Enwi a rhifo strydoedd

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023

Rydym yn gyfrifol am enwi'r holl ffyrdd a strydoedd, ac am enwi a rhifo'r holl eiddo (preswyl, masnachol a diwydiannol) yn Sir Caerfyrddin


Nid oes gan y Post Brenhinol bŵer statudol i enwi stryd, enw neu rif eiddo neu ailenwi neu ail-rifo eiddo.

Gellir ond creu cyfeiriad a derbyn côd post gan y Post Brenhinol ar ôl iddo gael ei enwi a'i rifo'n swyddogol gan y cyngor. Felly os ydych yn cynllunio datblygiad newydd, yn adeiladu eiddo newydd, yn trawsnewid eiddo presennol neu'n dymuno newid enw eich eiddo, rhaid i chi gysylltu â ni ar gyfer creu cyfeiriad neu i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol.

Bydd methu â gwneud hyn yn golygu na fydd y cyfeiriad yn gyfeiriad swyddogol a bydd hyn yn arwain at broblemau. Er enghraifft, ni fydd y Post Brenhinol, cwmnïau dosbarthu neu wasanaethau cyfleustodau yn adnabod y cyfeiriad; ac efallai y ceir anawsterau wrth gofrestru i bleidleisio a dyrannu cardiau credyd. Hefyd, efallai bydd gwasanaethau Ambiwlans, Tân a Heddlu yn cael anhawster dod o hyd i'r cyfeiriad mewn argyfwng.

Dylid hefyd nodi bod gan y cyngor bŵer i orfodi newidiadau i gyfeiriadau answyddogol er mwyn sicrhau cydymffurfiad â chonfensiynau safonol a bod Polisi'r Cyngor ynghylch enwi a rhifo strydoedd yn cael ei gynnal. Mae'n well dweud wrth y cyngor am eich gofynion enwi a rhifo newydd cyn gynted â phosib.

Mae angen y gwasanaeth Enwi a Rhifo Stryd os:

Ydych wedi adeiladu eiddo newydd
Ydych wedi newid eiddo fel ysgubor i fod yn annedd, neu un eiddo yn fflatiau.
Ydych yn dymuno ail-enwi eich eiddo
Ydych yn dymuno ychwanegu enw i eiddo sydd â rhif ar hyn o bryd
Ydych wedi adeiladu datblygiad newydd o fwy nag un annedd. Gall hyn gynnwys enwi unrhyw ffyrdd o fewn y datblygiad
Ydych yn dymuno newid gweddlun datblygiadau newydd sydd eisoes wedi mynd drwy’r broses enwi a rhifo
Yw preswylwyr y dymuno ail-enwi stryd bresennol
Ydych angen cadarnhad o gyfeiriad

Fe’ch cynghorir yn gryf i wneud unrhyw gais am Enwi a Rhifo Strydoedd ar gyfer eiddo newydd cyn gynted ag sy’n bosibl yn y broses ddatblygu. Bydd hyn yn rhwystro unrhyw ohiriad wrth gael gwasanaethau ar gyfer yr eiddo.

 

Er mwyn sicrhau bod y broses yn mynd rhagddi mor effeithlon â phosibl, gofynnir i'r datblygwr ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

  1. Ffurflen gais wedi'i llenwi, ei llofnodi a'i dyddio
  2. Cynllun Lleoliad yn dangos yr eiddo
  3. Ffi gywir fel y nodir ar raddfa'r taliadau, ni fydd manylion yn cael eu cadarnhau nes bydd y ffi wedi'i derbyn

Mae'r ffurflenni cais, fersiynau pdf y gellir eu newid, ar gael i'w lawrlwytho. Anfonwch eich cais wedi'i gwblhau at: snn@sirgar.gov.uk

Mae'n rhaid cyflwyno'r ffi gywir fel y nodir ar raddfa'r taliadau gyda'ch cais, neu ni fydd yn ddilys ac ni chaiff unrhyw waith ei wneud o ran prosesu ac asesu eich cais. Bydd angen i chi ddarparu'r manylion canlynol:

  • Math o gais e.e. cais enwi a rhifo strydoedd
  • Cyfeirnod y cais, neu enw a lleoliad y cais os nad oes gennych gyfeirnod eto
  • Y ffi ymgeisio gywir fel y nodir ar raddfa'r taliadau.

Dros y Ffôn

Rydym yn derbyn taliadau cerdyn. Os hoffech siarad ag aelod o staff o'r tîm arianwyr, ffoniwch 01267 228686 yn ystod oriau swyddfa.

Trwy'r Post

Gwnewch eich siec yn daladwy i 'Cyngor Sir Caerfyrddin' a'i phostio i'r cyfeiriad isod: Y Gwasanaethau Cynllunio, Swyddfeydd y Cyngor, Heol Cilgant, Llandeilo SA19 6HW.

Yn Bersonol

Gellir talu drwy ddefnyddio arian parod, cerdyn credyd/debyd neu siec. Gellir gweld manylion ac oriau agor pob lleoliad:

Taliadau BACS

Anfonwch neges e-bost at snn@sirgar.gov.uk i gael rhagor o fanylion.

Pan gymeradwyir datblygiad newydd, mae'r Cyngor yn creu cyfeiriadau sy'n endidau 'dros dro'. Rhennir manylion y datblygiad arfaethedig â'r Post Brenhinol a fydd wedyn yn 'cadw a chofnodi' y cyfeiriadau ar ei gronfa ddata cyfeiriadau eiddo 'heb eu hadeiladu hyd yn hyn'. Er mwyn atal post rhag cael ei anfon at breswylfeydd/adeiladau nad ydynt yn bod, ni ddechreuir defnyddio'r cyfeiriadau hyd nes bydd deiliaid ynddynt neu hyd nes y bydd y preswylfeydd/adeiladau bron â chael eu cwblhau ac felly'n gallu derbyn gwasanaethau post.

Wrth i bob eiddo nesáu at gael ei gwblhau, bydd yn ofynnol i'r datblygwr hysbysu'r tîm Enwi a Rhifo Strydoedd ynghylch hynny a gwneud cais am ddechrau defnyddio'r cyfeiriad. Pan hysbysir ynghylch hyn, rhoddir cadarnhad i'r holl wasanaethau mewnol a phartneriaid allanol, gan gynnwys y gwasanaethau brys.

Hysbysir y Post Brenhinol er mwyn sicrhau bod y cofnodion priodol yn cael eu symud o'i gronfa ddata 'heb eu hadeiladu hyd yn hyn' i'w Ffeil Cyfeiriad Côd Post (PAF) gan olygu bod y manylion ar gael at ddefnydd cyffredinol a defnydd cyfeirio ledled y Deyrnas Unedig o fewn 24-48 awr, er gall yr ychwanegiad/cywiriad hwn gymryd sawl mis i gyrraedd defnyddwyr data'r Ffeil Cyfeiriad Côd Post. 

Bydd hyn yn digwydd wrth i gwmnïau allanol ddiweddaru eu cronfeydd data drwy ddefnyddio'r Cynnyrch Rheoli Cyfeiriadau diweddaraf, nad oes gan y Post Brenhinol unrhyw awdurdodaeth drostynt.

  • British Gas
  • BT    
  • Cyngor Tref/Cymuned
  • Treth y Cyngor
  • Pencadlys Heddlu Dyfed-Powys
  • Cofrestru Etholiadol
  • Y Gofrestrfa Tir
  • Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Yr Arolwg Ordnans
  • Y Post Brenhinol
  • Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG (Rhanbarth y Canolbarth a'r Gorllewin) 
  • Dŵr Cymru
  • Western Power Distribution 

Cynllunio