Gwastraff

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023

Rydym yn gweithio tuag at gyrraedd y targedau a bennir ar lefel Ewropeaidd, Genedlaethol, a Rhanbarthol ar gyfer lleihau'r gwastraff sy'n cael ei gludo i safleoedd tirlenwi.

Yn gyffredinol mae'r polisïau yn y Cynllun Datblygu Unedol ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn seiliedig ar y fframwaith a ddarperir gan Gyfarwyddebau'r UE a chan Gyfarwyddyd Cenedlaethol a Rhanbarthol, ac maent yn hybu hierarchaeth gwaredu gwastraff, sef arbed, ailddefnyddio, ac adfer gan gludo gwastraff i safleoedd tirlenwi fel cam olaf yn unig.

Caiff y safleoedd tirlenwi presennol eu monitro'n rheolaidd er mwyn asesu'r lle sy'n weddill ar gyfer tirlenwi ac er mwyn gofalu y cydymffurfir â'r amodau cynllunio sydd ynghlwm wrth y gweithrediadau.

Cynllunio