Brosiectau Cynllunio Mawr

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023

Yn unol â blaenoriaethau corfforaethol, mae Sir Gaerfyrddin yn gwerthfawrogi'r economi leol ac mae'n awyddus i gefnogi prosiectau sy'n creu swyddi a gweithgarwch economaidd. Mae’r diffiniad o ‘Brosiectau Mawr’ fel y’i diffinnir yn y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol.

Diffinnir ceisiadau mawr fel a ganlyn:

  • Datblygiadau Tai sy’n cynnwys 10 uned breswyl neu fwy
  • Datblygiadau Tai sy’n 0.5 hectar lle nad yw nifer yr unedau yn hysbys
  • Datblygiad Masnachol lle mae 1000 metr sgwâr neu fwy yn cael ei greu
  • Safleoedd sy’n 1 hectar neu’n fwy

Gwasanaeth Cyn Ymgeisio

  • Ymgysylltu'n gynnar â'r Awdurdod Cynllunio Lleol
  • Nodi materion lefel uchel yn y cyfnod cynnar
  • Nodi 'Penawdau'r Telerau'

Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio

  • Ymgynghori â'r cyhoedd cyn cyflwyno cais cynllunio mawr.
  • Rhoi cyfle i wella'r cais a gyflwynir.
  • Gofyniad statudol ar gyfer pob cais mawr

Cyflwyno Cais Cynllunio Mawr

  • Rhestr wirio yngylch cyflwyno cais
  • Dilysu - o fewn 2 ddiwrnod gwaith o'i dderbyn, yn amodol ar ffi a chyflwyno gwybodaeth lawn
  • Cofrestru'r Cais - o fewn 5 diwrnod gwaith o'i dderbyn

Asesu

  • Hysbysiad safle a chyhoeddiadau i'r wasg
  • Ymgynghoriad 21 diwrnod
  • Ymweliad Safle gan Swyddog
  • Cadarnhau Penawdau'r Telerau (os yw'n berthnasol)

Penderfyniad

  • Pwerau Dirprwyedig Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd
  • Neu bydd y Pwyllgor Cynllunio yn gwneud y penderfyniad

Cytundebau Cyfreithiol

  • Mae angen derbyn tystysgrif teitl a ffi gyfreithiol cyn cyfarwyddo'r gwasanaethau cyfreithiol
  • Pan fo angen cytundebau cyfreithiol, bydd angen i ymgeiswyr fod wedi llofnodi'r ddogfennaeth cyn rhyddhau'r caniatâd cynllunio.

I sicrhau penderfyniadau effeithlon ac amserol ar geisiadau mawr, mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) yn annog yn gryf y dylid defnyddio'r gwasanaeth cyn ymgeisio y gellir ei gyrchu trwy wefan Sir Gaerfyrddin. Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu ymgysylltiad cynnar â'r ymgyngoreion perthnasol yn yr awdurdod ac yn rhoi cyfle i addasu'r cynnig yn gynnar os caiff materion eu nodi.
Mae cyflwyniadau cyn ymgeisio yn ddarostyngedig i amserlen 21 diwrnod ar gyfer ymateb oni bai bod yr ymgeisydd a’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn cytuno ar estyniad.

Yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru, mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell yn gryf ymgysylltu’n gynnar er mwyn sicrhau bod ceisiadau cynllunio’n cael eu penderfynu’n fwy effeithlon ac amserol. Mae’n caniatáu i faterion gael eu nodi’n gynnar ac i ‘benawdau’r telerau’ gael eu cytuno cyn i’r cais gael ei gyflwyno fel y gellir cynnal y broses gyfreithiol yn gynharach, os bwriedir cymeradwyo’r cais.

  • Po fwyaf manwl yw’r cyflwyniad, y mwyaf o gyngor y gellir ei roi, felly fe’ch cynghorir i gynnal:
  • arolwg ecolegol rhagarweiniol
  • darparu strategaeth ddraenio ddrafft a gwelliannau ecolegol fel y gellir nodi’r cyfyngiadau’n gynnar

y gellir llunio'r cynllun yn unol â hynny heb yr angen am newidiadau hwyr a allai effeithio ar y cynllun. Bydd y cam hwn o'r broses yn rhoi sicrwydd ynghylch yr hyn a ddisgwylir yn y prif gyflwyniad gan osgoi oedi diangen yn ddiweddarach yn y broses.

