Torri rheolau cynllunio

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/04/2024

Mae gorfodi yn un o rannau mwyaf cymhleth y system gynllunio ac mae'n fater sy'n peri pryder i lawer o aelodau'r cyhoedd, o gofio'r angen i sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd yn erbyn achosion annerbyniol o dorri rheolaeth er budd ehangach y cyhoedd.

Er yr ymchwilir i bob cwyn ddilys bob amser, nid yw bob amser yn bosibl nac yn addas i'r Awdurdod gymryd camau yn erbyn datblygiadau anawdurdodedig. 

Bydd ein tîm gorfodi rheolau cynllunio yn ymchwilio i gefndir achos ac yn cynnal ymweliad(au) safle, ac yn dilyn hyn penderfynir a fydd angen cymryd camau pellach ai peidio.

Rydym yn blaenoriaethu pob achos yn seiliedig ar natur y mater. Mae angen blaenoriaethu cwynion o ran effaith a niwed. Felly, byddwn yn ymweld â'r achosion brys yn gyntaf.

Os byddwch yn rhoi gwybod am achos o dorri rheolau, ni fyddwn yn gallu darparu unrhyw ddiweddariadau i chi yn ystod yr ymchwiliad. Dim ond drwy e-bost y cewch y wybodaeth ddiweddaraf a hynny ar ôl penderfynu a fu achos o dorri rheolaeth ai peidio.

Sylwch y gall materion gorfodi gymryd hyd at 12 wythnos i gwblhau'r cam ymchwilio oherwydd y weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn a nifer yr achosion y mae'r Cyngor yn eu derbyn.

Darllenwch Ddatganiad Gorfodi Rheolau Cynllunio

Gallai achos o dorri rheolau cynllunio gynnwys materion fel codi adeilad neu estyniad i adeilad heb awdurdod, gweithrediadau peirianneg, newid sylweddol o ddefnydd tir, neu arddangos hysbysebion a gwaith anawdurdodedig ar adeiladau rhestredig.

Yn ogystal, gall methiant i gydymffurfio ag amod ar ganiatâd cynllunio fod yn berthnasol i orfodi cynllunio. Mae preswylwyr yn aml yn adrodd am faterion i'r Cyngor nad ydynt bob amser yn cael eu cynnwys o dan bwerau gorfodi cynllunio, er eu bod yn ymwneud ag adeiladau neu dir.

Isod ceir canllaw ynghylch y cwynion y gall y tîm gorfodi rheolau cynllunio ymchwilio iddynt ai peidio.

Gall ein tîm gorfodi rheolau cynllunio ymchwilio i achosion posibl o dorri rheolau cynllunio megis:

  • Gwaith anawdurdodedig i adeiladau rhestredig;
  • Dymchwel adeiladau neu strwythurau mewn ardal gadwraeth heb awdurdod;
  • Gwaith Anawdurdodedig ar goed sy'n destun Gorchymyn Cadw Coed neu unrhyw goed mewn ardal gadwraeth;
  • Gwaith Adeiladu Anawdurdodedig (h.y. estyniadau, adeiladau allanol, ffensys, waliau);
  • Newid Anawdurdodedig o ran defnydd adeiladau a/neu dir heb ganiatâd cynllunio (gan gynnwys isrannu tai yn fflatiau/Tai Amlfeddiannaeth neu garafanau preswyl) lle nad yw'r newid defnydd yn ddatblygiad a ganiateir*;
  • Hysbysebion ac arwyddion anawdurdodedig;
  • Peidio â chydymffurfio ag amodau sy'n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio;
  • Peidio ag adeiladu yn unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd ar gyfer caniatâd cynllunio;
  • Gweithrediadau Peirianneg Anawdurdodedig, megis codi lefelau tir neu fyndiau pridd;
  • Cuddio gwaith adeiladu neu newid defnydd anawdurdodedig yn fwriadol
  • Cloddio mwynau heb awdurdod
  • Trin neu waredu gwastraff heb awdurdod

