Cynnal a chadw ac atgyweirio

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023

Mae gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio parhaus ar unrhyw hen eiddo yn hanfodol i sicrhau bod yr adeilad yn parhau i fod yn addas i'r diben ac i osgoi gwaith atgyweirio costus yn y dyfodol. Mae gwybodaeth helaeth ar gael ynglŷn â sut i ofalu am eich hen adeilad ar wefan Canolfan Tywi, ond mae croeso ichi gysylltu â'r Tîm Treftadaeth Adeiledig os oes gennych unrhyw faterion neu bryderon penodol.

Gwaith cynnal a chadw rheolaidd yw'r modd mwyaf cost-effeithlon i ofalu am adeilad hanesyddol a bydd yn helpu i osgoi atgyweiriadau costus yn yr hirdymor. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd clirio cwteri, trwsio teils sydd wedi llithro, cael gwared â thyfiant ac ailbaentio drysau a ffenestri pren.

Atgyweirio

  • Dylai gwaith atgyweirio gyfateb i'r lleiafswm sy'n ofynnol i warchod a sefydlogi'r adeilad er mwyn iddo barhau yn yr hirdymor ac i ddiwallu anghenion o ran ei ddefnyddio'n barhaus.
  • Cyn ichi ystyried gwneud unrhyw waith atgyweirio, mae'n bwysig dod o hyd i wraidd y broblem fel nad ydych yn trin y symptomau yn unig.
  • Efallai fod mwy nag un ffactor yn cyfrannu at y broblem nad ydynt yn amlwg ar yr olwg gyntaf, megis dŵr yn dod i mewn neu broblemau strwythurol.
  • Yn gyffredinol, bydd yn briodol defnyddio deunyddiau neu dechnegau sy'n cyfateb yn agos i'r hyn sy'n cael ei atgyweirio.
  • Mae'n bwysig defnyddio deunyddiau a dulliau sy'n cyfateb i'r gwaith gwreiddiol fel eu bod yn ymateb ac yn perfformio yn yr un modd dros amser.

Cysylltwch â'r Tîm Treftadaeth Adeiledig os nad ydych yn siŵr a oes angen caniatâd adeilad rhestredig arnoch i wneud gwaith atgyweirio.

Cyngor Ychwanegol

Fe'ch cynghorir yn gryf i geisio cyngor gan arbenigwr cymwys. Mae hyn yn helpu'r rhai anwyliadwrus i osgoi problemau, ond hefyd yn gwaredu'r risg o ail-wneud camgymeriad cynharach a allai fod yn amhriodol, achosi niwed i'r adeilad ac, o bosib, arwain at gostau ychwanegol.

Gall gwneud gwaith atgyweirio effeithio ar rywogaethau a warchodir, megis ystlumod, a dylid gofyn i ymgynghorydd ecolegol cymwys gynnal arolwg priodol.

Mae adnoddau helaeth ar gael ar-lein sydd wedi'u hanelu at addysgu perchnogion a cheidwadwyr hen adeiladau ynglŷn â sut i gynnal a chadw ac atgyweirio eu hasedau treftadaeth.

Mae Canolfan Tywi wedi creu dolenni i wefannau, fideos a chanllawiau sydd ar gael.

Yn ogystal, mae Canolfan Tywi yn cynnig ystod eang o Gyrsiau Sgiliau Adeiladu Traddodiadol sy'n galluogi perchnogion tai i ddysgu sut i gynnal a chadw ac atgyweirio eu hadeiladau eu hunain.

Nid ydym yn gallu cynnig grantiau i berchnogion Adeiladau Rhestredig i'w helpu i gynnal a chadw neu atgyweirio eu heiddo. Y cyngor felly yw neilltuo arian ar gyfer atgyweiriadau costus yn y dyfodol a gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd.

Mae'n bosibl bod rhywfaint o gyllid grant ar gael gan Cadw ar gyfer gwaith penodol ar adeiladau hanesyddol sy'n arbennig o bwysig.

Mae rendradau a morterau sy'n cynnwys sment yn anaddas i'w defnyddio ar eiddo hanesyddol gan eu bod yn atal gwlybaniaeth rhag symud a gall hyn arwain at leithder, pydredd a dadfeilio. Dylid cael gwared â'r adeiladwaith neu rendrad sment yn ofalus a rhoi morter neu rendrad calch yn ei le os oes tystiolaeth bod rendrad neu forter sment yn ddiffygiol, neu dystiolaeth o ddifrod i'r adeilad hanesyddol. Cynghorir eich bod yn cael gwared â sampl bach i asesu a fydd unrhyw ddifrod yn cael ei wneud yn ystod y broses waredu a sut y gellir lleihau neu liniaru hyn.

