydd newyddiadurwyr yn bresennol.

 

Cwestau

Fel arfer, cynhelir cwestau Sir Gaerfyrddin yn Neuadd y Dref, Llanelli ond gellir eu cynnal mewn lleoliadau priodol eraill pan fydd angen. Mae toiledau a mynediad i bobl anabl yn Neuadd y Dref, ond nid oes lluniaeth, ystafelloedd aros ar wahân na ffonau yno. Mae parcio ar gael yn Neuadd y Dref. 

Bydd crwneriaid a'u staff yn defnyddio'u henwau eu hunain wrth ymwneud ag aelodau'r cyhoedd. Mae dirprwy grwneriaid a dirprwy grwneriaid cynorthwyol yn gweithredu pan nad yw'r crwner ar gael. Wrth wneud hynny, maent yn arfer pwerau llawn y crwner. 

Gofynnir i unrhyw un sydd am fynd i gwêst yn Neuadd y Dref, sydd ag unrhyw ofynion arbennig (gan gynnwys, er enghraifft, cyfleusterau i bobl sy'n drwm eu clyw, gwasanaethau cyfieithu neu gyfieithu ar y pryd) gysylltu â swyddfa'r crwner ymlaen llaw. 

Mae y rhestr o'r cwestau a gynhelir yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd

 

Mynd i Gwêst

Gwrandawiad llys cyhoeddus i'r crwner yw cwêst, sydd weithiau'n cynnwys rheithgor, er mwyn penderfynu pwy a fu farw, a sut, pryd a lle y digwyddodd y farwolaeth.

Nid oes angen cael cwêst ar gyfer pob marwolaeth yr ymchwilir iddi gan grwner. Byddwch yn cael gwybod pan fydd angen cynnal cwêst.

Yn ystod y cwêst bydd y crwner yn clywed gan dystion ac yn ystyried tystiolaeth arall megis adroddiadau post-mortem. 

Mae cwêst yn wahanol i fathau eraill o wrandawiadau llys am nad oes erlyniad nac amddiffyniad a dim ond y crwner all benderfynu pa dystiolaeth i'w chlywed. Pwrpas y cwêst yw darganfod y ffeithiau am y farwolaeth. Nid yw llys y crwner yn pennu atebolrwydd troseddol na sifil gan berson a enwir.

 

A oes rhaid imi fod yn bresennol?

Os gofynnir ichi roi tystiolaeth yn y gwrandawiad, bydd disgwyl ichi fod yn bresennol. Os ydych yn meddwl y bydd hyn yn rhy anodd, dylech drafod hyn â'r crwner.  

Nid oes angen ichi fynd i gwêst os nad ydych yn rhoi tystiolaeth. Eich penderfyniad chi'n llwyr yw hyn. 

Bydd swyddog ymchwilio'r crwner sy'n delio ag achos eich anwylyn yn trafod y manylion gyda chi, gan gynnwys y dyddiad y bwriedir cynnal y cwêst.

 

Pwy arall fydd yn y llys? 

Gall aelodau o'r cyhoedd fod yn bresennol, ac mae'r cyfryngau'n cael adrodd ar achosion. Gallai rhai achosion effeithio ar ganiatáu i'r cyhoedd fod yn bresennol, er enghraifft:

  • Os gallai'r cwêst gynnwys tystiolaeth sy'n effeithio ar ddiogelwch cenedlaethol, mae'n bosibl y bydd y dystiolaeth hon yn cael ei chlywed gan y crwner yn breifat.
  • Os yw'r dystiolaeth yn ymwneud â phlentyn, gall y crwner atal manylion personol rhag cael eu rhannu â'r cyhoedd.

Mae croeso hefyd i aelodau o'r teulu a ffrindiau fod yn y llys i glywed y dystiolaeth ac i ofyn cwestiynau os ydynt yn ansicr am unrhyw beth.

 

Os gelwir chi fel rheithiwr

Mae'r rhan fwyaf o'r cwestau'n cael eu cynnal heb reithgor, ond mae adegau pan fydd yn rhaid galw rheithgor yn ôl y gyfraith
. Mae hyn yn cynnwys:

  • os digwyddodd y farwolaeth yn y carchar, yn nalfa'r heddlu neu mewn math arall o ganolfan gadw'r wladwriaeth
     (ac eithrio os mai achosion naturiol oedd achos y farwolaeth).
  • os digwyddodd y farwolaeth o ganlyniad i ddamwain yn y gwaith.
  • os yw'r Uwch-grwner yn credu bod rheswm digonol dros wneud hynny.

Gall y cwestau hyn amrywio o un diwrnod i sawl wythnos - bydd eich gwŷs yn rhoi amcan o hyd y cwêst.

Mae rheithgorau ar gyfer Llys y Crwneriaid yn cael eu galw yn yr un modd ag ar gyfer llysoedd troseddol, a hynny ar hap o'r gofrestr etholiadol. Byddwch yn cael gwŷs yn y post tua 6 wythnos cyn i'r cwêst ddechrau. Rhaid cwblhau'r gwaith papur yn ôl y cyfarwyddyd a'i ddychwelyd i'r llys cyn gynted ag y bo modd, ond cyn pen 7 diwrnod.

 

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Hysbysiad Preifatrwydd i'r Gwasanaeth Crwner

Mae sicrhau bod Crwner Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn trin data personol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaeth a chadw hyder y cyhoedd.

Data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson, y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' drwy'r hysbysiad preifatrwydd hwn a'r un yw eu hystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Crwner yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion y Ddeddfwriaeth Diogelu Data. 

