Cynllunio Ecoleg
Bydd y wybodaeth isod yn helpu ymgeiswyr a datblygwyr i glustnodi'r potensial ar gyfer prosiectau a chynigion fydd yn cael effaith ar fioamrywiaeth. Yn ogystal bydd yn rhoi gwybod i swyddogion cynllunio ac ecolegwyr am lefel y wybodaeth sydd ei hangen i asesu'n ddigonol effeithiau datblygiad ar fuddiannau bioamrywiaeth.
Mae angen cyflwyno gwybodaeth ecolegol ar gyfer llawer o geisiadau cynllunio. Rhaid i bob datblygiad yng Nghymru ddarparu Budd Net i Fioamrywiaeth (NBB) a rhaid iddo sicrhau bod cyn lleied o niwed â phosibl i fywyd gwyllt a'r amgylchedd naturiol. Mae Sir Gaerfyrddin yn gartref i lawer o rywogaethau a chynefinoedd sy'n cael eu gwarchod gan ddeddfwriaeth, polisi cenedlaethol a'r Cynllun Datblygu Lleol.