Coed

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/04/2024

O dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Cyngor Sir Caerfyrddin, sef yr awdurdod cynllunio lleol, sydd yn gyfrifol am warchod coed yn y Sir. Mae coed ymhlith ein hadnoddau naturiol mwyaf pwysig, ac maent yn cyfoethogi’r amgylchedd trefol a gwledig. Yn ogystal â’u gwerth o ran harddu ein broydd yn weledol, mae coed yn hidlo sŵn, golau, a llwch, ac mae iddynt rôl gwbl hanfodol yn y system ecolegol.

Rydym yn diogelu coed drwy wneud Gorchmynion Gwarchod Coed. Diben Gorchymyn Gwarchod Coed yw diogelu coed sydd o arwyddocâd mawr yn eu cyffiniau, er enghraifft, os ydynt yn esiampl dda o’u rhywogaeth neu’n nodwedd bwysig yn y dirwedd leol. Mae awdurdod cynllunio lleol yn gallu gwneud Gorchymyn Gwarchod Coed o ran coeden benodol, o ran clwstwr o goed, neu o ran coetir sydd yn cynnwys coed perth ond nid o ran perthi, prysglwyni neu lwyni. Mae’r cyhoedd yn gallu cyflwyno cais ffurfiol am i Orchymyn Gwarchod Coed gael ei wneud.

Os gwneir Gorchymyn Gwarchod Coed, mae’n drosedd os byddwch chi’n cwympo, torri brig, tocio, dadwreiddio, difrodi yn fwriadol neu ddinistrio yn fwriadol goeden heb gael ein ganiatâd. Mae modd i unrhyw un awgrymu i ni bod Gorchymyn Gwarchod Coed yn cael ei gyflwyno ar gyfer coeden. Wedyn byddwn yn penderfynu a yw'r goeden o ddigon o bwys gweledol i'r cyhoedd yn gyffredinol fel y dylid cyflwyno Gorchymyn Gwarchod Coed.

Os ydym yn bwriadu cyflwyno Gorchymyn Gwarchod Coed ar gyfer coeden sydd ar eich tir, rhoddir gwybod i chi'n ysgrifenedig a bydd gennych hawl i wrthwynebu cyflwyno'r Gorchymyn Gwarchod Coed.

Hyd yn oed ar ôl cyflwyno Gorchymyn Gwarchod Coed, y perchennog sy'n gyfrifol am y goeden o hyd, yn hytrach na ni. Fodd bynnag, os bydd rhywun am docio unrhyw ran o'r goeden neu ei chwympo, fel arfer bydd angen iddynt gael caniatâd ysgrifenedig gennym yn gyntaf. Gall y llysoedd roi dirwyon llym neu hyd yn oed garcharu rhywun os gwneir gwaith heb ganiatâd ar goeden y cyflwynwyd Gorchymyn Gwarchod Coed ar ei chyfer.

Cael golwg ar fap o Ardaloedd Cadwraeth a Gorchmynion Gwarchod Coed presennol

Mae coed mewn ardaloedd cadwraeth yn cael eu diogelu hefyd, ac mae cyfyngiadau o ran beth y gellir ei wneud i goed yn yr ardaloedd hyn hyd yn oed os nad yw’r coed yn destun Gorchymyn Gwarchod Coed. Mae angen hysbysiad ynghylch gwaith ar goed y mae gan eu boncyffion ddiamedr sy’n fwy na 75mm pan gânt eu mesur 1.5 metr uwchlaw lefel y ddaear (neu ddiamedr sy’n fwy na 100mm os ydych yn lleihau nifer y coed er budd tyfiant coed eraill).

Rhaid i chi roi chwe wythnos o rybudd cyn cyflawni gwaith ar unrhyw goed mewn ardal gadwraeth. Mae hynny’n rhoi cyfle i ni ystyried a ddylai gorchymyn gael ei wneud i warchod y coed. Yn unol â'r ddeddfwriaeth, mae'n drosedd i gwympo coeden neu ei thocio, ei difrigo, ei diwreiddio, ei dinistrio'n fwriadol neu ei difrodi'n fwriadol mewn Ardal Gadwraeth heb hysbysu'r Cyngor yn ysgrifenedig cyn hynny. Mae'r cosbau am fethu â rhoi gwybod i ni yn debyg i'r rhai ar gyfer cyflawni trosedd o dan Orchymyn Gwarchod Coed.

Gallwch wneud cais am ganiatâd i wneud gwaith ar goed o dan Gorchymyn Gwarchod Coed neu mewn ardal gadwraeth ar-lein. Nid oes tâl am y cais.

CYFLWYNO CAIS AM WNEUD GWAITH AR GOED

Er ein budd ni ac er budd cenedlaethau’r dyfodol rydym yn ceisio sicrhau y bydd coed yn parhau i harddu ein haneddiadau a’n cefn gwlad, ac i gael eu gwerthfawrogi a’u diogelu fel adnodd.