Materion gorfodi nad ydynt yn ymwneud â chynllunio, na allwn ymchwilio iddynt:

  • Gwaith mewnol i adeilad. Nid yw hyn yn cynnwys adeiladau rhestredig; (Rheoliadau Adeiladu o bosibl)
  • Parcio cerbydau masnachol ar y briffordd neu ar ymylon glaswellt;
  • Anghydfodau perchnogaeth tir/ffiniau neu faterion tresmasu; (Mater sifil)
  • Torri cyfamodau mewn gweithredoedd eiddo; (Mater sifil)
  • Strwythurau/ffensys dros dro sy'n gysylltiedig â gwaith adeiladu; (Adran Priffyrdd)
  • Strwythurau peryglus neu faterion iechyd a diogelwch eraill; (Rheoliadau Adeiladu/Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch)
  • Rhedeg busnes o gartref lle nad yw'r gweithgareddau'n cynnwys gweithwyr ac mae'r prif ddefnydd yn dal i fod yn breswyl;
  • Dibrisio eiddo (Sifil)
  • Materion yn ymwneud â waliau cydrannol (Sifil)
  • Materion sy'n ymwneud â difrodi eiddo neu anaf (posibl) i bersonau (Tai/sifil)
  • Planhigion anfrodorol ymledol (sifil oni bai bod y planhigion yn tarddu o dir Awdurdod Lleol)

Cyn i chi ofyn i ni ymchwilio i fater cynllunio, a oeddech yn gwybod nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer rhai mathau o waith adeiladu? Gelwir hyn yn ddatblygiad a ganiateir. Os nad ydych yn gwybod beth sy'n cael ei ganiatáu ac nad yw'n cael ei ganiatáu, darllenwch y Ganllaw uchod ynghylch y math o ddatblygiad y gellir ei wneud heb ganiatâd cynllunio.

Dylech hefyd gadarnhau a oes gan y safle ganiatâd cynllunio. Gallwch chwilio am gais cynllunio ar-lein yn ôl lleoliad, dyddiad a mwy. Ni fydd yn cymryd yn hir a byddwch yn gallu gweld a yw'r safle wedi cael caniatâd cynllunio a pha amodau sydd ar waith.

Os ydych chi'n poeni ynghylch tarfu ar ystlumod, adar sy'n nythu neu dylluanod, gallwch roi gwybod am hyn i'r swyddog troseddau bywyd gwyllt yn yr heddlu.

Isod ceir rhestr o'r math o wybodaeth a fyddai'n ein cynorthwyo i ddelio â'ch cwyn:

  • Disgrifiad cywir o leoliad neu gyfeiriad y safle penodol;
  • Disgrifiad manwl o'r gweithgareddau sy'n digwydd a pham y maent yn peri pryder;
  • Enwau, cyfeiriadau, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost y personau hynny sy'n gyfrifol am y toriad honedig neu'r perchnogion tir;
  • Y dyddiad a'r amseroedd pan ddigwyddodd y toriad honedig;
  • Unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth arall (gan gynnwys lluniau) a allai gynorthwyo;
  • Eich enw a'ch manylion cyswllt fel y nodir uchod - nid ydym yn ymchwilio i gwynion dienw

Bydd y manylion a roddwch yn cael eu defnyddio i ymchwilio i'ch cwyn. Os gallwch ddarparu lluniau bydd hyn yn ein helpu o ran ein hymchwiliad.

Efallai y bydd yn rhaid i ni weithio gyda sefydliadau partner fel yr heddlu. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion personol gydag unrhyw un arall heb eich caniatâd.

