Cyflwyno cais cynllunio

Diweddarwyd y dudalen ar: 30/08/2023

Rydym yn derbyn ceisiadau ar-lein ac ar bapur. Dim ond un copi o'ch ffurflen gais sydd ei angen arnom, ynghyd â'r dogfennau ategol a'r ffi berthnasol. Rydym yn argymell eich bod yn darllen y canllawiau ynghylch y gwahanol fathau o geisiadau cyn dechrau eich cais.  Mae'r Llawlyfr Rheoli Datblygu (atodiad 7) yn rhoi arweiniad am y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer cais cynllunio dilys a chaniatâd tebyg arall.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio 01558 825285 neu anfon neges e-bost at planningregistrations@sirgar.gov.uk.

Bydd y canllawiau canlynol yn eich helpu i ddeall pa gais y mae angen i chi ei gyflwyno. Gallwch hefyd ateb cyfres o gwestiynau ar wefan Cais Cynllunio Cymru a fydd yn eich arwain i'r math iawn o gais.

 

Y ffordd hawsaf i chi gyflwyno eich cais cynllunio yw ar-lein drwy ddefnyddio gwefan Cais Cynllunio Cymru. Mae llenwi ffurflen ar-lein yn sicrhau eich bod yn ateb dim ond cwestiynau sy'n berthnasol i'ch cais. Bydd eich ffurflen gais gyflawn yn cael ei hanfon yn uniongyrchol atom i'w phrosesu.

Mae'r Llawlyfr Rheoli Datblygu (atodiad 7) yn rhoi arweiniad am y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer cais cynllunio dilys a chaniatâd tebyg arall.

GWNEUD CAIS AM GANIATÂD CYNLLUNIO        LAWRLWYTHO NODIADAU CYFARWYDDYD AR GYFER CEISIADAU AR-LEIN (PDF)  

Pe byddai cyflwyno cais ar bapur yn well gennych, gallwch lawrlwytho ac argraffu fersiwn pdf yma a'i dychwelyd drwy'r post i Swyddfeydd y Cyngor, Heol Cilgant, Llandeilo, SA19 6HW gyda'r ffi berthnasol. Dim ond un copi o'ch ffurflen gais sydd ei angen arnom ynghyd â'r dogfennau ategol.

Mae'n bwysig eich bod yn darllen y cymorth sydd wedi'i atodi gan y bydd llenwi'r ffurflen yn anghywir yn oedi prosesu'ch cais.

Bydd angen i chi lawrlwytho a llenwi holiadur gwerthuso cynllunio amaethyddol wrth wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer anheddau neu adeiladau amaethyddol.


Cynllunio deiliad tŷ

Dylid defnyddio cais deiliad tŷ ar gyfer cynigion am newid neu estyn un tŷ, gan gynnwys gwaith o fewn cwrtil (ffin/gardd) tŷ.


Ffurflen gais caniatâd cynllunio deiliad tŷ

Cymorth i lenwi ffurflen gais deiliad tŷ


Caniatâd cynllunio deiliad tŷ a dymchwel mewn ardal gadwraeth

Cymorth i lenwi cais cyfun ar gyfer caniatâd cynllunio deiliad tŷ a chaniatâd dymchwel mewn ardal gadwraeth


Caniatâd cynllunio deiliad tŷ ac adeilad rhestredig

Cymorth i lenwi cais cyfun am ganiatâd cynllunio deiliad tŷ a chaniatâd adeilad rhestredig


Caniatâd cynllunio llawn


Caniatâd cynllunio llawn

Cymorth i lenwi'ch cais am ganiatâd cynllunio llawn

Os oes angen arnoch wneud cais am ddau fath o ganiatâd, e.e. caniatâd llawn a chaniatâd adeilad rhestredig, mae ffurflenni cyfun ar gael sy'n cynnwys y cwestiynau ar gyfer y ddau fath o gais. Os ydych yn defnyddio un o'r ffurflenni cyfun hyn, hyd yn oed os dim ond un ffurflen y mae angen i chi ei llenwi, byddant yn cael eu trin fel dau gais a rhoddir dau rif cais i chi, un ar gyfer pob math o ganiatâd.


