Sut y gallai targedau ffosffad newydd effeithio ar eich datblygiad

Sut y gallai targedau ffosffad newydd effeithio ar eich datblygiad

Ym mis Ionawr 2021 cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dargedau newydd i leihau crynodiad ffosfforws mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ledled Cymru.

Roedd y targedau diwygiedig yn dilyn tystiolaeth newydd gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur y gallai tywydd cynhesach a sychach, a ragwelir o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, leihau llif afonydd yn ystod yr haf ac felly cynyddu crynodiadau ffosffad. Mae hefyd yn seiliedig ar dystiolaeth newydd ynghylch effeithiau niweidiol ffosffadau ar rywogaethau ac ecosystemau dŵr. Mae pwysigrwydd hyn yn cael ei gydnabod yn rhannol drwy ddatganiad Argyfwng Natur gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn 2022.

Mae Canllawiau CNC yn nodi bod Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am gynnal Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 trwy fonitro datblygiad o fewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.

Ar hyn o bryd, mae dros 60% o'r cyrff dŵr yng Nghymru yn methu'r targedau llymach, a gofynnir i Awdurdodau Cynllunio Lleol gymryd mwy o gamau i atal yr amgylchedd rhag dirywio ymhellach. Mae hyn yn golygu bydd yn rhaid i'r holl gynigion datblygu yn y dyfodol o fewn Dalgylchoedd Afonydd ACA a fydd yn cynyddu cyfaint dŵr gwastraff brofi bellach na fydd y datblygiad yn cyfrannu at gynyddu mewn lefelau ffosfforws.

Yn Sir Gaerfyrddin, mae Afon Teifi, Afon Tywi, Afon Gwy, Afon Wysg ac Afonydd Cleddau wedi'u dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol. Ar hyn o bryd, nid yw Afon Teifi, Afon Gwy, Afon Wysg, nac Afonydd Cleddau yn cyrraedd targedau CNC, ac er bod Afon Tywi yn rhagori ar ei thargedau, prin yw'r hyblygrwydd. Mae rhagor o fanylion am statws yn erbyn y targedau hyn i'w gweld yn adroddiad Asesiad Cydymffurfiaeth CNC o ACA Afonydd Cymru yn erbyn Targedau Ffosfforws.

Bydd gan ddatblygiadau yn agos at yr afonydd hyn gapasiti cyfyngedig o bosib i gysylltu â'r system garthffosiaeth gyhoeddus a rhaid dod o hyd i atebion eraill a fydd yn bodloni'r targedau newydd, naill ai drwy fod yn niwtral o ran ffosffad neu drwy wella yn hynny o beth.