Mae cyflwyniad cyn ymgeisio yn fuddiol iawn a bydd yr ymateb yn darparu'r wybodaeth ganlynol:

  • Hanes cynllunio perthnasol y safle
  • Polisïau perthnasol y cynllun datblygu a fydd yn cael eu defnyddio er mwyn asesu’r cynnig datblygu
  • Canllawiau cynllunio atodol perthnasol (e.e. ystyriaethau dylunio, cadwraeth a bioamrywiaeth, ac ati)
  • Unrhyw ystyriaethau cynllunio sylweddol eraill
  • Barn y swyddog achos sy’n ystyried rhagoriaethau’r cynnig yng nghyd-destun pwyntiau (a)-(d) – ni ddylai unrhyw farn a fynegir leihau effaith y broses o wneud penderfyniad ffurfiol ynglŷn ag unrhyw gais cynllunio dilynol
  • Ar gyfer Ceisiadau Mawr, syniad o benawdau’r telerau ar gyfer unrhyw gytundeb cyfreithiol ynghyd â Thystysgrif Teitl i'w chwblhau.

Gwasanaeth cyn ymgeisio 

 

 

Unwaith y bydd y cais yn barod i'w gyflwyno, bydd pob cais cynllunio sy’n cael ei ddiffinio’n gais mawr yn destun Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio fel y nodir yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015. Bydd y cam hwn yn rhoi syniad o farn y cyhoedd yn ogystal â barn ymgyngoreion statudol cyn i'r cynllun gael ei gyflwyno'n ffurfiol i'w benderfynu.

Mae cynnwys adroddiad yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio wedi’i ragnodi gan Lywodraeth Cymru ac mae angen glynu’n gaeth ato.

Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio

Ar ôl cwblhau camau 1 a 2, gallwch nawr gyflwyno eu cais cynllunio mawr.

Mae Atodiad 1 yn nodi'r wybodaeth leiaf sydd angen ei chyflwyno ar gyfer datblygiadau mawr, a bydd pob cais yn cael ei wirio i sicrhau bod yr holl wybodaeth angenrheidiol yn cael ei gyflwyno. Bydd ceisiadau nad ydynt yn darparu'r wybodaeth ofynnol yn cael hysbysiad annilys a bydd ganddynt 14 diwrnod i gyflwyno'r wybodaeth neu apelio yn erbyn yr hysbysiad annilys. Mae'n hanfodol felly bod ymgeiswyr yn sicrhau bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen yn y rhestr wirio wedi'i hamgáu gyda'r prif gais a gyflwynir.

Sylwch na fydd y cais yn cael ei ddilysu nes bod y ffi ofynnol wedi'i derbyn a bod yr holl eitemau yn y rhestr wirio wedi'u cyflwyno gan nad yw'n cael ei ystyried yn gais cyflawn. Mae’n bwysig bod y ffi cynllunio’n cael ei thalu wrth gyflwyno er mwyn osgoi oedi neu beidio â dilysu’r cais

cyflwyno eich cais cynllunio

Mae'r llinell amser ar gyfer cyflwyno cais fel a ganlyn:

  • Derbyn y cais a’r holl gynlluniau/gwybodaeth ategol ynghyd â’r ffi gynllunio.
  • Bydd y cais yn caei ei ddilysu cyn pen 2 ddiwrnod gwaith ar ôl i'r cais ddod i law.
  • Bydd y cais yn cael ei gofrestru cyn pen 5 diwrnod gwaith ar ôl i'r cais ddod i law.
  • Bydd hysbysiadau safle yn cael eu hanfon at yr Asiant ar gyfer ymgynghori â’r cyhoedd ynghyd â chadarnhad o gofrestriad.
  • Bydd cyfnod ymgynghori 21 diwrnod yn dechrau cyn pen 1 diwrnod gwaith ar ôl cofrestru.
  • Bydd cais am Hysbysiad i'r Wasg yn cael ei anfon cyn pen 5 diwrnod gwaith ar ôl cofrestru. (Bydd cyhoeddi’r cais yn amodol ar amserlen gyhoeddi papurau lleol).
  • Bydd y swyddog achos yn ymweld â'r safle cyn pen 7 diwrnod ar ôl cofrestru
  • Bydd y swyddog achos yn trafod ag ymgyngoreion mewnol cyn pen 10 diwrnod ar ôl cofrestru*
  • Bydd y Cyfnod Ymgynghori â’r Cyhoedd yn dod i ben 21 diwrnod ar ôl yr hysbysiad i'r wasg.
  • Os bwriedir cymeradwyo’r cais dan bwerau dirprwyedig, bydd Penawdau’r Telerau’n cael eu cadarnhau a gofynnir am Dystysgrif Teitl ynghyd â ffi gyfreithiol o £1850 ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori i’w chwblhau o fewn 7 diwrnod.*
  • Os bydd angen cyflwyno’r cais i'r Pwyllgor Cynllunio, bydd unrhyw benderfyniad i gymeradwyo yn cael ei wneud gan y Pwyllgor.
  • Bydd gwasanaethau cyfreithiol yn cael eu cyfarwyddo ar ôl derbyn y Dystysgrif Teitl a Ffi Gyfreithiol.
  • Cyhoeddir y penderfyniad ar ôl cwblhau’r cytundeb cyfreithiol (lle bo angen)
  • Bydd y cais yn cael ei benderfynu naill ai o dan bwerau dirprwyedig neu gan y pwyllgor cynllunio cyn pen 8 wythnos oni bai y cytunir yn wahanol.