RHOI GWYBOD AM ACHOS O DORRI RHEOLAU CYNLLUNIO

Wrth ymchwilio i achos honedig o dorri rheolaeth gynllunio, mae'r Awdurdod bob amser yn ceisio sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud ynghylch y ffordd fwyaf priodol ymlaen mewn modd effeithiol ac amserol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y bydd camau ffurfiol yn cael eu cymryd. Mae camau o'r fath wedi'u cyfyngu i'r achosion mwyaf difrifol sy'n achosi niwed a lle mae cyfiawnhad dros gymryd camau er budd y cyhoedd.

Pan fyddwn yn ymchwilio i gwynion, a chanfyddir bod angen caniatâd cynllunio ar gyfer y rhain ('achos o dorri rheolau cynllunio') neu achos o dorri amod, byddwn yn cynnal asesiad cychwynnol i benderfynu a fyddai'r datblygiad yn dderbyniol yn erbyn y Polisïau yng Nghynllun Datblygu Lleol mabwysiedig y Cyngor. Er y bydd natur asesiad o'r fath yn amrywio yn dibynnu ar yr achos, gall hyn gynnwys ystyried materion gan gynnwys: - egwyddor datblygu; a'r effaith ar amwynder gweledol / cymeriad lleol, diogelwch priffyrdd, ac amwynder preswyl.

Fodd bynnag, yn aml, bydd achosion lle ystyrir nad yw natur y toriad yn cael unrhyw effeithiau annerbyniol, a byddwn yn dod i'r casgliad na fyddai'n 'addas' er budd y cyhoedd i gymryd unrhyw gamau (gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol cyflwyno cais). 

Mewn achosion lle nad yw'n addas cymryd camau pellach, rydym yn gwerthfawrogi na fydd achwynwyr bob amser yn cytuno â'n penderfyniad. Fodd bynnag, bydd swyddogion bob amser yn hapus i esbonio'r rhesymeg y tu ôl i gasgliadau o'r fath gydag achwynydd.

Pan fydd Swyddogion wedi penderfynu bod rheolau wedi'u torri a'i bod yn addas cymryd camau, yna bydd y Cyngor yn ceisio datrys y toriad drwy un o'r camau canlynol:

Dileu'r toriad drwy negodi anffurfiol

Cyflwyno Hysbysiad mewn perthynas â'r toriad honedig - Defnyddir yr Hysbysiad mwyaf priodol i unioni'r niwed sy'n cael ei achosi. Gallai hyn gynnwys un o'r canlynol:

  • Hysbysiad Gorfodi (Datblygiad Gweithredol neu Newid Defnydd Sylweddol)
  • Hysbysiad Stop (gan gynnwys Hysbysiad Stop Dros Dro)
  • Hysbysiad Adran 215 ('Hysbysiad Amwynder’)
  • Hysbysiad torri amodau
  • Hysbysiad Gorfodi Adeilad Rhestredig
  • Gwaharddebau

Rhoddir caniatâd cynllunio wedyn drwy gais (neu yn dilyn apêl yn erbyn cyflwyno Hysbysiad Gorfodi)

Trwy gymryd camau erlyn (e.e. yn erbyn arddangos hysbyseb heb awdurdod, neu Waith Anawdurdodedig i Adeilad Rhestredig

Trwy'r Awdurdod yn cymryd Camau Uniongyrchol i ddileu'r achos o dorri rheolau.

Yn y rhan fwyaf o achosion, hyd yn oed pan nodir achosion o dorri amodau, byddwn yn ceisio datrys y rhain yn anffurfiol, a all gynnwys: -

  • Trafodaeth anffurfiol gyda pherchennog / datblygwr i ddileu achos o dorri rheolau, neu i wneud newidiadau i ddatblygiad fel nad yw bellach yn gyfystyr â thoriad, neu nad yw bellach yn achosi niwed sylweddol;
  • Gofyn am i gais cynllunio gael ei gyflwyno i reoleiddio achos o dorri rheolau, a all gynnwys yr angen i gydymffurfio ag amodau i liniaru unrhyw niwed a achosir gan y datblygiad;
  • Dod i'r casgliad nad oes unrhyw niwed yn deillio o'r achos o dorri rheolau, felly nid yw'n addas i'r Cyngor fynd â'r mater ymhellach.

