Pam yr ydym wedi ymgynghori

Mae’r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) yn ystyried effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig 2018-2023. Mae’n ymgorffori nifer o ofynion statudol mewn un ddogfen sy’n galluogi proses fwy tryloyw a chyfannol.

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gynnwys y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig ei hun. Ni fydd unrhyw sylwadau ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig yn cael eu hystyried.

Mae’r ymgynghoriad diweddaraf hwn nawr yn cynnwys yr Atodiad i’r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (Chwefror 2024) sy’n sicrhau cydymffurfiaeth weithdrefnol yn unol â’r deddfwriaeth berthnasol. Gellir dod o hyd i broses gyfan yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar ein gwefan.

Mae’n cynnwys:

  • Adroddiad Cwmpasu AC (Gorffennaf 2018)
  • Adroddiad Cychwynnol AC (Rhagfyr 2018)
  • Adroddiad AC (Ionawr 2020)
  • Adroddiad ACI (Chwefror 2023)
  • Adendwm ACI (Chwefror 2024)

Darperir crynodeb annhechnegol o'r uchod hefyd.