Mae’r ddogfen strategaeth hon wedi’i bwriadu i fod yn ganllaw i aelodau etholedig, cyflogeion y Cyngor, busnesau, y cyhoedd a phob sefydliad/parti â budd ar sut y gallant ddisgwyl i goed ar dir dan berchnogaeth y Cyngor Sir gael eu rheoli, a sut y gellid ymdrin â materion sy’n ymwneud â choed ar dir preifat.

Lawrlwytho y Strategaeth Rheoli Coed (.pdf)

Cyfrifoldeb y tirfeddiannwr neu'r tenant yw’r holl goed ar dir dan berchnogaeth breifat. O dan Ddeddf Atebolrwydd Meddianwyr 1957 a 1984, a Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 mae gan dirfeddianwyr ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau nad yw'r coed ar eu tir yn peri risg annerbyniol i bobl ac eiddo. Yn ymarferol mae hyn yn golygu os yw coeden neu gangen yn disgyn ac yn achosi niwed neu ddifrod i berson neu eiddo, gallai perchennog y goeden neu'r tirfeddiannwr gael ei erlyn.

Archwiliadau Coed

Awgrymir eich bod yn archwilio coed ar eich tir neu ar dir yr ydych yn ei feddiannu o leiaf unwaith y flwyddyn ac yn union ar ôl tywydd garw (storm). Diben archwiliadau yw penderfynu a allai coden achosi niwed yn y dyfodol oherwydd ei maint neu ei chyflwr.
Gallai'r arwyddion canlynol helpu i adnabod coed peryglus:-

  • Gallai cyrff hadol ffwngaidd ar waelod coeden neu ar foncyff coeden fod yn arwydd o bydredd
  • Craciau yn y pridd a gwthiad pridd ar waelod coeden
  • Gallai plygiadau amlwg o ganlyniad i ddocio yn y gorffennol fod yn arwydd o wendid
  • Fforchau neu ganghennau sy'n uno mewn siâp 'V' tynn neu wan
  • Canghennau wedi'u torri
  • Pydru'n achosi gwendid
  • Rhisgl rhydd
  • Gwreiddiau wedi'u difrodi
  • Mae ceudodau yn y canghennau/boncyff/gwaelod y goeden yn debygol o fod yn arwydd o bydredd
  • Clefyd coed ynn ar y corun
  • Dail bach, gwasgaredig neu olau
  • Dail yn tyfu'n hwyr neu'n disgyn yn gynnar

Nid oes unrhyw gyfarwyddyd clir a diamwys gan y llysoedd ynghylch y wybodaeth y disgwylir i dirfeddianwyr ei chael am goed na pha mor aml y dylid cynnal archwiliadau. Yn dilyn achosion diweddar, mae'r llysoedd yn nodi bod safon archwiliadau yn gymesur â maint y tir a'r adnoddau sydd ar gael o ran arbenigedd. Os nad oes gan y tirfeddiannwr wybodaeth ddigonol am goed i'w alluogi i nodi diffygion amlwg, dylai geisio cyfarwyddyd gan dyfwr coed addas a chymwys neu weithiwr proffesiynol addas a chymwys arall. Dylid cadw cofnod ysgrifenedig o'r holl gyngor neu gamau gweithredu a gymerwyd mewn perthynas â choed, a hynny at ddibenion yswiriant.

Rhagor o wybodaeth

Gellir gweld cyngor ar goed a'r gyfraith a sut i ddod o hyd i weithiwr coed proffesiynol â chymwysterau addas ar wefan y Gymdeithas Goedyddiaeth. Gellir lawrlwytho taflen o'r enw Guide to Trees and the Law yma.

Gwaith adfer

Fe'ch cynghorir yn gryf i gymryd camau rhesymol i archwilio coed a gwneud gwaith adfer priodol. Drwy gymryd camau gweithredu bydd gennych sylfaen i ddangos nad ydych wedi methu â chyflawni eich dyletswydd gofal. Os yw coeden yn disgyn ac yn achosi niwed i drydydd parti, mae'n bwysig eich bod yn gallu dangos bod gennych broses archwilio rhagweithiol a rheolaidd ar waith.

Cyn gwneud gwaith ar goed, fe'ch cynghorir i gysylltu a ni i sicrhau nad yw'r coed yn destun Gorchymyn Cadw Coed neu wedi'u lleoli mewn Ardal Gadwraeth a ddynodir o dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref. Os oes angen cwympo nifer fawr o goed bydd angen ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru gan ei fod yn bosibl y bydd angen trwydded cwympo coed o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967. Mae coed mewn gerddi, mynwentydd a llecynnau cyhoeddus agored wedi'u heithrio o ddeddfwriaeth y Ddeddf Coedwigaeth.

