Gwrychoedd

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023

Mae gwrychoedd, sy’n creu rhwydwaith o gynefinoedd bywyd gwyllt llinol, yn un o nodweddion tirweddau amaethyddol Prydain. Yn Ewrop, yr unig leoedd lle mae gwrychoedd yn gyffredin yw Normandi a rhannau o Lydaw, Gogledd yr Eidal ac Awstria.

Yn ôl pob tebyg, mae gan Sir Gaerfyrddin un o’r rhwydweithiau mwyaf cymhleth o wrychoedd mewn unrhyw ran o Gymru, ac ar draws y sir mae ein perthi’n dal i gael eu cynnal a’u cadw at ddibenion amaethyddol.

Yn eu hanfod, mae gwrychoedd yn elfen o’r dirwedd a wnaed gan ddyn, ac ers cenedlaethau maen nhw wedi galluogi ffermwyr i gael gwell rheolaeth dros bori eu tir a gofalu am eu hanifeiliaid. Yn ogystal, mae’r gwrychoedd hynny sydd ar gloddiau yn aml yn rhoi cysgod i anifeiliaid. Cyn dyfodiad y weiren bigog a netin, roedd yn rhaid cynnal a chadw’r holl wrychoedd, a rhaid eu rheoli’n briodol o hyd os ydyn nhw i barhau.

Rhaid bod yn sensitif wrth reoli gwrychoedd yn llwyddiannus ar gyfer bywyd gwyllt a’r dirwedd. Tra bo plygu traddodiadol yn ystod misoedd y gaeaf yn cadw gwrychoedd mewn cyflwr da ac yn gallu rhoi bywyd newydd i hen berth a gafodd eu hesgeuluso, bydd llawer o berchnogion tir y dyddiau hyn yn defnyddio ffustiau ar dractor i gadw rhai o’u gwrychoedd mewn trefn. Os caiff y rhain eu defnyddio’n ofalus, ar adegau priodol o’r flwyddyn, ac ar y cyd â dulliau mwy traddodiadol, gallan nhw hefyd helpu i gadw gwrych mewn cyflwr da. Mae canllawiau ar gael yn Canllawiau Arferion Da Ar Gyfer Rheoli Gwrychoedd.

Rhwng 1984 a 1993 amcangyfrifir bod dros chwarter yr holl wrychoedd yng Nghymru wedi’u colli. Bu diffyg gofal - gorbori yn aml - yn gyfrifol am fwy o golledion na gwrychoedd yn cael eu tynnu’n fwriadol. Heddiw, er gwaethaf Rheoliadau Gwrychoedd 1997, a chyflwyno cynlluniau amaeth-amylchedd fferm-gyfan, mae’r colledion yn parhau am resymau tebyg. Yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Prydain cydnabyddir bod gwrychoedd hynafol a/neu wrychoedd sydd yn gyforiog o rywogaethau yn gynefinoedd blaenoriaeth o safbwynt cadwraeth.

Nod Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin yw:

  • Ceisio sicrhau nad oes rhagor o wrychoedd hynafol a gwrychoedd sydd yn gyforiog o rywogaethau yn cael eu colli.
  • Gwella cyflwr gwrychoedd fel cynefinoedd bywyd gwyllt.
  • Cynnal a chynyddu nifer y coed yn y gwrychoedd.

Mae gwrychoedd ymhlith y nodweddion hynaf o wneuthuriad dyn sydd yn britho ein tirwedd, ac mae’n bosibl fod rhai ohonynt yn hen ffiniau hefyd. Mae tystiolaeth archaeolegol o safleoedd ym Mhrydain yn awgrymu ei bod yn bosib fod yna wrychoedd ar gael yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid, ac efallai yn ystod yr Oes Efydd.

Cafodd y mwyafrif helaeth o wrychoedd yn Sir Gaerfyrddin eu creu mewn un o ddwy ffordd: naill ai cawson nhw eu ffurfio wrth i goetiroedd gael eu clirio i wneud lle ar gyfer tir amaethyddol wedi’i gau, neu cawson nhw eu plannu, fel arfer ar glawdd.

