Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/04/2024

Mae gwneud newidiadau anawdurdodedig i adeilad rhestredig heb Ganiatâd Adeilad Rhestredig yn drosedd. Mae hyn yn berthnasol i berchennog eiddo rhestredig, neu unrhyw un sy'n gweithio ar yr eiddo hwnnw, a gall arwain at erlyniad. Os ydych chi'n amau neu'n gwybod bod gwaith anawdurdodedig wedi'i wneud ar adeilad rhestredig, gan gynnwys eich eiddo eich hun, dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol cyn gynted â phosibl.

Bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn rhoi gwybod a ddylid cyflwyno cais ffurfiol i reoleiddio'r gwaith hwn neu, os oes angen, i ddadwneud gwaith anawdurdodedig.

Mewn rhai amgylchiadau, gall yr awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad gorfodi i unioni gwaith anawdurdodedig ac, o bosibl, erlyn fel opsiwn olaf oll.

Ceir darpariaeth yn Neddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 ar gyfer gwaith brys. Gweler Adran 9 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

Os ydych yn ystyried bod angen gwneud gwaith brys, cysylltwch â'r Tîm Treftadaeth Adeiledig cyn dechrau er mwyn iddynt eich cynghori a'ch cynorthwyo. Os nad yw'n bosibl cysylltu â'ch Awdurdod Cynllunio Lleol (er enghraifft, y tu allan i oriau) dylech eu hysbysu ar y cyfle cyntaf ar ôl hynny.

Mae dechrau gwaith anawdurdodedig ar adeilad rhestredig yn drosedd a gallwch gael eich erlyn. Felly mae gwaith brys heb Ganiatâd Adeilad Rhestredig yn gofyn am gyfiawnhad clir ac argyhoeddiadol gyda thystiolaeth briodol bod y gwaith yn angenrheidiol.

O ran ceisio caniatâd ar gyfer gwaith anawdurdodedig ar adeilad rhestredig, ni chaniateir i chi wneud cais am ganiatâd yn 'ôl-weithredol' gan mai dim ond o'r dyddiad y rhoddir y caniatâd y caiff y gwaith ei ystyried yn gyfreithlon. Fodd bynnag, er mwyn rheoleiddio gwaith anawdurdodedig, bydd angen gwneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig. Bydd ceisiadau i gadw gwaith anawdurdodedig yn dilyn yr un gweithdrefnau â'r rhai ar gyfer cael caniatâd adeilad rhestredig fel pe na bai'r gwaith wedi'i wneud.

Mae er budd y perchennog i wneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig cyn gynted ag y caiff gwaith anawdurdodedig ei nodi er mwyn sicrhau nad yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn cymryd camau gorfodi. Bydd y Tîm Treftadaeth Adeiledig yn hapus i drafod unrhyw bryderon sydd gennych ynghylch hyn.

Mae cyfrifoldeb am waith anawdurdodedig ar adeilad rhestredig yn gysylltiedig â pherchnogaeth. Felly mae'n bwysig eich bod yn sefydlu a yw'r gwaith hyd yn hyn wedi'i awdurdodi cyn cyfnewid contractau.

Os ydych yn amau bod gwaith wedi'i wneud heb Ganiatâd Adeilad Rhestredig, dylech gysylltu â'ch Awdurdod Cynllunio Lleol ar unwaith a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi ynghylch pa gamau i'w cymryd. Yn aml bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn eich gwahodd i wneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig i reoleiddio'r gwaith anawdurdodedig, ond mewn rhai amgylchiadau gall fod yn ofynnol i chi, lle bo'n bosibl, ddadwneud y gwaith anawdurdodedig.

Os ydych yn amau bod gwaith anawdurdodedig wedi'i wneud ar adeilad rhestredig, dylech roi gwybod i'n Tîm Gorfodi Rheolau Cynllunio a fydd wedyn yn ymgynghori â'r Tîm Treftadaeth Adeiledig.

Bydd yn ofynnol i chi roi gwybod yn ffurfiol am y gwaith anawdurdodedig honedig, naill ai drwy anfon neges e-bost neu lythyr. Nid oes modd ymchwilio i adroddiadau dienw, ond ymdrinnir â phob adroddiad yn gyfrinachol.

Os ydych yn pryderu am adeilad rhestredig y mae'n ymddangos ei fod yn agored i niwed neu mewn cyflwr gwael, gallwch roi gwybod amdano i Dîm Gorfodi Cyngor Sir Caerfyrddin a fydd yn ymgynghori â'r Tîm Treftadaeth Adeiledig.

Bydd yn ofynnol i chi gyflwyno adroddiad ffurfiol ynghylch eich pryderon yn ysgrifenedig, naill ai drwy anfon neges e-bost neu lythyr. Nid oes modd ymchwilio i adroddiadau dienw, ond ymdrinnir â phob adroddiad yn gyfrinachol.

Cynllunio