Gallai tirfeddianwyr sy'n methu â gwneud gwaith adfer i atal risg o achosi niwed neu ddifrod i bobl neu eiddo gael cyfarwyddyd i wneud y gwaith naill ai drwy orchymyn llys neu lle bo coed ger priffordd gyhoeddus. Gellir cyflwyno hysbysiad o ni o dan Ddeddf Priffyrdd 1980. Mae gennym hefyd bwerau disgresiwn i gyflwyno hysbysiad i dirfeddiannwr gan ddefnyddio Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

Yswiriant

Dylai perchnogion coed gysylltu â'u cwmnïau yswiriant i wneud yn siŵr fod ganddynt yswiriant digonol sy'n briodol ar gyfer eu coed, eu tir a'u defnydd.

Rhagor o wybodaeth

Gellir gweld cyngor ar goed a'r gyfraith a sut i ddod o hyd i weithiwr coed proffesiynol â chymwysterau addas ar wefan y Gymdeithas Goedyddiaeth. Gellir lawrlwytho taflen o'r enw Guide to Trees and the Law yma.

Coed Peryglus yn Tyfu ar Dir Preifat: Atebolrwydd y Perchennog

O dan Ddeddf Atebolrwydd Meddianwyr 1957 a 1984, a Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 mae gan dirfeddianwyr ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau nad yw'r coed ar eu tir yn peri risg annerbyniol i bobl ac eiddo.

Rydym yn cael cwynion yn achlysurol yn ymwneud â choed yn tyfu ar dir preifat a’r unig le y gwelir effaith y coed yw ar dir neu eiddo sydd y tu allan i berchnogaeth ni. Mae'r sefyllfaoedd hyn yn faterion sifil preifat rhwng perchennog y coed a'r achwynydd. Nid oes dyletswydd arnom i archwilio'r coed neu ymyrryd mewn unrhyw ffordd.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976

Mae Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 yn rhoi pwerau disgresiwn i ni mewn perthynas â choed peryglus ar dir preifat. Mae'r pwerau hyn yn opsiwn pan fetho popeth arall neu i'w defnyddio mewn argyfwng. Byddwn yn ystyried defnyddio'r pwerau hyn os yw'r coed yn peri risg sylweddol o achosi niwed ac mae'r achwynydd wedi rhoi cynnig ar bob opsiwn rhesymol i ddatrys y materion â pherchennog y coed cyn cysylltu â'r Awdurdod. Mae hyn yn golygu y disgwylir i achwynwyr ddangos eu bod wedi gwneud y canlynol:

  1. Cynnal trafodaethau/galwadau ffôn anffurfiol â pherchennog y coed.
  2. Ysgrifennu at berchennog y coed gan cyflenwi'r wybodaeth a ddarperir ar y dudalen hon iddynt mewn perthynas â choed ar dir preifat sy'n gysylltiedig â Deddf Atebolrwydd Meddianwyr 1957 a 1984.
  3. Anfon llythyr cyfreithiwr at berchennog y coed yn amlinellu ei gyfrifoldeb o ran dyletswydd gofal.
  4. Rhoi gwybod i gwmnïau yswiriant am eu pryderon.

Gallwn, o dan amgylchiadau eithriadol, ddewis cymryd camau gweithredu heb i'r camau uchod gael eu cyflawni. Disgwylir i'r sefyllfaoedd hyn fod yn brin iawn, ac ym mhob achos, mae'n rhaid i ni fod yn fodlon bod rheswm dilys pam nad yw'r achwynydd yn gallu cydymffurfio â'r gofynion uchod.

Mae'n annhebygol y byddwn yn defnyddio'r pwerau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, a hynny er mwyn arbed costau i'r achwynydd neu os yw'r risg sy'n gysylltiedig â choed yn ymwneud ag achosi difrod i eiddo. Mae'n annhebygol hefyd y bydden yn cymryd camau gweithredu os gallai'r risg o anaf gael ei leihau'n rhesymol gan gamau gweithredu'r achwynydd.

Rhagor o wybodaeth

Gellir gweld cyngor ar goed a'r gyfraith a sut i ddod o hyd i weithiwr coed proffesiynol â chymwysterau addas ar wefan y Gymdeithas Goedyddiaeth. Gellir lawrlwytho taflen o'r enw Guide to Trees and the Law yma.

Byddwn yn cymryd camau gweithredu dim ond pan fo coed yn peri risg sylweddol o achosi niwed a phan fo ni o'r farn fod materion hollbwysig yn golygu y byddai'n afresymol disgwyl i'r achwynydd ddatrys materion ei hun.

Ym mhob sefyllfa arall (sef ym mwyafrif yr achosion), cynghorir yr achwynydd i gael ei gyngor cyfreithiol annibynnol ei hun a chael adroddiad ynghylch y coed gan unigolyn â chymwysterau addas. Yr achwynydd fyddai'n penderfynu sut y mae'n dymuno bwrw ymlaen ar ôl cael cyngor.

Rhagor o wybodaeth

Gellir gweld cyngor ar goed a'r gyfraith a sut i ddod o hyd i weithiwr coed proffesiynol â chymwysterau addas ar wefan y Gymdeithas Goedyddiaeth. Gellir lawrlwytho taflen o'r enw Guide to Trees and the Law yma.

Cynllunio