Wrth ysgrifennu yn Saesneg yn 1794 am gyflwr amaethyddiaeth yn Sir Frycheiniog, disgrifiodd John Clark sut orau i greu perth newydd:

“Pan fo ffens newydd yn cael ei chreu bydd pob math o brysgwydd yn cael eu tynnu i fyny gyda’u gwreiddiau unrhyw adeg rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth. Caiff y rhain eu plannu’n syth lle bwriedir creu’r berth newydd. Mae pedair troedfedd yn cael ei adael ar gyfer sylfeini’r clawdd, ac mae’r coed byw’n cael eu plannu yn y canol. Yna caiff ffos ei hagor ar ddwy ochr y clawdd a chaiff y pridd ei daflu i fyny i ffurfio’r clawdd hwn i uchder o dair troedfedd.
Os gellir cael coed byw pum troedfedd o uchder, yna bydd dwy droedfedd yn ymddangos uwchben y clawdd ar ôl ei gwblhau, ond am na ellir gwneud hyn bob tro, bydd un droedfedd uwchben y clawdd yn gwneud ffens dda ymhen fawr o dro.”

Cafodd gwrychoedd eu plannu dros gannoedd o flynyddoedd, ac yn ystod y plannu cyntaf câi eginblanhigion a oedd yn tyfu’n naturiol eu defnyddio. Mae’n debygol taw yn ystod y 19eg ganrif y gwelwyd y cynnydd mwyaf o ran gwrychoedd newydd. Roedd hyn yn bosibl oherwydd cafodd meithrinfeydd coed eu datblygu megis yn Nhŷ Mawr ger Llanybydder, a allai gyflenwi llawer iawn o blanhigion gwrych gan gynnwys drain gwynion, drain duon, a ffawydd. Yn Sir Gaerfyrddin yr adeg honno, y caeau oedd yn cael eu cau oedd y rheiny ar dir uwch, neu dir agored na chafodd ei gau o’r blaen. Gallwn weld y gwrychoedd hyn yn y dirwedd heddiw, fel arfer lle mae siâp y caeau’n hirsgwar neu’n geometrig mewn cymhariaeth â siapau mwy afreolaidd y caeau ar dir is, ac sy’n cael eu cysylltu fel arfer â chyfnod cynharach.

Gall hen fapiau, fel Mapiau Degwm, a chofnodion ystadau ddweud wrthym beth yw hanes patrymau caeau, ac o'r rhain gallwn ddweud fod y mwyafrif helaeth o dirwedd Sir Gaerfyrddin wledig heddiw yn bodoli yn 1845.

Mae mapiau hefyd yn dangos lle mae patrwm y caeau wedi newid wedyn. Ceir ffermydd yn Nyffryn Tywi lle, yn ystod ail hanner y 19eg, cafodd patrwm caeau hŷn ei ddisodli gan rywbeth mwy geometrig a threfnus, yn ôl pob tebyg er mwyn dilyn ffasiwn yr oes.

Fel arfer mae gwrychoedd Sir Gaerfyrddin yn cynnwys amrywiaeth eang o lwyni coediog. Fodd bynnag, ar ychydig o’r tir uwch, mae rhai gwrychoedd yn cynnwys tresi aur (Laburnum anagroides a L. alpinum) a braidd dim byd arall. Ymddengys fod cyflenwad helaeth o’r planhigyn hwn, sy’n anghyffredin mewn perth, ar gael ar un adeg yn y 19eg ganrif. Mae gwrychoedd tebyg i'w cael yng Ngheredigion a gogledd-ddwyrain Sir Benfro.

Tra bo llawer o’r coed llwyfen yn y sir wedi ildio i glefyd llwyfen yr Isalmaen, mae’r goeden yn dal i ffynnu mewn gwrychoedd mewn rhai rhannau o’r sir, megis ar Wastadeddau Llanelli ac mewn rhannau o Ddyffryn Tywi. Mae llwyn mewn gwrych, yn hytrach na choeden, yn rhy fach fel arfer i gynnal y chwilod sy’n trosglwyddo'r clefyd marwol trwy dyllu yn y pren. Mae’n bwysig fod gwrychoedd sy’n cynnwys llawer o lwyni llwyfen yn cael eu tocio neu eu plygu o dro i dro, er mwyn gofalu bod y rhywogaeth hon yn parhau yn y sir. Y llwyfen lydanddail sy’n darparu bwyd i’r brithribin gwyn, iâr fach yr haf anodd dod o hyd iddi, sydd ar gael o hyd mewn rhannau o’r sir.