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn felly wedi cael ei greu er mwyn esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

 

1. At ba ddiben rydym yn defnyddio'ch data personol?

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i'r Gwasanaeth Crwner ymchwilio i bob marwolaeth lle bo un o'r canlynol yn berthnasol:

  • Ni welodd yr un meddyg yr ymadawedig yn ystod ei salwch olaf
  • Er i feddyg weld yr ymadawedig yn ystod ei salwch olaf, nid yw'r meddyg yn gallu neu nid yw ar gael, am unrhyw reswm, i ardystio'r farwolaeth 
  • Nid yw achos y farwolaeth yn hysbys
  • Digwyddodd y farwolaeth yn ystod llawdriniaeth neu cyn gwella ar ôl effaith anesthetig
  • Digwyddodd y farwolaeth yn y gwaith neu oherwydd clefyd diwydiannol neu wenwyno
  • Roedd y farwolaeth yn sydyn ac yn anesboniadwy
  • Roedd y farwolaeth yn annaturiol
  • Trais neu esgeulustod oedd yn gyfrifol am y farwolaeth
  • Roedd amgylchiadau amheus eraill ynghlwm wrth y farwolaeth neu
  • Digwyddodd y farwolaeth yn y carchar, dalfa'r heddlu neu fath arall o leoliad cadw gwladol

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i:

  • Gysylltu a chyfathrebu â chi, gallai hyn fod fel perthynas agosaf, tyst neu rywun proffesiynol a allai fod wedi ymwneud â'r ymadawedig 
  • Bodloni'r amrywiol ofynion cyfreithiol a rhwymedigaethau statudol, yn benodol Deddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 
  • Ymgymryd ag achosion cyfreithiol

Rydym yn prosesu data personol am fod hynny'n angenrheidiol i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol. 

Felly, mae'r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yn cael ei diffinio'n bennaf yn Neddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 a'r is-ddeddfwriaeth. Mae hyn yn golygu bod rhwymedigaeth gyfreithiol ar y gwasanaeth i brosesu data personol. Yn ogystal, mae Erthygl 23 (f) yn cyflwyno eithriadau o Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU ar sail diogelu annibyniaeth farnwrol ac achosion barnwrol.

 

2. Pa fath o wybodaeth rydym yn ei defnyddio? 

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn:

  • Eich enw
  • Eich dyddiad geni
  • Eich cyfeiriad a manylion cyswllt eraill 
  • Manylion unrhyw gysylltiad â chi
  • Unrhyw wybodaeth sy'n berthnasol i ddarparu'r gwasanaeth crwner

 

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu data personol yn uniongyrchol oddi wrthych ond rydym hefyd yn cael gwybodaeth amdanoch chi o'r ffynonellau canlynol megis meddygon teulu, y GIG a'r heddlu ynghyd ag eraill.  

 

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein holl ddogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu eich gwybodaeth. Caiff y data personol hwn ei gadw ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE lle mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn berthnasol.

 

5. Pwy sydd â mynediad i'ch gwybodaeth?

  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Cyngor Sir Penfro (awdurdod arweiniol y Gwasanaethau Crwner ar gyfer awdurdodaeth Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin)
  • Y Prif Grwner
  • Crwneriaid Cynorthwyol
  • Heddlu Dyfed-Powys
  • Patholegwyr
  • Trefnwyr Angladdau
  • Mynwentydd ac Amlosgfeydd
  • Ymddiriedolaethau Ysbytai'r GIG
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Meddygfeydd
  • Byrddau a Thimau Diogelu 
  • Sefydliadau eraill sydd, o bryd i'w gilydd, yn ymwneud ag ymchwiliad ac y mae'n ofynnol iddynt ddarparu tystiolaeth neu gymorth i'r crwner

 

6. Pa mor hir byddwn yn cadw'ch gwybodaeth?

Byddwn ond yn cadw eich gwybodaeth cyhyd ag y mae angen i ni ei wneud er mwyn gallu rhoi'r gwasanaeth rydych ei angen, oni bai bod rhaid i ni ei chadw am resymau cyfreithiol. Ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth ar ôl i'r achos ddod i ben. O dan Reoliad 27 o Reoliadau'r Crwneriaid (Ymchwiliadau) 2013, bydd eich gwybodaeth yn cael ei dileu ar ôl 15 mlynedd ar gyfer marwolaethau nad ydynt yn mynd ymlaen i gwest, ar ôl dwy flynedd ar gyfer gwybodaeth yn ymwneud â chwestau Trysor, ac am gyfnod amhenodol ar gyfer gwybodaeth yn ymwneud â marwolaethau sy'n mynd ymlaen i gwest. 

 

7. Eich Hawliau Diogelu Data 

Mae gennych yr hawl i: 

  • Cael mynediad at y data personol sy'n cael ei brosesu amdanoch - gallwch wneud hyn drwy wneud cais gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
  • Cywiro unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn
  • Tynnu eich caniatâd yn ôl o ran prosesu'r wybodaeth, ond dim ond os mai hwn yw'r sail i brosesu'r wybodaeth
  • Gwneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, mae'n bosibl y bydd gennych yr hawl i:

  • Gwrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Cyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Trosglwyddo Data

 

8. Manylion Cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â:

Yr Uwch-grwner Dros Dro - Mr Paul Bennett

E-bost:pembscarmscoroner@pembrokeshire.gov.uk.

Gellir cael manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghyd â chyfarwyddyd pellach ynghylch y Ddeddfwriaeth Diogelu Data ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth