Sut y gallai targedau ffosffad newydd effeithio ar eich datblygiad

Cwestiynau Cyffredin Ffosfad

Rhagor o wybodaeth a chwestiynau ynghylch targedau ffosffadau a'r hyn y mae'n ei olygu ar gyfer eich datblygiad.

Mae ffosfforws yn elfen ac yn digwydd yn naturiol fel ffosfforws anorganig ac organig sy'n cynnwys cyfansoddion. Mae ffosffad yn gyfansoddyn a dyma'r math mwyaf bioavailable o ffosfforws. Yn naturiol, mae'n digwydd mewn lefelau isel ac mae'n faethyn hanfodol ar gyfer pob bywyd organig.

Gall crynodiadau gormodol o ffosffad mewn afonydd ysgogi proses a elwir yn ewtroffigedd. Caiff y broses hon effaith ddinistriol ar iechyd afonydd ac ecosystemau dŵr. Gall maetholion gormodol, ar ffurf ffosffad, ysgogi blodau algaidd. Mae blodau algaidd yn atal golau'r haul rhag treiddio'r dŵr. Heb olau'r haul ni all planhigion dyfrol ffotosyntheseiddio, felly maent yn marw o ganlyniad ac mae microbau'n resbiradu ar y mater organig sy'n dadelfennu. Yn ystod ffotosynthesis, mae planhigion yn cynhyrchu ocsigen y mae bywyd dyfrol yn dibynnu arno i anadlu. Pan fydd microbau'n resbiradu ar blanhigion marw a charthffosiaeth, maent yn defnyddio ocsigen. Mae dyfroedd diocsigenedig yn achosi i organebau dyfrol fel pysgod farw trwy fogi. Mae ewtroffigedd yn chwalu ecosystemau cyfan, a'r canlyniad yw corff dŵr sy'n 'farw' yn y bôn.

Prif ffynonellau ffosfforws yw amaethyddiaeth (gwrteithiau a thail) a charthffosiaeth dŵr gwastraff (carthffosiaeth, gwastraff bwyd, glanedyddion). Mae Dŵr Cymru wrthi'n cynnal adolygiad o ffynonellau Ffosffad. Bydd hyn yn helpu i lywio ein dull gweithredu yn well a gwybod ble i osod strategaethau lliniaru penodol. Gallwch weld y data dosrannu ffynonellau yma.

Mae'r mathau o ddatblygiadau y gellid effeithio arnynt yn cynnwys (nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth a gellid ei hadolygu): 

  • Unedau preswyl newydd gan gynnwys tai, safleoedd/lleiniau sipsiwn a theithwyr;
  • Atyniadau twristiaeth a datblygiadau masnachol lle darperir llety dros nos;
  • Datblygiadau masnachol neu ddiwydiannol mawr newydd lle bydd cwsmeriaid yn cael eu denu o'r tu allan i'r dalgylch megis safleoedd manwerthu mawr, cyfleusterau cynadledda, neu atyniadau twristaidd mawr;
  • Datblygiad amaethyddol, gan gynnwys hysbysiadau ymlaen llaw (datblygiad nad oes angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer, ond lle mae angen i'r awdurdod cynllunio lleol gadarnhau ei fod yn cael ei ganiatáu) gan gynnwys ysguboriau ychwanegol a storfeydd slyri sy'n debygol o arwain at gynnydd mewn anifeiliaid;
  • Hysbysiadau ymlaen llaw am newid defnydd swyddfa yn gartref ac adeilad amaethyddol yn gartref.

Mae canllawiau a chyngor pellach ar gael ar Dudalen Cyngor Cynllunio Ffosffad CNC.

Nid yw'r datblygiadau canlynol yn debygol o gael effaith sylweddol ar ardal gadwraeth arbennig afonol mewn perthynas â mewnbynnau ffosfforws, gan nad yw'n debygol y bydd ffynhonnell ffosfforws neu lwybr ychwanegol ar gyfer effeithiau:

  • unrhyw ddatblygiad nad yw'n cynyddu cyfaint a chrynodiad ffosfforws mewn dŵr gwastraff.
  • unrhyw ddatblygiad sy'n gwella gollyngiadau ansawdd dŵr presennol trwy leihau crynodiad ffosfforws dŵr gwastraff heb gynyddu cyfaint neu drwy leihau cyfaint dŵr gwastraff a gynhyrchir heb gynyddu crynodiad ffosfforws.
  • datblygiadau a fwriedir i ddarparu gwasanaethau, cyfleusterau, safleoedd masnachol, neu fannau cyflogaeth (e.e. adeiladau cymunedol, ysgolion ac ati) ar gyfer poblogaeth leol sydd eisoes yn cael ei gwasanaethu gan gysylltiadau preswyl â charthffosydd cyhoeddus neu breifat presennol sy'n llifo i ddalgylch afon ACA.
  • unrhyw ddatblygiad sy'n lleihau amlder, neu gyfaint gollyngiadau ffosfforws afreolaidd o fewn dalgylch afon ACA megis codi adeiladau amaethyddol a chynlluniau draenio i wahanu dŵr glaw o dail a slyri trwy gwmpasu iardiau a storfeydd tail/slyri presennol. Sylwer na ddylai unrhyw ddatblygiad o'r fath fod yn gysylltiedig â chynnydd yn nifer y da byw na'r gallu i gynyddu nifer y da byw drwy ddarparu seilwaith ychwanegol.
  • systemau trin carthion preifat sy'n gollwng dŵr gwastraff domestig i'r ddaear, sydd wedi'u hadeiladu i'r Safon Brydeinig berthnasol (BS 6297:2007+A1:2008), mae'r gyfradd ollwng ddyddiol uchaf yn llai na 2 fetr ciwbig (m3) ac mae'r maes draenio wedi'i leoli mwy na 40m o unrhyw nodwedd dŵr wyneb megis afon, nant, ffos neu ddraen ac wedi'i leoli mwy na 50m o ffin ACA ac o leiaf 200m o unrhyw ollyngiad hysbys arall i'r ddaear.

Mae canllawiau a chyngor pellach ar gael ar Dudalen Cyngor Cynllunio Ffosffad CNC.

 

Os yw eich cais cynllunio o fewn dalgylch afon ACA, bydd angen i chi:

  1. Penderfynu a oes modd diystyru'r datblygiad yn un annhebygol o gael effaith sylweddol ar ACA afon mewn perthynas â mewnbynnau ffosfforws. Gelwir y cam hwn yn 'Prawf yr Effaith Arwyddocaol Debygol (TLSE)'. Cyfeiriwch at 'Pa fath o ddatblygiadau yr effeithir arnynt?' Os ydych yn teimlo na fydd eich cais yn cael effaith sylweddol, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth i ni i gefnogi hyn.
  2. Os na ellir diystyru'r datblygiad, bydd angen i chi gyfrifo'r llwyth ffosffad ychwanegol o'r datblygiad arfaethedig gan ddefnyddio'r Gyfrifiannell Cyfrifo Maetholion. Mae canllaw ysgrifenedig a fideo i'ch helpu i ddefnyddio'r gyfrifiannell.
  3. Yna bydd angen i chi gyflwyno Cynnig Lliniaru sy'n dangos sut bydd y ffosffad ychwanegol a gynhyrchir yn cael ei liniaru. Gweler y canllawiau Lliniaru i gael gwybodaeth fanwl am y mesurau mwyaf priodol y gellid eu defnyddio yn Sir Gaerfyrddin.

Gallech dynnu eich cais yn ôl ac aros am gynnydd pellach o ran atebion neu siarad â'ch swyddog cynllunio i gytuno ar estyniad i'ch cais.

Gallech hefyd arfer eich hawl i apelio os nad oes penderfyniad wedi'i wneud ar ôl wyth wythnos o'r adeg y cofrestrwyd/dilyswyd eich cais, ond bydd yr Arolygiaeth Gynllunio hefyd yn ystyried effeithiau'r datblygiad ar lefelau ffosffad.

Rydym hefyd yn eich cynghori i gadw llygad ar gynnydd eich cais ar ein system a chofrestru i gael diweddariadau. 

Gall estyniadau domestig ddarparu mwy o le byw mewn eiddo sy'n bodoli eisoes. Efallai na fyddant yn arwain at newid yn nifer y deiliaid, ac, yn ein barn ni, byddai'n ymddangos yn rhesymol i estyniadau domestig gael eu diystyru ym mhrawf yr effaith arwyddocaol debygol. Ein barn ni yw, oni bai y byddai'r cynnig yn arwain at greu llety byw'n annibynnol, uned gynllunio ar wahân a/neu newid mewn defnydd, lle na ellir dweud mwyach ei fod yn ategol i'r brif breswylfa, mae datblygiadau o'r fath yn annhebygol o arwain at effeithiau sylweddol ar ACA drwy newidiadau o ran gollwng dŵr gwastraff. Fodd bynnag, gall cynigion sy'n arwain at greu llety byw'n annibynnol fel uned gynllunio ar wahân arwain at gynnydd mewn deiliadaeth gan drigolion o'r tu allan i ddalgylch afon ACA, ac yn yr achosion hyn, mae angen asesu cynigion ymhellach.

Fel arfer, nid ystyrir ei bod yn amgylcheddol dderbyniol gosod cyfleuster trin carthion preifat mewn ardaloedd lle mae prif garthffosydd oherwydd bod mwy o risg o fethu, a allai arwain at lygredd.

Mae canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru yn nodi, lle y bo'n bosibl, y dylid gollwng dŵr gwastraff brwnt datblygiad newydd i garthffos gyhoeddus.

Os oes modd dangos, oherwydd cost a/neu faterion ymarferol, nad yw cysylltu â charthffos gyhoeddus yn bosibl, yna gellid ystyried gwaith trin dŵr gwastraff preifat - neu system gwaredu carthion nad yw'n cysylltu â phrif garthffos.

Sylwch fod yn rhaid i chi gael trwydded amgylcheddol, neu gofrestru esemptiad gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, i weithredu system ddraenio breifat. Ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru fel arfer yn rhoi trwydded gollwng dŵr ar gyfer system trin carthion breifat lle mae'n rhesymol cysylltu â'r garthffos dŵr brwnt gyhoeddus.

I gael mwy o wybodaeth am ddefnyddio gwaith trin preifat mewn perthynas â chael gwared â ffosffad, cyfeiriwch at Dudalen Cyngor Cynllunio Ffosffad CNC.

Pan fydd newid o ddefnydd masnachol presennol (neu ddefnydd di-breswyl arall) i ddefnydd preswyl, tybir y bydd hyn yn arwain at gynhyrchu mwy o ddŵr gwastraff ac felly bydd mwy o faethynnau yn cael eu gollwng i waith trin dŵr gwastraff.

Mae capasiti gan waith trin dŵr gwastraff o'r fath, a phan gyrhaeddir y capasiti hwn nid oes ffordd hawdd o greu mwy o le. Mae hyn yn creu mwy o risg o orlwytho a allai gynyddu faint o faethynnau sy'n cael eu gollwng i gyrsiau dŵr.

Felly, bydd angen cynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a rhoi mesurau lliniaru ar waith ar gyfer y math hwn o newid defnydd.

Mae afonydd iach yn cefnogi cadernid cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a'r gallu i addasu i newid. Rydym am gael atebion sy'n gwella amgylcheddau naturiol bioamrywiol ac yn hyrwyddo ecosystemau iach. Rydym am weithio gyda grwpiau amgylcheddol a grwpiau afonydd i ddod o hyd i atebion a byddem yn croesawu eich cyfranogiad. Cysylltwch â'n Swyddog Rheoli Maetholion drwy anfon e-bost at blaengynllunio@sirgar.gov.uk

Ystyr lliniaru yw dod o hyd i ffordd o atal llygredd ffosffad rhag mynd i mewn i ddyfrffyrdd a warchodir. Gall mesurau gynnwys rheoli ffynonellau llygryddion, adfer ecosystemau sydd wedi'u difrodi, rheoli dalgylchoedd, a nodweddion fel Systemau Draenio Cynaliadwy a chlustogfeydd afonydd y gellir eu defnyddio i hidlo dŵr ffo amaethyddol ac arwain at welliant. Mae mesurau lliniaru sydd agosaf at ffynhonnell llygredd ffosffad yn well.

Ystyr gwrthbwyso yw cymryd camau i leihau faint o ffosfforws sy'n cael ei gynhyrchu er mwyn gwneud iawn am lefelau uwch mewn mannau eraill.

Er enghraifft, ym myd amaeth cynhyrchir ffosffad drwy daenu gwrtaith ac wrth i anifeiliaid bori ar dir amaethyddol. Mae dŵr glaw yn cario'r ffosffadau hyn i gyrsiau dŵr, yn enwedig ar dir sydd ar oleddf. Gallai peidio â defnyddio darn o dir amaethyddol atal ffosffadau rhag cael eu hychwanegu gan greu mesur gwrthbwyso.

Byddai'r arwynebedd o dir sydd ei angen i wrthbwyso cartrefi newydd yn dibynnu ar ddaeareg a graddiant y tir, a pha mor ddwys y cafodd ei ffermio.