Ledled Sir Gaerfyrddin mae gwrychoedd yn darparu cynefin cyfoethog ac amrywiol i fywyd gwyllt. Maen nhw’n cynnig lloches, cyflenwad o fwyd, a llwybr y gall bywyd gwyllt ei ddefnyddio wrth deithio rhwng gwahanol gynefinoedd. Os edrychwn yn ofalus ar wrych gallwn weld ei fod mewn gwirionedd yn darparu ar gyfer bywyd gwyllt mewn sawl ffordd.

Gwrychoedd ac adar

Mae Ymddiriedolaeth Adareg Prydain wedi gwneud gwaith ymchwil sy’n dangos fod gwrychoedd yn arbennig o bwysig i rai o’n hadar fferm, gan gynnwys y nico, y llwydfron a’r llinos werdd, tra bo rhywogaethau eraill yn cael eu cysylltu'n amlach â choetiroedd.

Ymddengys fod gwrychoedd a choetiroedd yn cynnal adar gwahanol. Bydd strwythur gwrych hefyd yn dylanwadu ar y mathau o adar sy’n cael ei gynnal ganddo – a bydd amryw fathau o wrychoedd, yn eu tro, yn cynnal amrywiaeth eang o adar.

Mae’n well gan yr aderyn du, y robin a’r dryw wrychoedd sy’n drwchus hyd eu bôn, ond mae’n well gan y dylluan fach wrychoedd â choed tal ar gyfer nythu a hela. Mae gwrychoedd yn lleoedd hela pwysig i’r gwalch glas, sydd i’w weld yn aml yn hedfan yn gyflym ac isel ar hyd ymyl gwrych.

Mae llecynnau â glaswellt hir a mwyar duon ym môn y gwrych yn cynnal poblogaethau mawr o famaliaid bychain ac yn lleoedd hela da i’r dylluan wen. Mae ffensio’r gwrychoedd, gan osod y ffens un cam o fôn y berth, yn cyflawni hyn.

Mamaliaid bychain a phryfed

Yn Sir Gaerfyrddin, mae gwrychoedd drain duon yn hollbwysig ar gyfer parhad y brithribin brown. Bydd yr iâr fach yr haf hon yn dodwy ei hwyau ar ddrain duon 3 a 4 blwydd oed yn hwyr yn yr haf. Pan fydd y dail yn agor ym mis Mai, ar y planhigyn hwn y bydd y lindys yn bwydo.

Mae llawer o famaliaid bychain yn bwydo a chysgodi mewn gwrychoedd. Maen nhw hefyd yn defnyddio gwrychoedd wrth deithio o un ardal i’r llall. Os bydd gwrychoedd yn cael eu tynnu o dirwedd, bydd llawer o’r mamaliaid bychain yn diflannu hefyd.

Mae gwrychoedd yn gyfoethog o ran pryfed ac felly maen nhw’n mannau bwydo pwysig i ystlumod.

Mae’n hanfodol bwysig nad yw gwrychoedd sy’n cynnal yr iâr fach yr haf hon yn cael eu tocio bob blwyddyn, ond, yn ddelfrydol, yn cael eu torri bob 3 neu 4 blynedd, er mwyn iddyn nhw fod yn gynefin priodol.

Mae coed mewn gwrych yn ychwanegu dimensiwn arall at y bywyd gwyllt y gall gwrych ei gynnal, gan ychwanegu nifer o fân gynefinoedd nad ydyn nhw i’w cael fel arfer mewn gwrych, megis pren marw sy’n sefyll, tyllau lle gall adar nythu ac ystlumod glwydo, rhisgl llawn-twf a all gynnal cennau, mwsoglau, rhedyn ac eiddew, yn ogystal â chanopi enfawr, sy’n bwysig i sawl math o bryfed. Mae’r coed hyn yn nodweddion tra phwysig yn y dirwedd, a dylai gwrychoedd gael eu rheoli fel bod y coed sy’n bodoli yn cael eu cadw a choed newydd yn cael cyfle i dyfu.

Y llwyni coediog a'r coed sy'n cael eu cofnodi fynychaf yng ngwrychoedd Sir Gaerfyrddin yw:

  • Draenen wen
  • Collen
  • Rhosyn gwyllt
  • Helygen
  • Celynnen
  • Draenen ddu
  • Derwen
  • Masarnen
  • Cerddinen
  • Onnen

Wrth blannu gwrychoedd newydd neu lenwi bylchau mewn hen rai, ceisiwch ddefnyddio planhigion a dyfwyd o hadau wedi’u casglu’n lleol. Defnyddiwch gymysgedd o rywogaethau sy’n debyg i'r hyn sydd mewn gwrychoedd cyfagos, oherwydd y rhain yw’r rhywogaethau sydd fwyaf tebygol o ffynnu. Gwarchodwch y gwrychoedd rhag da byw a’r ffust. Cofiwch leithgadw planhigion ifainc oherwydd bydd hyn yn eu helpu i oroesi a thyfu’n gynt.

