Pam yr ydym wedi ymgynghori

Cymeradwywyd Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gaerfyrddin gan y Cyngor Sir ym mis Tachwedd 2004 fel cynllun buddsoddi strategol a rhesymoli i drawsnewid darpariaeth ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin. Y nod yw trawsnewid y rhwydwaith o ysgolion meithrin, ysgolion cynradd ac uwchradd sy'n gwasanaethu'r sir yn adnodd strategol a gweithredol effeithiol sy'n diwallu'r angen presennol ac yn y dyfodol am addysg sy'n canolbwyntio ar yr ysgol a'r gymuned. Ers ei sefydlu, mae'r Rhaglen Moderneiddio Addysg wedi cael cydnabyddiaeth eang am ei gweledigaeth strategol, ei chynllunio trawsnewidiol a'i chofnod trawiadol o gyflawni.

Yn 2010, penderfynodd y Cyngor Sir adolygu'r RhMA bob dwy flynedd neu fel arall yn ôl yr angen i sicrhau cysondeb ag amserlen Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif genedlaethol (wedi ei ail enwi Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (RhCDC)).

Mae hyn wedi bod yn nodwedd ganolog i'r RhMA ers ei sefydlu bod angen iddi gadw hyblygrwydd wrth wraidd y rhaglen i sicrhau bod y rhaglen yn parhau'n gyfredol ac yn ymatebol i newidiadau yn y fframwaith polisi addysg ac anghenion cymdeithas a chymunedau sy'n datblygu'n gyson. Mae hyn yn fwy gwir nag erioed yn yr hinsawdd presennol / ar ôl y pandemig.

O'r herwydd, mae'r Awdurdod Lleol yn cynnal ei adolygiad o'r RhMA ar hyn o bryd, yn unol â'r gofyniad i gyflwyno rhaglen amlinellol strategol ar gyfer y rhaglen dreigl newydd i Lywodraeth Cymru. O ganlyniad, datblygwyd Strategaeth y RhMA newydd i gyfarwyddo’r Rhaglen Addysg Moderneiddio newydd yn y dyfodol. Fe'i harweinir gan set o amcanion strategol a'i danategu gan ddarnau pwrpas ac egwyddorion addysgol yr adran i sicrhau cydlyniant â'r 8 Blaenoriaeth Addysg ar gyfer 2022-2025 a strategaeth Addysg Sir Gâr 2022-2032. Mae strategaeth y RhMA yn cynnwys set o feini prawf hyfywedd a buddsoddi i sicrhau dull priodol a thryloyw o ddatblygu trefniadaeth ysgolion a chynigion buddsoddi.

Sut aethom ati i ymgynghori

Trwy arolwg ar-lein

Bydd Adroddiad Ymgynghori yn crynhoi’r sylwadau a gyflwynwyd gan ymgyngoreion yn cael ei baratoi a’i gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin. Bydd yr Adroddiad Ymgynghori yn cael ei gyflwyno i aelodau'r Cabinet i'w ystyried a ddylid cymeradwyo'r strategaeth ai peidio.