Ymestyn / newid eich cartref

1. Gwiriwch a oes angen caniatâd cynllunio arnoch

Os ydych chi'n ystyried gwneud newidiadau i'ch cartref, gan gynnwys gwaith o fewn ffin eich eiddo/gardd efallai y bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio i ddeiliaid tai.

Fodd bynnag, nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer yr holl waith adeiladu i'ch cartref. O dan reolau datblygu a ganiateir gallwch gyflawni nifer o brosiectau gwaith adeiladu gan ddeiliad tŷ, ar yr amod eu bod yn bodloni rhai cyfyngiadau ac amodau penodol.

prosiectau cyffredin

Os nad ydych yn sicr a oes angen caniatâd cynllunio arnoch, anfonwch fanylion eich gwaith arfaethedig atom. Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei hadolygu gan swyddog cynllunio a byddant yn rhoi ymateb anffurfiol i chi o fewn 20 diwrnod gwaith. 

 Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:

  • Eich manylion
  • Manylion y Safle
  • Gwybodaeth am y gwaith arfaethedig gan gynnwys:
    • y deunyddiau rydych yn bwriadu eu defnyddio
    • dimensiynau mewn metrau
    • lleoliad o ran cymdogion/ffyrdd
    • braslun manwl yn dangos unrhyw goed ar y safle

Sylwer, gwiriad anffurfiol yw hwn. Os oes angen ymateb pendant arnoch, bydd angen i chi wneud cais am dystysgrif datblygiad cyfreithlon.

Gwiriwch a oes angen caniatâd cynllunio arnoch