Caniatâd cynllunio llawn a chaniatâd adeilad rhestredig

Cymorth i lenwi ffurflen gais gyfun am ganiatâd cynllunio llawn a chaniatâd adeilad rhestredig


Caniatâd cynllunio llawn a chaniatâd arddangos hysbysebion

Cymorth i lenwi ffurflen gais gyfun am ganiatâd cynllunio llawn a chaniatâd arddangos hysbysebion 


Caniatâd cynllunio llawn a chaniatâd dymchwel mewn ardal gadwraeth

Cymorth i lenwi ffurflen gais gyfun am ganiatâd cynllunio llawn a chaniatâd dymchwel mewn ardal gadwraeth


Caniatâd adeilad rhestredig a chaniatâd dymchwel mewn ardal gadwraeth


Caniatâd adeilad rhestredig

Cymorth i lenwi ffurflen gais am ganiatâd adeilad rhestredig


Caniatâd dymchwel mewn ardal gadwraeth

Cymorth i lenwi ffurflen gais am ganiatâd dymchwel mewn ardal gadwraeth


Caniatâd hysbysebu


Caniatâd i arddangos hysbyseb

Cymorth i lenwi ffurflen gais am ganiatâd i arddangos hysbyseb


Caniatâd cynllunio amlinellol


Caniatâd cynllunio amlinellol: rhai materion a gadwyd yn ôl

Cymorth i lenwi ffurflen gais am ganiatâd cynllunio amlinellol: rhai materion a gadwyd yn ôl


Caniatâd cynllunio amlinellol: holl faterion a gadwyd yn ôl 

Cymorth i lenwi ffurflen gais am ganiatâd cynllunio amlinellol: holl faterion a gadwyd yn ôl


Cymeradwyo materion a gadwyd yn ôl


Cymeradwyo materion a gadwyd yn ôl

Cymorth i lenwi ffurflen gais am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl


Dileu neu Amrywio amod(au)


Dileu/Amrywio amod

Cymorth i lenwi ffurflen gais am ddileu/amrywio amod


Rhyddhau amod(au)


Cymeradwyo manylion a gadwyd yn ôl gan amod (rhyddhau amod)

Cymorth i lenwi ffurflen gais am gymeradwyo manylion a gadwyd yn ôl gan amod (rhyddhau amod)


Cais am ddiwygiad ansylweddol ar ôl i ganiatâd cynllunio gael ei roi


Cais am ddiwygiad ansylweddol ar ôl i ganiatâd cynllunio gael ei roi

Cymorth i lenwi ffurflen gais am ddiwygiad ansylweddol


Tystysgrifau datblygu cyfreithlon


Datblygu cyfreithlon - defnydd presennol

Cymorth i lenwi ffurflen gais am ddatblygu cyfreithlon: defnydd presennol


Datblygu cyfreithlon - defnydd arfaethedig

Cymorth i lenwi ffurflen gais am ddatblygu cyfreithlon: defnydd arfaethedig


Hysbysu ymlaen llaw


Hysbysu ymlaen llaw - adeiladu (amaethyddol/coedwigaeth)

Cymorth i lenwi ffurflen gais am hysbysu ymlaen llaw - adeiladu (amaethyddol/coedwigaeth)


Hysbysu ymlaen llaw - ffordd (amaethyddol/coedwigaeth)

Cymorth i lenwi ffurflen gais am hysbysu ymlaen llaw - ffordd (amaethyddol/coedigaeth


Hysbysu ymlaen llaw - cloddio/gwastraff (amaethyddol/coedwigaeth)

Cymorth i lenwi ffurflen gais am hysbysu ymlaen llaw - cloddio/gwastraff (amaethyddol/coedwigaeth)


Hysbysu ymlaen llaw - tanc pysgod/cawell (amaethyddol/coedwigaeth)

Cymorth i lenwi ffurflen gais am hysbysu ymlaen llaw - tanc pysgod/cawell (amaethyddol/coedwigaeth)


Hysbysu ymlaen llaw - dymchwel

Cymorth i lenwi ffurflen gais am hysbysu ymlaen llaw - dymchwel


Hysbysu ymlaen llaw - datblygiad gan weithredwyr telathrebu

Cymorth i lenwi ffurflen gais am hysbysu ymlaen llaw - datblygiad gan weithredwyr telathrebu


Gwaith coed ar goed sy'n destun Gorchymyn Cadw Coed a choed mewn ardal gadwraeth


Gwaith coed: coed mewn ardaloedd cadwraeth/coed sy'n destun Gorchmynion Cadw Coed

