Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023
Mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn pennu cynigion a pholisïau ar gyfer y defnydd o'r holl dir yn y dyfodol ac mae'n rhan o fframwaith y cynllun datblygu ar gyfer Cymru. Mae'r CDLl yn cwmpasu cyfnod o bymtheg mlynedd a dylai adlewyrchu'r polisi cynllunio cenedlaethol yng Nghymru.
Yng nghyfarfod y Cyngor ar 10 o Ionawr 2018 penderfynwyd paratoi CDLl diwygiedig ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Mae amserlen paratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig wedi'i nodi o fewn y Cytundeb Cyflawni (DA) y cytunwyd arno gan Lywodraeth Cymru ar 28 Mehefin 2018 gyda'r fersiwn ddiweddaraf wedi ei chytuno yn Awst 2022. Ar ôl iddo gael ei fabwysiadu (ei gwblhau), defnyddir y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig fel sail ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio a bydd yn helpu i lywio rhaglenni buddsoddi yn y dyfodol mewn meysydd megis seilwaith yn ogystal â Chynlluniau a strategaethau gan gynnwys rhai gan sefydliadau partner.
Gohiriwyd y gwaith o gynhyrchu'r CDLl Diwygiedig yn sgil cyhoeddi targedau newydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n ceisio lleihau lefelau ffosffad afon mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) Afonol ar draws Cymru.
Yn Sir Gaerfyrddin, mae Afon Teifi, Afon Tywi, Afon Gwy ac Afon Cleddau mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Ar hyn o bryd mae Afon Teifi, Afon Cleddau ac Afon Gwy yn methu o ran targedau CNC.
Mewn ymateb i'r targedau newydd hyn a'r heriau y maent yn eu cyflwyno rydym wedi bod yn gweithio i ail-asesu goblygiadau'r targedau newydd ar gyfer y CDLl Diwygiedig a'r dyraniadau datblygu mewn dalgylchoedd sensitif i ffosffadau. Yn ogystal â thargedau newydd CNC, mae nifer o faterion eraill wedi codi ers eu cyhoeddi a fydd yn gofyn am ystyriaeth bellach drwy’r CDLl Diwygiedig.
Felly, mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ar 9 Mawrth 2022, cytunodd Cynghorwyr Sir Caerfyrddin ganiatáu newidiadau i amserlen y Cytundeb Cyflawni Diwygiedig ac i baratoi ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo. Roedd hyn yn golygu bod modd rhoi ystyriaeth i’r goblygiadau, i gasglu data a thystiolaeth hanfodol, ac i ddatblygu opsiynau lliniaru i fynd i'r afael â'r mater ffosffad. Mae’r ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo yn ymgorffori’r Newidiadau Penodol (lle maent yn parhau i fod yn berthnasol) y cytunwyd arnynt yn flaenorol o ganlyniad i'r ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo cyntaf. Bydd hefyd yn adlewyrchu ac yn ymateb i adfer yn sgil Covid-19, yr agenda carbon sero net a datgarboneiddio, Nodyn Cyngor Technegol 15 a Mapiau Llifogydd Diwygiedig sydd i ddod, a Cymru’r Dyfodol: y Cynllun Cenedlaethol 2040.
Cytunodd Llywodraeth Cymru ar yr ail Gytundeb Cyflawni diwygiedig ym mis Awst 2022. Caeodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar yr ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo ar 14 Ebrill 2023. Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar "Cynllun Adneuo" uchod.
Hyd nes y caiff y CDLl Diwygiedig ei fabwysiadu, bydd y CDLl 2006-2021 presennol yn parhau i fod ar waith ar gyfer pob penderfyniad cynllunio, yn unol â chyngor a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Cynllunio
Cwestiynau Cyffredin - Cynllunio
Ymestyn / newid eich cartref
- Tystysgrif datblygiad cyfreithlon
- Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
- Caniatâd cynllunio deiliad tŷ
- Eiddo cyfagos / waliau cydrannol
- Ystlumod ac adar sy'n nythu
- Ardaloedd Cadwraeth
- Newidiadau i adeilad rhestredig
Chwilio am gais cynllunio
Cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio
Cyflwyno cais cynllunio
Gwasanaeth cyn cyflwyno cais
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Sut y gwneir penderfyniadau cynllunio
Systemau Draenio Cynaliadwy
Torri rheolau cynllunio
Adeiladu tŷ newydd
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Brosiectau Cynllunio Mawr
Apeliadau cynllunio
Polisi Cynllunio
- Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021
- Adroddiad Adolygu
- Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
- Tai Fforddiadwy
- Ardaloedd Tai Fforddiadwy
- Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)
- Cyflenwad tir ar gyfer tai
- Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Cynllunio Ecoleg
- Canllaw i Ymgynghorwyr Ecolegol
- Budd Net i Fioamrywiaeth
- Rhywogaethau a chynefinoedd a warchodir
- Targedau ffosffad newydd
Adeiladau rhestredig
- Deall rhestru
- Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig
- Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw ac atgyweirio
- Ffynonellau gwybodaeth eraill
Enwi a rhifo strydoedd
Ynni Adnewyddadwy
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Cytundeb Cyflawni
- Safleoedd Ymgeisio
- Adroddiad yr Arolygydd a Mabwysiadu'r Cynllun
- Cyflwyno'r Cynllun, ac Archwiliad Annibynnol
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo
- Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
- Datblygu sylfaen o dystiolaeth
- Cwestiynau cyffredin
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Cyntaf
Caniatâd cynllunio i ddatblygwyr
- Adran 106: Cartrefi Fforddiadwy
- Adran 106: Rhwymedigaethau Cynllunio
- Offeryn Asesu Model Hyfywedd Datblygu
Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Gwnewch gais am arian Adran 106
Cadwraeth a chefn gwlad
Gwastraff
Bioamrywiaeth
- Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig
- Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
- Prosiect Corsydd HLF
- Prosiect brithegion y gors
- Gwrychoedd
- Coetiroedd
- Pryfed Peillio
- Mynd yma ac acw!
- Deddfwriaeth a Chanllawiau
- Safleoedd Gwarchodedig
- Clefyd coed ynn
- Bywyd Gwyllt yn eich Ward
- Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Ardaloedd cadwraeth
Mwy ynghylch Cynllunio