Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023

Mae rhoi Caniatâd Adeilad Rhestredig yn dangos bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn fodlon ar y newidiadau yr ydych yn eu cynnig ar gyfer yr adeilad neu'r strwythur.

Fodd bynnag, bydd amodau ynghlwm wrth ganiatâd a bydd y rhain yn cynnwys y cyfnod o fewn yr hwn y mae'n rhaid i chi ddechrau'r gwaith yn ogystal ag unrhyw amodau y bydd angen i chi eu cyflawni er mwyn bodloni telerau'r caniatâd. Os ydych yn ansicr ynglŷn â thelerau'r penderfyniad, mae croeso i chi gysylltu â'r Tîm Treftadaeth Adeiledig a all roi arweiniad i chi ynghylch sut i fodloni'r amodau hyn.

Ceir amodau ynghlwm wrth bob Caniatâd Adeilad Rhestredig, ond mae'r nifer a'r cynnwys yn amrywio rhwng ceisiadau.

Amodau Safonol

Fel arfer ceir dau amod safonol: mae'r cyntaf yn ymwneud â'r amserlen o fewn yr hon y mae'n rhaid dechrau'r gwaith y rhoddwyd caniatâd ar ei gyfer; ac mae'r ail yn amlinellu'r fframwaith y mae'n rhaid i'r gwaith gael ei wneud yn unol ag ef, ac mae'n nodi rhywbeth tebyg i "Bydd y gwaith a ganiateir drwy hyn yn cael ei gyflawni yn gwbl unol â'r rhestr ganlynol o gynlluniau ac amodau:". Wedyn, rhestrir enwau'r cynlluniau, y lluniadau a'r adroddiadau a gyflwynir fel rhan o'r cais. Mae'r rhain yn ffurfio'r rhan allweddol o'r cytundeb cyfreithiol ar gyfer y caniatâd a roddir.

Amodau sy'n gofyn am ymchwiliadau pellach ac adrodd

Mae amodau ychwanegol yn benodol i achosion unigol o roi caniatâd a gallent gael eu cynnwys lle nad oedd yn bosibl rhoi digon o wybodaeth fel rhan o'r cais, e.e. ni ellid pennu cyflwr simnai hyd nes bod sgaffaldiau wedi'u gosod ar yr adeilad, na fyddai'n ddoeth i'w wneud nes bod caniatâd adeilad rhestredig wedi'i roi. Neu, os oedd angen ymchwilio ymhellach i ddeunydd, megis dadansoddiad morter, cyn i benderfyniad gael ei wneud ynghylch deunydd priodol i'w ddefnyddio wrth rendro adeilad.

Yn yr achosion uchod, mae'n debygol y bydd angen cyflwyno'r wybodaeth ychwanegol y gofynnir amdani i'r Awdurdod Cynllunio Lleol. Bydd yr amodau unigol yn nodi a oes angen rhyddhau'r amod yn ffurfiol drwy'r Porth Cynllunio, neu a oes modd darparu adroddiad neu gynnig i'r Swyddog Treftadaeth Adeiledig i'w gofnodi fel rhan o'r cais.

Amodau sy'n sicrhau arferion gorau a deunyddiau priodol

Bydd rhai amodau'n pennu gofynion penodol o ran gwneud y gwaith, os nad oedd y dulliau a'r deunyddiau hynny wedi'u diffinio'n ddigon clir yn y cais, er enghraifft, gofyniad i ddefnyddio morter calch wrth ail-rendro adeilad.

Amodau i gofnodi hanes adeilad

Weithiau pan fydd gwaith yn cael ei wneud ar adeilad neu strwythur rhestredig, bydd rhannau cudd o'r adeilad hwnnw'n cael eu datgelu cyn cael eu hail-orchuddio. Mae hyn yn arbennig o wir mewn ymchwiliadau archeolegol, ond, er enghraifft, gall cael gwared ar rendr allanol ddatgelu agoriadau ffenestri a drysau hanesyddol, a gall newidiadau i'r cynllun ddatgelu lleoedd tân cudd. Dyma gyfle da i gofnodi hanes yr adeilad hwnnw cyn i'r dystiolaeth honno gael ei gorchuddio, a gall cyflwyno cofnod ffotograffig i'r Swyddog Treftadaeth Adeiledig fod yn un o amodau'r Caniatâd Adeilad Rhestredig.

Os na fydd eich cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig yn llwyddiannus, bydd y rhesymau'n cael eu nodi yn y 'Llythyr Penderfyniad'. Os nad yw'r rhain yn glir neu os nad ydych yn cytuno â nhw yn y lle cyntaf, cysylltwch â'r Tîm Treftadaeth Adeiledig i'w trafod yn fanylach. Os byddwch yn dymuno apelio yn erbyn y penderfyniad yn y pen draw, gweler manylion ynghylch sut i wneud hyn yn y llythyr penderfyniad.

Cynllunio