Ffynonellau gwybodaeth eraill

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/04/2024

Mae'r Tîm Treftadaeth Adeiledig ar gael i ateb eich cwestiynau a gellir cysylltu â nhw yng Nghanolfan Tywi. Os yw eich cynnig yn debygol o gael effaith ar adeilad rhestredig Gradd I (un) neu II* (dwy seren), cymeriad a golwg Ardal Gadwraeth (safle dros 1000 metr sgwâr), Heneb Gofrestredig, Maes Brwydr Rhestredig neu Barc a Gardd Restredig Gradd I (un) neu II* (dwy seren), rydym yn eich cynghori'n gryf i gysylltu â Cadw i gael cyngor cyn cyflwyno cais.

Fel arall, efallai yr hoffech gyflogi Pensaer Cadwraeth neu Ymgynghorydd Treftadaeth/Cynllunio sy'n gallu eich cynghori ymhellach yn ystod y cyfnod cynnar hwn. Bydd Syrfewyr a Phenseiri Cadwraeth arbenigol wedi gorfod dangos i'w sefydliad aelodaeth broffesiynol (e.e. Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain - RIBA, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig - RICS, Sefydliad Siartredig Adeiladu - CIOB) eu bod yn meddu ar brofiad cydnabyddedig o gadwraeth. Wedyn byddant yn gallu galw eu hunain yn 'Bensaer Cadwraeth' neu'n 'Aelod Achrededig Cadwraeth'.

Mae aelodaeth y Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol - IHBC hefyd yn dangos fod gweithiwr proffesiynol yn ymwybodol o faterion mewn perthynas â chadwraeth adeiladau hanesyddol.

Nid ydym yn cymeradwyo ymgynghorwyr, contractwyr na chyflenwyr, ond dyma rai cynghorion syml i'ch helpu i ddewis yr ymgynghorydd proffesiynol, adeiladwr neu grefftwr cywir.

Pensaer neu syrfëwr adeiladu

Nid yw pob pensaer a syrfëwr yn gyfarwydd â gweithio gydag adeiladau hanesyddol a thechnegau adeiladu traddodiadol, felly dewiswch rywun sy'n bodloni'r canlynol:

  • Rhywun sy'n meddu ar y sgiliau, gwybodaeth a phrofiad angenrheidiol.
  • Gorau oll rhywun sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol mewn cadwraeth adeiladau.
  • Perthyn i gorff proffesiynol priodol, megis Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol (IHBC), neu'n Arbenigwr Cadwraeth gyda Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA), Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) neu'r Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB).
  • Gorau oll rhywun sydd wedi cael ei argymell ichi ar ôl iddo/iddi gyflawni gwaith da ar eiddo hanesyddol.
  • Rhywun sy'n gallu rhoi manylion ichi ynglŷn â phrosiectau blaenorol y mae wedi gweithio arnynt sy'n debyg i'ch un chi a threfnu eich bod yn ymweld â'r eiddo ac yn siarad â'r perchnogion.

Yn ogystal â chyflawni archwiliadau cynnal a chadw ar eich rhan, bydd pensaer neu syrfëwr adeiladu yn gallu rhoi cyngor ichi ynghylch yr hyn sydd angen ei wneud a sut. Os yw'n angenrheidiol, gall baratoi manyleb, gwneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig, ceisio dyfynbrisiau cystadleuol gan adeiladwyr addas, a goruchwylio'r prosiect i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni i safon briodol.

Er y codir tâl arnoch am y gwaith hwn, gallai penodi ymgynghorydd proffesiynol ar gyfer unrhyw beth heblaw am fân atgyweiriadau arbed arian ichi yn yr hirdymor drwy sicrhau mai dim ond gwaith angenrheidiol sy'n cael ei gyflawni, ei fod yn cael ei gyflawni'n iawn ac y codir tâl teg arnoch.

Peiriannydd strwythurol

Os ydych wedi nodi problem a allai gael effaith ar gadernid strwythurol eich adeilad, megis wal neu strwythur to sy'n symud, mae'n bosibl y bydd angen ichi gael cyngor gan beiriannydd strwythurol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich pensaer neu syrfëwr yn gallu argymell rhywun sy'n meddu ar brofiad addas o gadwraeth. Fel arall, cysylltwch â Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol (IStructE) i gael manylion cyswllt peirianwyr addas.

Adeiladwyr a chrefftwyr

Mae'n hanfodol eich bod yn dewis adeiladwr neu grefftwr sy'n meddu ar y sgiliau cadwraeth priodol a'r wybodaeth ar gyfer y gwaith dan sylw. Bydd angen i chi fod yn hyderus y byddant yn gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol yn unig. Er enghraifft, dylai ffenestri gael eu hatgyweirio lle bynnag y bo modd, yn hytrach na gosod rhai newydd.
Nid yw pob adeiladwr yn gyfarwydd â defnyddio technegau adeiladu traddodiadol, felly dewiswch rywun sy'n bodloni'r canlynol:

  • Rhywun sy'n meddu ar y sgiliau, gwybodaeth a phrofiad angenrheidiol. Yn ddelfrydol, dylai'r adeiladwr neu'r crefftwr allu rhoi tystiolaeth o'i allu i gyflawni'r gwaith sydd ei angen, a allai gynnwys meddu ar Gerdyn Sgiliau Treftadaeth.
  • Gorau oll, rhywun sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol mewn cadwraeth adeiladau.
  • Gorau oll, rhywun sydd wedi cael ei argymell ichi ar ôl iddo/iddi gyflawni gwaith da ar eiddo hanesyddol.
  • Rhywun sy'n gallu rhoi manylion ichi ynglŷn â phrosiectau blaenorol y mae wedi gweithio arnynt sydd yn debyg i'ch un chi a threfnu eich bod yn ymweld â'r eiddo ac yn siarad â'r perchnogion.

Gellir dod o hyd i restr contractwyr Treftadaeth ac arbenigwyr cadwraeth ar wefan Fforwm Adeiladau Traddodiadol Cymru.

Nid yw'r rhain yn cael eu hargymell gan Gyngor Sir Caerfyrddin, ond maent yn gwneud yr holl waith ar adeiladau hanesyddol.

Cynllunio