Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Diweddarwyd y dudalen ar: 11/04/2024

Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI)

Mae Adroddiad yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig yn ystyried effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) diwygiedig Adneuo. Mae'n cynnwys sawl gofyniad statudol mewn un ddogfen sy'n galluogi asesiad mwy tryloyw a chyfannol o oblygiadau cynaliadwyedd y cynigion a geir yn y CDLl diwygiedig.

Mae'n cynnwys yr Adroddiad Arfarnu Cynaliadwyedd (AC) a'r Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) ar y cyd, ochr yn ochr ag Asesiad o'r Effaith ar yr iaith Gymraeg (AEIG), Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, elfennau o Asesiad o'r Effaith ar Iechyd, Nodau Llesiant Lleol a Chenedlaethol, ac ystyriaethau eraill sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd, gan gynnwys Datganiad Ardal Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Ddyletswydd Adran 6 (i gynnal a gwella bioamrywiaeth, a hybu cydnerthedd ecosystemau).

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARC)

O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, mae'n ofynnol i'r cyngor asesu a yw'r CDLl diwygiedig yn debygol o gael effaith sylweddol ar integredd unrhyw Safle Ewropeaidd ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau a phrosiectau eraill. Gelwir y broses orfodol hon yn Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ac fe'i cynhelir drwy gydol y gwaith o baratoi'r CDLl diwygiedig.

Mae'r ymgynghoriad diweddaraf hwn ar Adroddiad Adendwm yr ARC yn ymateb i fater Ffosffadau, yn ogystal â sgrinio newidiadau a wnaed i'r CDLl diwygiedig ers cyhoeddi Adroddiad yr ARC.

Mae ymgynghoriadau blaenorol wedi'u cynnal ar Adroddiad Sgrinio yr ARC ac Adroddiad yr ARC, fodd bynnag, fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, rydym yn parhau i groesawu ymatebion ar yr olaf.

 

Cynllunio