Offeryn Asesu Model Hyfywedd Datblygu

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/04/2024

Rydym wedi gweithio ochr yn ochr â Burrows-Hutchinson Ltd, sy'n ymgynghorwyr Cynllunio a Datblygu Trefi, mewn partneriaeth â Chynghorau eraill ledled y rhanbarth, i ddatblygu ac i sefydlu'r offeryn asesu Model Hyfywedd Datblygu.

Byddwn yn codi am yr holl heriau hyfywedd mewn perthynas â cheisiadau cynllunio.

Mae'r Model Hyfywedd Datblygu wedi'i greu fel model cynhwysfawr, hawdd ei ddefnyddio, at ddiben asesu hyfywedd ariannol cynnig datblygu. Defnyddir y model hwn i helpu i wneud penderfyniadau ynghylch rhai ceisiadau cynllunio neu ddyrannu safleoedd yn y Cynllun Datblygu Lleol.

Mae'r Model Hyfywedd Datblygu yn offeryn arfarnu sy'n benodol i'r safle. Bydd pob copi o'r model a ddarperir gennym yn ymwneud â safle datblygu penodol. Fodd bynnag, gall yr un copi o'r model gael ei ailddefnyddio i asesu mwy nag un senario arfaethedig ar gyfer datblygu ar y safle penodol hwnnw.

Gallwn roi copi o'r Model Hyfywedd Datblygu i ddatblygwyr, i hyrwyddwyr safleoedd, neu i unrhyw unigolyn/sefydliad arall, at ddibenion cynnal arfarniad hyfywedd ariannol o ddatblygiad arfaethedig.

Bydd y model yn cael ei ryddhau ar sail safle penodol (h.y. caiff ei 'gloi' i'w ddefnyddio ar y safle penodol hwnnw), ar yr amod ein bod yn cael taliad o ffi safonol.

Prif ddiben yr arfarniad hyfywedd ariannol yw dangos a yw cynnig datblygu a/neu safle arfaethedig i'w ddyrannu yn debygol o fod yn "hyfyw”. Lle y gallai fod naill ai'n angenrheidiol neu'n briodol rhyddhau gwybodaeth o arfarniad hyfywedd ariannol fel tystiolaeth, er enghraifft i gefnogi dyraniad safle penodol yn CDLl y Cyngor, byddwn yn trafod â hyrwyddwr y safle i ba raddau y gellir rhyddhau gwybodaeth o'r fath.

Bydd angen talu'r ffioedd Asesu Dyrannu'r Cynllun Datblygu Lleol a hynny yn achos cyflwyniadau'r Model Hyfywedd Datblygu i gefnogi Safleoedd Dyranedig y CDLl yn unig.

Gellir defnyddio'r Model Hyfywedd Datblygu hefyd fel offeryn i ddangos hyfywedd ariannol cynnig datblygu yn ystod y cam cais cynllunio. Gweler Ffioedd Asesiadau Ceisiadau Cynllunio.

  • Safleoedd ag 1-9 uned: £245
  • Safleoedd â 10-40 uned: £395
  • Safleoedd â 41-100 uned: £545
  • Safleoedd â mwy na 100 o unedau - £945 (cytunir ar y gost â'r Cyngor gan ddibynnu ar faint a chymhlethdod y cynnig)

    Mae'r holl daliadau'n destun TAW a gall y taliadau newid
  • Safleoedd â hyd at 9 uned: £745 (neu £550 os oes arfarniad lefel uchel eisoes wedi'i gynnal)
  • Safleoedd â 10-40 uned: £1,245 (neu £900 os oes arfarniad lefel uchel wedi'i gynnal)
  • Safleoedd â 41 uned neu fwy: darperir y gost ar gytundeb gan ddibynnu ar faint neu gymhlethdod

Mae'r holl daliadau'n destun TAW a gall y taliadau newid.

Mae'r ffioedd safonol sy'n berthnasol yn cynnwys ein hamser gweinyddol sydd ei angen i bersonoli ac i gyhoeddi'r model ar gyfer y safle penodol, yn ogystal ag amser swyddogion i gynnal adolygiad lefel uchel o'r arfarniad hyfywedd arianno a gyflwynwyd.