Mae'r ymadrodd hwn yn cyfeirio at waredu maetholion gan ddatblygwyr neu awdurdodau cynllunio lleol i greu gallu ar gyfer twf heb achosi mewnbwn maetholion ychwanegol. Mae egwyddorion niwtraliaeth maetholion mewn perthynas â datblygiad neu gynigion hawlen gollwng dŵr yn cael eu disgrifio gan CNC yma.

Oes, ac maent yn seiliedig ar natur yn bennaf. Gall y mater fod yn gymhleth ac mae amrywiaeth o fesurau (megis cael gwared ar ffosffad yn y ffynhonnell, lliniaru a gwrthbwyso) yn cael sylw ar hyn o bryd yn ôl y dalgylch a'r safle penodol.

Mae datblygiadau amaethyddol newydd sy'n cynnwys storio, rheoli a gwasgaru deunydd organig, ac sydd o fewn dalgylch Ardal Cadwraeth Arbennig afonol, yn gallu cyfrannu at faint o ffosfforws sy'n mynd i mewn i'r safle dynodedig. Mae'n debygol yr effeithir ar ddatblygiadau o'r fath a bydd angen rhoi mesurau lliniaru ar waith.

Mae mesurau rheoli maethynnau, tir, tail a chynefinoedd y gellir eu rhoi ar waith i leihau faint o ffosffad sy'n mynd i mewn i afonydd o ffynonellau gwasgaredig. Mae newidiadau y gellir eu gwneud ar unwaith hefyd, er enghraifft codi ffensys ar hyd glannau afonydd i atal anifeiliaid rhag mynd i mewn i'r afonydd.

Hoffem archwilio syniadau ynghylch rheoli dalgylchoedd gyda'r gymuned ffermio. Cysylltwch â'n Swyddog Rheoli Maetholion drwy anfon e-bost at blaengynllunio@sirgar.gov.uk

Mae profion trylifo bellach yn ofyniad yn unol â'r cyngor diweddaraf gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer ceisiadau cynllunio sy'n cynnig systemau trin carthion preifat sy'n llifo (llai na 2m3 y dydd) i gae draenio. Mae hyn er mwyn sicrhau y gall yr elifion gwastraff o'r system trin carthion preifat ymdreiddio'r matrics pridd (er mwyn osgoi cronni) a thrylifo ar gyfradd briodol i leihau'r risg o halogi dŵr daear a/neu ddŵr wyneb.

Ymdreiddiad yw'r ffordd mae dŵr yn mynd i lawr a chyrraedd wyneb pridd a'r graig. Pan fydd glaw'n taro'r ddaear, gall dŵr naill ai ymdreiddio i'r pridd neu lifo ar wyneb y ddaear. Ar y cyfan, mae dŵr yn symud yn gynt wrth ymdreiddio. Y gyfradd ymdreiddio yw'r gyfradd y mae'r pridd yn amsugno dŵr. Mae'r gyfradd ymdreiddio yn cael ei mesur mewn milimedrau (mm) yr awr.

Trylifo yw'r ffordd mae dŵr yn symud i lawr trwy bridd a'r graig. Disgyrchiant a grymoedd capilari yw'r ffactorau lluosog sy'n ysgogi trylifo. Ar ôl ymdreiddio, mae dŵr yn dechrau symud i lawr drwy'r pridd a'r graig gan basio haenau gwahanol o'r ddaear. Ar y pwynt pan fydd dŵr yn mynd drwy'r wyneb gelwir hyn yn ymdreiddio. Mae trylifo'n digwydd o dan y ddaear ac yn ymwneud â symudiad dŵr am i lawr o dan y ddaear.

Isod mae'r dull a argymhellir, fel yr amlinellir yn Rhan B6.5 canllawiau Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru, ar gyfer penderfynu ar ffigwr trylifo y cae draenio posibl (Vp).

  • Dylech osgoi cynnal y prawf hwn mewn tywydd eithafol fel sychder, rhew a glaw trwm.
  • Cloddiwch o leiaf ddau dwll 300mm2 i ddyfnder o 300mm islaw lefel gwrthdro arfaethedig (gwaelod y bibell) y bibell ymdreiddio, a hynny mewn lleoliadau cyson ar hyd llinell arfaethedig y system ddyfrhau o dan yr wyneb.
  • Llenwch bob twll â dŵr i ddyfnder o 300mm o leiaf a gadael i'r dŵr dreiddio i ffwrdd dros nos.
  • Y diwrnod wedyn, ail-lenwch bob twll â dŵr i ddyfnder o 300mm o leiaf ac amserwch faint o amser (mewn eiliadau) fydd hi'n ei gymryd i'r dŵr dreiddio i ffwrdd, o 75% llawn i 25% llawn (h.y. dyfnder o 150mm).
  • Rhannwch hyn â 150. Mae'r ateb hwn yn rhoi'r amser cyfartalog mewn eiliadau (Vp) sydd ei angen i'r dŵr ostwng 1mm.
  • Dylai'r prawf gael ei gynnal o leiaf dair gwaith gydag o leiaf ddau dwll prawf. Dylid cofnodi cyfartaledd cymedrig y profion.