Cymorth i lenwi ffurflen gais am waith coed: coed mewn ardaloedd cadwraeth/coed sy'n destun gorchymyn cadw coed


Gwaredu Perth


Hysbysiad gwaredu perth

Cymorth i lenwi ffurflen gais am hysbysiad gwaredu perth


Gellir prynu cynlluniau lleoliad a chynlluniau safle/bloc gan unrhyw ddarparwr mapiau Arolwg Ordnans cymeradwy ar-lein, megis Blackwells

Wrth ddefnyddio mapio Arolwg Ordnans ar gyfer ceisiadau cynllunio, dylai'r map wneud y canlynol:

  • Dangos hawlfraint Coron Arolwg Ordnans fel cydnabyddiaeth.
  • Dangos y rhif trwydded iawn os ydych am argraffu neu gopïo mapiau ar gyfer ceisiadau.
  • Peidio â bod yn ddogfen y Gofrestrfa Tir.
  • Heb gael ei ddefnyddio ar gyfer nifer o geisiadau.
  • Peidio â bod yn llungopi neu'n giplun.
  • Peidio â bod wedi'i gopïo o fapiau Arolwg Ordnans presennol os ydych yn defnyddio mapiau wedi'u llunio â llaw - megis taflenni safonol.

Er nad oes angen y manylion penodol canlynol i gyd er mwyn cofrestru bod cais yn ddilys, byddant yn ein cynorthwyo i ddeall y cais. Mae'r Llawlyfr Rheoli Datblygu (atodiad 7) yn rhoi arweiniad ynghylch y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer cais cynllunio dilys a chaniatâd tebyg arall.

Cynllun lleoliad

  • Graddfa 1:1250 neu 1:2500.
  • Pwynt gogleddol, dyddiad a rhif y darlun.
  • Amlinelliad o eiddo/safle’r cais gyda llinell goch.
  • Tynnwch linell las o amgylch unrhyw dir arall y mae’r ymgeisydd yn berchen arno, sy’n agos at neu sy’n ffinio â safle’r cais.
  • Dangos eiddo/safle’r cais mewn perthynas ag o leiaf dwy ffordd a enwir ac adeiladau amgylchynol os yn bosibl.

Manylion y cynllun presennol

  • Graddfa, 1:200 fel arfer neu raddfa briodol er mwyn canfod y lefel ofynnol o fanylder.
  • Pwynt gogleddol, dyddiad a rhif ar gynlluniau.
  • Dangos yr eiddo/safle cyfan, yn cynnwys pob adeilad, gerddi, mannau agored a mannau parcio ceir.
  • Unrhyw asesiadau perthnasol sydd wedi’u cynnal.

Manylion cynllun y safle arfaethedig

  • Graddfa, 1:200 fel arfer.
  • Pwynt gogleddol, dyddiad a rhif ar gynlluniau.
  • Dangos lleoliad unrhyw adeilad neu estyniad newydd, mynediad i gerbydau/cerddwyr, newidiadau i lefelau, cynigion tirlunio, yn cynnwys coed i’w symud, gwaith plannu newydd, waliau a ffensys ffin newydd neu wedi’u haddasu a mannau agored newydd ag arwynebedd caled.
  • Dangos y cynigion yng nghyd-destun adeiladau/yr amgylchedd cyfagos.
  • Dangos drychiad a chroestoriad o’r drychiad mwyaf serth.

Cynlluniau llawr

  • Graddfa 1:50 neu 1:100.
  • Yn achos estyniad, dangoswch gynllun llawr yr adeilad presennol i ddangos y berthynas rhwng y ddau, gan ddynodi’r gwaith newydd yn glir.
  • Dangos cynlluniau llawr yng nghyd-destun adeiladau cyfagos, lle bo’n briodol.
  • Yn achos ceisiadau bach, gallai fod yn briodol cyfuno’r cynllun a’r cynllun llawr (oni fydd gwaith dymchwel yn cael ei wneud).
  • Cynnwys cynllun to pan fydd angen, er mwyn dangos to cymhleth neu addasiad i do.