Mewn rhai sefyllfaoedd lle defnyddiwyd deunydd sment, gall yr adeiladwaith ymddangos fel petai mewn cyflwr da, heb unrhyw dystiolaeth amlwg o leithder, pydredd neu ddadfeilio. Fodd bynnag, gallai'r difrod fod yn digwydd y tu mewn i'r waliau solet i ben y trawstiau a linteli ffenestri a drysau. Dylai archwiliad o'r mannau sampl gynnwys edrych ar strwythurau pren yn y waliau.

Mae'n debygol y bydd angen Caniatâd Adeilad Rhestredig i ail-rendro neu blastro.

Gall yr hyn sy'n achosi lleithder fod yn gymhleth ac yn aml mae'n cael ei gamddeall. Gall y diagnosis anghywir arwain at fesurau aneffeithiol. Cyn gwneud dim, mae'n bwysig diagnosio'r broblem yn gywir a'r bobl orau i wneud hyn yw penseiri neu syrfewyr sy'n arbenigo mewn adeiladau hanesyddol.

Os yw'r diagnosis yn anghywir, gallwch wastraffu llawer o arian ar waith diangen, yn ogystal ag achosi difrod posibl i'r eiddo.

Weithiau gall fod yn anodd dod o hyd i'r hyn sy'n achosi'r broblem, oherwydd gall y lleithder ei hun fod yn bell i ffwrdd o'i ffynhonnell.

Gwahanol fathau o leithder

Mae tri phrif fath o leithder:

1. Lleithder codi

Mae lleithder lefel isel hyd at fetr o'r llawr yn dangos fod gwlybaniaeth yn cael ei hamsugno o'r ddaear.

Gall hyn ddigwydd am nifer o resymau, ond gan amlaf y rheswm yw bod lefel y ddaear y tu allan yn rhy uchel. Mewn eiddo hŷn, gall hyn gynyddu dros y blynyddoedd i'r pwynt lle mae'n dechrau achosi lleithder.

Gall draenio gwael o amgylch neu o dan yr adeilad hefyd achosi problemau lleithder a gall achosi i sylfeini'r adeilad symud.

2. Lleithder treiddiol

Gall glaw trwm iawn dreiddio i adeiladau sydd mewn cyflwr gwael, drwy fylchau ar ochrau ffenestri neu drwy graciau bach mewn rendradau sment.

Mae nifer o broblemau lleithder yn cael eu hachosi gan gwteri a pheipiau dŵr sydd mewn cyflwr gwael.

Yn wir, gall hyn fod bron yn waeth na pheidio â chael rhai o gwbl, gan fod y dŵr yn tueddu i grynhoi mewn un man mae'r gwter neu'r hopran yn gollwng.

Yn aml, gall problemau o'r fath osgoi sylw am flynyddoedd ac mae'r difrod yn gwaethygu'n raddol.

Gall gwiriadau rheolaidd osgoi problemau o'r fath, yn enwedig yn achos mannau agored i ddifrod megis peipiau dŵr a chwteri cudd.

3. Anwedd

Gall problemau lleithder hefyd gael eu hachosi gan ddiffyg awyru a phlastrau a phaentiau nad ydynt yn anadladwy y tu mewn i hen adeiladau. Yn aml, mae llwydni anwedd ar lefel isel yn cael ei gamgymryd am leithder codi.

Gall lleithder ddenu pryfed ac achosi i bren bydru

Pan fydd pren yn wlyb iawn, gall ddenu pryfed megis chwilod ac arwain at bydredd.

Pan fydd y broblem yn osgoi sylw am gyfnod hir, gall achosi difrod difrifol.

Cysylltwch â Chanolfan Tywi i gael rhagor o wybodaeth neu edrychwch ar y rhestr contractwyr/syrfewyr ar wefan Fforwm Adeiladau Traddodiadol Cymru i ddod o hyd i weithiwr proffesiynol i'ch helpu i archwilio'r broblem.

Gallwch wylio fideo sy'n rhoi cyfarwyddyd ynghylch gwlybaniaeth i berchnogion tai presennol.

Cynllunio