Dyma'r ffigwr trylifo Vp (mewn eiliadau).

  • Ceir y ffigwr cyfartalog ar gyfer trylifo (Vp) trwy adio'r holl ffigyrau a'u rhannu â nifer y ffigurau a ddefnyddiwyd.
  • Dylid ond gwaredu i gaeau draenio pan fo profion trylifo'n dangos ffigyrau cyfartalog o Vp rhwng 15 a 100 a bod yr asesiad rhagarweiniol o'r profion tyllau prawf wedi bod yn ffafriol.
  • Mae'r ffigwr gofynnol isaf o 15 yn sicrhau na all elifion heb eu trin drylifo'n rhy gyflym i ddŵr daear.
  • Lle bo'r VP yn uwch na'r terfyn o 100, mae'n annhebygol y bydd triniaeth effeithiol yn digwydd mewn cae draenio gan y bydd socian aneffeithlon yn y lleoliad hwn a allai arwain at garthion yn crynhoi ar yr wyneb.

Nodwch arwynebedd eich system ymdreiddio. Ar gyfer eiddo domestig, gellir cyfrifo'r arwynebedd cae draenio sydd ei angen (A mewn metrau sgwâr m2) drwy:

  • A = p × Vp x 0.25 ar gyfer tanciau septig
  • A = p × Vp x 0.20 ar gyfer gweithfeydd trin carthion lle mae p yw nifer y bobl a wasanaethir gan y tanc (sef y nifer fwyaf o bobl a allai fyw yn y tŷ).

Vp yw'r ffigwr trylifo a ddisgrifir uchod. Os ydych yn ansicr, siaradwch â'ch ymgynghorydd proffesiynol neu swyddog rheoli adeiladu yr awdurdod lleol i gael cyngor.

Defnyddiwch y cyfrifiadau canlynol:

  • Ar gyfer gwaith trin carthion:
    • Vp (ffigwr trylifo) × P (nifer y trigolion) × 0.20 = arwynebedd
  • Ar gyfer tanc septig:
    • Vp (ffigwr trylifo) × P (nifer y trigolion) × 0.25 = arwynebedd

Rhaid dilyn y dull a bennwyd gan CNC, ond i atgyfnerthu dealltwriaeth o'r dull a'r prosesau sy'n ymwneud â phrofi trylifo ac ymdreiddio, gellir dod o hyd i adnoddau gan gynnwys fideos sy'n rhoi cyfarwyddyd ar-lein.

Bydd, yn anffodus. Yn y lle cyntaf, gohiriwyd adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol i ailasesu a mynd i'r afael â goblygiadau dyraniadau o fewn dalgylchoedd sensitif o ran ffosffad.

Yn ddiweddar rydym wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ein hail Gynllun Datblygu Lleol diwygiedig Adneuo ac, yn unol â'r undeb Cyflawni a gadarnCythawyd gan Lywodraeth Cymru, rydym yn gobeithio ei fabwysiadu ddiwedd 2024. Yn ogystal â chanllawiau ffosffad, mae'n adlewyrchu ac yn ymateb i Adferiad Covid-19, yr Argyfyngau Hinsawdd a Natur datganedig, Mapiau Llifogydd Diwygiedig Nodyn Cyngor Technegol newydd 15, a Chymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040.

Mae rhai ardaloedd (a elwir yn safleoedd Ewropeaidd) yn cael eu diogelu gan Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 fel y'u diwygiwyd (a elwir yn Rheoliadau Cynefinoedd). Mae'r ardaloedd hyn yn cynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA).

Os cynigir datblygiad mewn ardal o'r fath, rhaid i ni gynnal asesiad o dan y Rheoliadau Cynefinoedd, a elwir yn Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, i brofi a allai'r cynnig niweidio nodweddion dynodedig y safle yn sylweddol.

Byddai'r 'asesiad priodol' yn ystyried effeithiau andwyol posibl cynllun neu brosiect (mewn cyfuniad â chynlluniau neu brosiectau eraill).

Llwythwch mwy