Efallai y bydd ffioedd ychwanegol yn berthnasol os bydd angen rhagor o amser swyddogion o ganlyniad i'r hyrwyddwr safle yn cynnal trafodaethau pellach â'r Cyngor sy'n ymwneud â'r arfarniad a gyflwynwyd, a/neu os bydd y dystiolaeth ategol a gyflwynwyd yn annigonol.

Bydd yr adolygiad lefel uchel y byddwn yn ei gynnal o gyflwyniad Model Hyfywedd Datblygu wedi'i gwblhau yn gwirio priodoldeb y wybodaeth a ddarperir gan hyrwyddwr y safle fel rhan o'r arfarniad. Bydd y broses hon hefyd yn sicrhau bod y celloedd yn nhaenlenni'r Model Hyfywedd Datblygu wedi'u cwblhau'n briodol.
Bydd yr adolygiad yn ystyried:

  1. a yw'r dystiolaeth a ddarparwyd i gefnogi'r costau a'r gwerthoedd a ddefnyddir yn yr arfarniad hyfywedd ariannol a gyflwynwyd yn ddigonol ac yn gymesur;
  2. a yw'r amserlen arfaethedig ar gyfer y datblygiad yn realistig; ac
  3. a yw'r arfarniad hyfywedd ariannol yn cyd-fynd â gofynion polisi'r Cyngor a chanllawiau a/neu ddatganiadau polisi eraill sy'n berthnasol i asesu Hyfywedd mewn cyd-destun Cynllunio.

Ar ôl cwblhau'r adolygiad lefel uchel, byddwn yn cyhoeddi datganiad syml i hyrwyddwr y safle i nodi i ba raddau y mae'n ystyried bod yr arfarniad hyfywedd ariannol a gyflwynwyd yn bodloni'r profion a amlinellir uchod.

Os bydd angen i chi gynnal Arfarniad Hyfywedd Datblygu ar gyfer eich datblygiad, dylech gysylltu â'r swyddog cynllunio perthnasol a fydd yn delio â'ch cais cynllunio neu ddyraniad y CDLl, danfonwch ebost i planninghwb@carmarthenshire.gov.uk . Bydd y swyddog yn rhoi manylion i chi ynghylch sut i dalu a'r prosesau o ran cyhoeddi'r model ar eich cyfer.

Rydym yn cydnabod y gallai hyrwyddwr y safle ystyried bod rhywfaint o'r wybodaeth sydd ei hangen i ddangos hyfywedd yn fasnachol sensitif. Fodd bynnag, fel y nodir yng Nghanllaw CDLl Llywodraeth Cymru, nid yw'r mater hwn o sensitifrwydd yn rheswm digonol i osgoi darparu'r dystiolaeth briodol (Canllaw CDLl, para. 5.96). Ni fydd pob arfarniad hyfywedd ariannol a gyflwynir ar gael i'r cyhoedd, a chaiff ei drin yn gyfrinachol rhwng y Cyngor a'r unigolyn neu'r sefydliad sydd wedi'i gyflwyno.

Mae pob copi o'r Model Hyfywedd Datblygu hefyd yn cynnwys 'Canllaw Cyflym', ar gyfer y rhai sy'n cynnal asesiad o safle datblygu preswyl o ddim mwy na 5 neu 6 erw. Cynghorir defnyddwyr hefyd fod 'Nodiadau Cymorth' yn rhan o'r model, yn y taflenni gwaith eu hunain, sy'n atgoffa'r defnyddiwr beth i'w wneud ar bob dalen.

Bydd rhai datblygwyr wedi buddsoddi mewn modelau hyfywedd amgen, a gellir eu defnyddio cyhyd â'u bod yn fodelau cydnabyddedig (Circle, Argus ac ati). Fodd bynnag, bydd y ffioedd uchod yn dal i fod yn daladwy.

Os na ddefnyddir model o gwbl – bydd y ffi priswyr o leiaf 50% yn fwy na'r uchod.  Os nad yw'r wybodaeth a ddarperir yn hawdd ei darllen, neu os nad yw'n cyfieithu'n uniongyrchol i lenwi model Burrows Hutchinson yn hawdd, bydd ein priswyr yn cadw'r hawl i godi tâl sy'n fwy, neu wrthod y cyflwyniad.

Llwythwch mwy

Cynllunio