Drychiadau

  • Graddfa 1:50 neu 1:100 (yn gyson â chynlluniau llawr) sy’n cynnwys mesuriadau.
  • Dangos holl ddrychiadau adeilad newydd neu estyniad.
  • Ar gyfer estyniad neu addasiad, dangos yn glir pa rai yw’r drychiadau presennol a’r drychiadau arfaethedig.
  • Cynnwys manylion ymddangosiad perthnasol ac allanol.
  • Dangos drychiadau yng nghyd-destun adeiladau cyfagos, lle bo’n briodol.
  • Croestoriadau
  • Graddfa 1:50/1:100 (yn gyson â chynlluniau llawr), lle bo’n briodol.

Yn achos cynigion ar gyfer datblygiadau mawr neu gymhleth, gallai modelau, cynrychioliadau wedi’u cynhyrchu ar gyfrifiadur, darluniau ac agweddau tri dimensiwn fod yn ddefnyddiol iawn hefyd.

 

Bydd angen i chi lawrlwytho a chwblhau holiadur gwerthuso cynllunio amaethyddol  wrth wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer anheddau neu adeiladau amaethyddol.

Holiadur Gwerthuso Cynllunio Amaethyddol

Sylwch fod cymeradwyo Rheoliadau Adeiladu yn fater ar wahân i gael caniatâd cynllunio ar gyfer eich gwaith. Gall ein tîm Rheoli Adeiladu weithio gyda busnesau a deiliaid tai i helpu i sicrhau bod eich prosiect yn ddidrafferth ac yn effeithiol drwy'r prosesau dylunio, cymeradwyo ac adeiladu. Rydym hefyd yn darparu cyngor am ddim ynghylch rheoliadau adeiladu cyn ymgeisio, os bydd angen.

Wrth gyflwyno cais, bydd ffi ar gyfer cais cynllunio yn y rhan fwyaf o achosion. Fodd bynnag, ni fydd ffi'n berthnasol ar gyfer rhai mathau o ganiatâd, e.e. adeiladau rhestredig a chaniatâd cynllunio ar gyfer gwaith dymchwel perthnasol mewn ardal gadwraeth. Gellir gweld rhestr o eithriadau a chonsesiynau yn y ddogfen ynghylch ffïoedd.

Mae pob awdurdod cynllunio yng Nghymru'n talu'r un ffïoedd, a bennir gan Lywodraeth Cymru.

Os ydych yn ansicr ynghylch y ffi briodol ar gyfer eich cais, fe'ch cynghorir yn gryf i gysylltu â ni cyn cyflwyno'ch cais, gan y bydd ffi anghywir yn achosi oedi o ran prosesu'ch cais.

Newidiadau i ffioedd cynllunio

Cynyddodd ffioedd cais cynllunio yng Nghymru ar 24 Awst 2020. Dylid talu’r ffi pan gyflwynir y Cais.

LAWRLWYTHO FFÏOEDD CYNLLUNIO

Mae'n rhaid cyflwyno'r ffi gywir gyda'ch cais neu fel arall ni fydd yn ddilys ac ni chaiff unrhyw waith ei wneud o ran prosesu ac asesu eich cais.

Taliadau Ar-lein

Dulliau talu eraill

Bydd angen i chi ddarparu'r manylion canlynol wrth dalu - math o gais, cyfeirnod y cais neu enw a lleoliad y cais os nad oes cyfeirnod gennych eto, a'r ffi gywir.

  • Dros y ffôn - Rydym yn derbyn cardiau debyd Maestro, Solo neu Visa. Os hoffech siarad ag aelod o staff o'r tîm arianwyr, ffoniwch 01267 228686 yn ystod oriau swyddfa, 9am - 5pm.
  • Drwy'r post - Gwnewch eich siec yn daladwy i 'Cyngor Sir Caerfyrddin' a'i phostio i'r cyfeiriad isod: Y Gwasanaethau Cynllunio, Swyddfeydd y Cyngor, Heol Cilgant, Llandeilo, SA19 6HW.
  • Yn bersonol ­- Gallwch dalu ag arian parod, cerdyn credyd/debyd neu siec yn eich hwb gwasanaeth cwsmeriaid yn Rhydaman, Caerfyrddin neu Lanelli.
  • Taliad BACS - anfonwch neges e-bost at planningregistrations@sirgar.gov.uk i gael rhagor o fanylion a sefydlu taliad BACS.

 

Cynllunio