*Ar yr amod bod cyflwyniad cyn ymgeisio ac Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio wedi'u gwneud, bydd materion eisoes wedi'u nodi a'u datrys.

Bydd pob cais yn cael ei benderfynu gan y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd o dan bwerau dirprwyedig oni bai bod un o’r eithriadau a ganlyn yn berthnasol:

  • Mwy na 5 gwrthwynebiad
  • Buddiant Ariannol Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Aelod Lleol yn galw’r cais i mewn

 

 

Bydd ceisiadau y mae angen rhoi gwybod amdanynt i'r Pwyllgor Cynllunio yn cael eu hamserlennu ar gyfer y pwyllgor nesaf sydd ar gael sy’n cael ei gynnal bob pedair wythnos.  Sylwer efallai na fydd ceisiadau o’r fath yn cael eu penderfynu o fewn y cyfnod statudol o 8 wythnos oherwydd yr amserlen ymgynghori ac amserlen y pwyllgor. Os felly, ceisir estyniad amser priodol rhwng yr ymgeisydd a’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

Pwyllgor Cynllunio

Yn unol ag Erthygl 22(1A) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (fel y’i diwygiwyd yn 2016), os oes angen cynlluniau diwygiedig ar gynnig, gellir diwygio’r cynllun ar ôl ei gyflwyno. Gall hyn fod o ganlyniad i geisiadau gan yr awdurdod cynllunio neu ddiwygiadau gan yr ymgeisydd. Anfonwch nhw mewn e-bost at REGPlanningRegistrations@carmarthenshire.gov.uk gyda rhif y cais fel y gellir eu lanlwytho i ffeil yr achos, a chopïo’r swyddog achos er gwybodaeth. Peidiwch ag ailgyflwyno drwy'r porth cynllunio.

Sylwch fod ffi ychwanegol o £230 am bob diwygiad y bydd angen ei dalu ar yr adeg cyflwyno ac mae’r cyfnod penderfynu yn cael ei ymestyn i 4 wythnos o ddyddiad derbyn y diwygiad neu 12 wythnos o dderbyn y cais. , pa un bynnag yw'r olaf. Mae'r estyniad amser yn cael ei gymhwyso'n awtomatig gan ei bod yn debygol y bydd angen ymgynghori pellach.

Mae diwygiadau ôl-gyflwyno i gynllun yn cael eu dosbarthu fel diwygiadau ar ffurf cynlluniau diwygiedig a/neu ddogfennau diwygiedig. Er enghraifft, lle mae gosodiad yn annerbyniol, efallai y bydd cyfres o gynlluniau a dogfennau diwygiedig i adlewyrchu'r diwygiad i'r cynllun. Mae hwn yn cael ei ddosbarthu fel un gwelliant. Os bydd angen newidiadau pellach, caiff ei ddosbarthu fel gwelliant pellach gyda'r ffi ofynnol ac estyniad amser. Mae’n bwysig felly trafod cynigion yn gynnar drwy’r gwasanaeth cyn ymgeisio fel bod y cynllun a gyflwynir yn dderbyniol.

 

Mae Cytundebau Cyfreithiol yn debygol o fod yn angenrheidiol ar gyfer pob datblygiad tai mawr a rhai datblygiadau eraill os bydd, er enghraifft, gwelliannau priffyrdd neu daliadau Caeau Mynydd Mawr yn berthnasol.

Er mwyn sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud mewn modd amserol, rydym yn annog pobl i nodi ‘penawdau’r telerau’ ar y cam cyn ymgeisio neu fel arall o fewn y cyfnod ymgynghori 21 diwrnod os nad yw’r gwasanaeth cyn ymgeisio wedi’i ddefnyddio. 

I gyflymu'r broses, dylid cyflwyno Tystysgrif Teitl gyda'r cais.

Ni fydd gwasanaethau cyfreithiol yn dechrau paratoi’r cytundeb cyfreithiol heb Dystysgrif Teitl wedi’i llofnodi, cynllun perthnasol a ffi o £1850.

Pan wneir cyflwyniad cyn cais, bydd penawdau’r telerau’n cael eu nodi a bydd tystysgrif teitl yn cael ei hanfon ymlaen i’w chwblhau.

 

 

 

Cynllunio