  • Gofalwch am yr holl wrychoedd ar eich tir. Does dim rhaid rheoli pob un yr un fath ac yn ddelfrydol dylai rhai gael cyfle i dyfu’n wrychoedd llydan ac uchel.
  • Nodwch y gwrychoedd hynny a allai fod ag angen eu plygu, a cheisiwch wneud cyfran o’r gwaith hwn dros gyfnod o flynyddoedd, e.e. 10 mlynedd.
  • Cadwch y coed sy’n bodoli mewn gwrych a nodwch a diogelwch y rhai a fydd yn goed gwrych yn y dyfodol. Plannwch goed ifainc newydd lle nad oes coed o'r fath yn tyfu. Gwarchodwch a marciwch y rhain fel nad oes neb yn anghofio’u pwrpas! Bydd adar yn defnyddio’r coed hyn er mwyn canu.
  • Gall da byw wneud difrod i wrychoedd trwy bori a sathru. Mae tyfiant newydd ar ôl plygu gwrych yn agored iawn i ddifrod. Wth ffensio i warchod gwrych rhag da byw, rhowch y ffens o leiaf un cam mawr oddi wrth fôn y clawdd. Bydd hyn yn caniatáu i dyfiant prysgoediog ddatblygu ar y clawdd tra’n creu ardal o laswellt tal ar ei waelod. Mae cynefin o’r fath yn bwysig i famaliaid bychain a phryfed, ac nid yw ar gael yn aml mewn caeau sy’n cael eu pori’n llwyr.
  • Ceisiwch beidio â ffustio’ch holl wrychoedd bob blwyddyn. os oes modd, ffustiwch bob dwy neu dair blynedd. Os oes gennych lawer o ddrain duon yn eich gwrychoedd, mae’n bosib fod y brithribin brown yn defnyddio’r rhain; felly, peidiwch â ffustio o gwbl neu tociwch y gwrych bob 3 neu 4 blynedd er mwyn sicrhau cyflenwad o ddrain duon teirblwydd oed i’r iâr fach yr haf hon. Ceisiwch gyngor gan Gadwraeth Ieir Bach yr Haf.
  • Gwrychoedd a phathewod. Os oes llawer o gyll a gwyddfid yn y gwrych, cadwch lygad ar agor am bathewod – maen nhw’n bwyta eu hoff fwyd, cnau cyll, mewn ffordd benodol. Mae pathewod yn rhywogaeth warchodedig Ewropeaidd. Ceisiwch gyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Gadewch rai o’ch gwrychoedd heb eu torri tan fis Chwefror, fel y gall bywyd gwyllt fwynhau’r wledd hon. Mae’r aeron yn y gwrychoedd yn ffynhonnell fwyd bwysig i adar a mamaliaid bychain dros fisoedd y gaeaf.
  • Gofalwch am adar sy’n nythu. Osgowch wneud unrhyw waith yn ymwneud â gwrychoedd yn ystod y tymor nythu, sef Mawrth - Gorffennaf.
  • Fel arfer, bydd blychau nythu sy’n cael eu gosod mewn coed gwrych yn cael eu defnyddio’n gyflym. Clymwch y rhain i’r goeden â rhywbeth fel hen diwb olwyn-beic, yn hytrach na defnyddio hoelion.
  • Os ydych yn dymuno ailblannu darn o wrych, ceisiwch ddefnyddio planhigion o hadau wedi’u casglu’n lleol. Defnyddiwch gymysgedd o rywogaethau sy’n debyg i'r hyn sydd mewn gwrychoedd cyfagos, oherwydd y rhain yw’r rhywogaethau sydd fwyaf tebygol o ffynnu. Gwarchodwch y gwrychoedd rhag da byw a’r ffust.
  • Creu parth gwahanu 2 fedr o led ar hyd ymylon eich gwrychoedd lle na ddefnyddir gwrteithiau na llyswenwyn.

Cynllunio