Os ydych wedi cael hysbysiad gorfodi yr ydych yn anghytuno ag ef, yna gallwch apelio i'r asiantaeth Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.

Rhaid i'r asiantaeth Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru dderbyn apêl cyn y dyddiad y daw'r hysbysiad gorfodi i rym.

Ar ôl cyflwyno apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi, ni fydd y mater yn cael ei drin hyd nes y bydd y penderfyniad yn cael ei gyhoeddi. Nid yw erlyn yn bosibl ar yr adeg hon.

Apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi cynllunio

Gall perth fod yn ffin ddelfrydol i'ch cartref a denu bywyd gwyllt newydd i'ch gardd. Yn anffodus, gall rhai perthi achosi problemau i chi, neu'ch cymdogion, fel ymsuddiant a cholli golau.

O dan Ran 8 o'r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol gallwch wneud cwyn a gofyn i ni asesu a yw uchder perth gyfagos yn effeithio ar 'fwynhad rhesymol' eich cartref. Mae'r gwasanaeth hwn yn costio £320. Ni ellir ad-dalu'r ffi a beth bynnag fo'r canlyniad ni allwch ei hawlio'n ôl gan berchennog y berth.

Ni allwn helpu o ran anghydfodau yn ymwneud â ffiniau neu ymsuddiant; rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth drwy ffonio 0800 702 2020 neu fynd i'w gwefan.

Dim ond os bydd popeth arall yn methu y dylech ofyn i ni ymwneud â'r mater. Os byddwch yn penderfynu gwneud cwyn bydd angen i chi roi tystiolaeth eich bod wedi ceisio datrys y sefyllfa gyda'ch cymydog. Cadwch gofnod o ddyddiadau a disgrifiad byr o'r hyn rydych wedi'i wneud, sut y gwnaethoch gysylltu â nhw, pwy oedd yn bresennol os oeddech wedi cwrdd a beth oedd y canlyniad.

Rhaid i chi naill ai fod yn berchen ar yr eiddo neu'n byw ynddo i wneud cwyn. Os nad ydych yn berchen ar yr eiddo, rhowch wybod i'ch landlord neu'r perchennog cyn i chi lenwi'r ffurflen hon.

Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:

  • Eich manylion.
  • Manylion y perchennog/landlord os nad eich eiddo chi ydyw.
  • Tystiolaeth eich bod wedi ceisio datrys y mater gyda pherchennog y berth.
  • Manylion/lluniau o'r berth a sut mae'n effeithio ar eich cartref.
  • Gwybodaeth am unrhyw gwynion blaenorol.
  • Taliad o £320

Byddwn yn adolygu'r wybodaeth rydych wedi'i darparu ac efallai y byddwn yn cynnal ymweliad safle. Os byddwn yn cytuno â'ch cwyn, byddwn yn anfon hysbysiad adfer ffurfiol. Bydd hyn yn cynnwys:

  • mesurau i'w cymryd
  • amserlen ar gyfer pryd y mae'n rhaid gwneud hyn
  • unrhyw waith y mae angen ei wneud yn y dyfodol i atal y broblem rhag digwydd eto.

Ni chawn ofyn:

  • bod y berth yn cael ei gwaredu'n gyfan gwbl.
  • bod y berth yn cael ei thorri i uchder llai na 2 fetr.
  • eich bod yn cael pwerau i dorri perth eich cymydog.

Mae gennych chi a pherchennog y berth yr hawl i apelio yn erbyn ein penderfyniad i'r Arolygiaeth Gynllunio.

Cwynion gwrychoedd uchel: atal a gwella (.pdf)

CWYN YNGHYLCH PERTH UCHEL (.PDF)

 

Cynllunio