Sut y gallai targedau ffosffad newydd effeithio ar eich datblygiad

Cyfrifiannell Gorllewin Cymru

Mae Cyfrifiannell Gorllewin Cymru bellach ar fyw.

Datblygwyd Cyfrifiannell Cyfrifo Maetholion wreiddiol Sir Gaerfyrddin, yr un gyntaf yng Nghymru, i ffurfio Cyfrifiannell Cyfrifo Maetholion Gorllewin Cymru. Mae'r gyfrifiannell hon yn gweithio yn yr un ffordd â'r un flaenorol ond mae ganddi nodweddion ychwanegol ac mae wedi cael ei mireinio i ddarparu ar gyfer pob un o'r tri dalgylch ACA. Mae hwn yn gam cyntaf pwysig o ran galluogi datblygiad niwtral o ran maetholion i fynd rhagddo ym mhob dalgylch yng ngorllewin Cymru. 

Adnodd am ddim yw hwn, sydd wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer dalgylchoedd ACA Tywi, Teifi a Cleddau. Bydd yn eich cynorthwyo i ddeall effaith eich datblygiad drwy gadarnhau cyllideb ffosffad y datblygiad arfaethedig, gan eich galluogi i ystyried y gofynion lliniaru. Rydym wedi llunio dogfen Ganllaw ar gyfer y Gyfrifiannell i'ch helpu i ddefnyddio'r gyfrifiannell. Rydym hefyd wedi creu Dogfen Dechnegol sy'n esbonio o ble y casglwyd y data a sut mae’r cyfrifiadau wedi'u gwneud. Lluniwyd canllawiau lliniaru ar wahân ar gyfer pob dalgylch. Mae’r rhain i’w gweld yma: 

Canllawiau Lliniaru Gorllewin Cymru

Er nad yw'n ofynnol i chi ddefnyddio'r gyfrifiannell hon, rydym yn eich annog yn gryf i wneud hynny.  Bydd unrhyw geisiadau a gyflwynir gan ddefnyddio cyfrifianellau amgen yn destun craffu ychwanegol i benderfynu pa mor berthnasol ydynt i'r amodau yn y sir. 

Os yw'r ateb yn gadarnhaol i'r cwestiynau canlynol: 

  • 1
  • 2 a 3
  • 2 a 4

bydd angen defnyddio cyfrifiannell cyfrifo maetholion i asesu a fydd y datblygiad yn cynyddu'r llwyth maetholion mewn safle Ewropeaidd ac a yw'r datblygiad o fewn dalgylch sy'n draenio i safle Ewropeaidd yr effeithir arno. 

  1. A yw'r datblygiad o fewn dalgylch sy'n draenio i safle Ewropeaidd yr effeithir arno? 
  2. A yw'r gwaith trin dŵr gwastraff sy'n derbyn y dŵr yn rhyddhau i safle Ewropeaidd yr effeithir arno.
  3. A fydd y datblygiad yn arwain at gynnydd mewn aros dros nos? 
  4. A fydd y datblygiad yn arwain at gynnydd yn nifer y cwsmeriaid/defnyddwyr neu weithwyr sy'n dod i ddalgylch yr afon ACA o'r tu allan i'r dalgylch i weithio (yn y cyd-destun hwn, y diffiniad o ddefnyddiwr yw person a all ddefnyddio gwasanaeth neu gyfleusterau a ddarperir gan y datblygiad heb gael ei ystyried yn uniongyrchol yn gwsmer)? 

 

Cyfrifiannell Cyfrifo Maetholion    Canllawiau Lliniaru

Dogfen ganllaw Cyfrifiannell         Adolygiad Technegol

 

Sut mae'n gweithio

Yn syml, ewch ati i fewnbynnu'r wybodaeth sy'n benodol i'ch datblygiad ac i'r safle i'r gyfrifiannell ac ewch drwy'r camau. Darparwyd cyfarwyddiadau i'ch helpu. 

Bydd y gyfrifiannell yn cynhyrchu ffigwr ffosfforws mewn cilogramau fesul blwyddyn. Gellid defnyddio'r ffigwr terfynol i'ch helpu i ystyried eich opsiynau lliniaru o ran ffosfforws. Fodd bynnag, ni fydd y gyfrifiannell yn amcangyfrif faint o dir sydd ei angen ar gyfer unrhyw fath o liniaru oherwydd y newidynnau niferus mewn datrysiadau seiliedig ar natur a all amrywio yn dibynnu ar waith cynnal a chadw, aeddfedrwydd ac amodau safle-benodol arfaethedig.

Ymwadiad

Nid yw'r Awdurdod Lleol yn derbyn atebolrwydd am unrhyw niwed, colled neu anghyfleustra uniongyrchol neu anuniongyrchol a achosir drwy lawrlwytho a/neu ddefnyddio'r Gyfrifiannell Cyfrifo Maetholion.

Bydd y gyfrifiannell yn cael ei hadolygu a'i diweddaru'n rheolaidd i sicrhau ei bod yn cael ei seilio ar y dystiolaeth orau posibl ac yn adlewyrchu'r amodau lleol yn gywir. Cyfeiriwch at y Canllaw Technegol i gael esboniad o'r setiau data a'r fethodoleg a ddefnyddir yn y gyfrifiannell.  Os oes gennych unrhyw sylwadau, rhowch wybod inni drwy anfon neges e-bost at blaengynllunio@sirgar.gov.uk