Ardaloedd Cadwraeth

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/04/2024

Mae Ardaloedd Cadwraeth yn rhannau o dref neu bentref sydd 'o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig' sy'n ymwneud ag adeiladau a nodweddion nodedig ardal. Gallai nodweddion o'r fath gynnwys golygfeydd arwyddocaol, cynllun stryd hanesyddol, adeiladau arbennig neu dystiolaeth o ddefnydd hanesyddol o ardaloedd. Mae'r elfennau hyn gyda'i gilydd yn creu amgylchedd hanesyddol nodedig. Mae seilwaith gwyrdd megis parciau, gerddi, perthi, coed a nodweddion dŵr hefyd yn bwysig mewn ardal gadwraeth ac yn cyfrannu at ei chymeriad.

Rhoddir rheolaethau cynllunio ychwanegol ar Ardaloedd Cadwraeth i helpu i warchod neu wella eu cymeriad a diogelu eu lleoliadau.

Mae gan Sir Gaerfyrddin 27 o ardaloedd cadwraeth sydd wedi'u dynodi am eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

A'r canlynol yng Nghaerfyrddin:-

 

Mae angen Caniatâd Cynllunio ar gyfer y canlynol:

  • dymchwel unrhyw adeilad neu ffiniau penodol o fewn ardal gadwraeth
  • newid strwythur/ffin yn sylweddol neu adeiladu strwythur/ffin newydd - mae angen Asesiad o'r Effaith ar Dreftadaeth yn yr achos hwn hefyd.
  • codi'r grib/ehangu maint to neu osod ffenestr ddormer.
  • gosod golau to.
  • rhoi cladin ar y waliau – yn y rhan fwyaf o achosion, oni bai eich bod yn trwsio neu'n adnewyddu arwyneb presennol
  • gosod soseri lloeren - ar ochr sy'n wynebu priffordd, ar simnai, ac ar adeilad dros 15 metr o uchder.
  • dymchwel simnai.
  • gosod, newid neu amnewid simnai, ffliw, pibell garthion neu bibell awyru ar wal neu do ar brif ochr neu ochr sy'n wynebu priffordd.
  • adeiladu estyniadau cefn, ochr a dau lawr.
  • adeiladu adeiladau atodol ar wahân, siediau gardd neu storfeydd i ochr y breswylfa.
  • gwneud gwaith arwyneb a gwaith tir.

Bydd angen Caniatâd Ardal Gadwraeth arnoch yn ogystal â chaniatâd cynllunio ar gyfer y canlynol:

  • dymchwel unrhyw adeilad neu ffiniau penodol o fewn ardal gadwraeth

Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch i wneud y canlynol:

  • gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio
  • adnewyddu neu amnewid gorchudd to.
  • gosod paneli haul – yn amodol ar rai amodau.
  • adeiladu estyniadau cefn unllawr wedi'u hadeiladu mewn deunyddiau o ymddangosiad tebyg i'r rhai a ddefnyddir ar y tŷ presennol – yn amodol ar feini prawf eraill mewn perthynas ag uchder ac ymddangosiad y cefn.

Rheoliadau cynllunio ychwanegol mewn Ardaloedd Cadwraeth

Mewn rhai ardaloedd cadwraeth, gall rheoliadau cynllunio ychwanegol fod yn berthnasol. Gelwir y rhain yn Gyfarwyddiadau Erthygl 4 ac maent yn dileu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer rhai addasiadau a newidiadau defnydd. Mae hyn yn golygu bod angen caniatâd cynllunio pan fo Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar waith. I gael gwybod a oes Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar waith mewn ardal gadwraeth benodol, gweler y tab isod.

Gwaith i goed

Mae'r holl goed mewn Ardaloedd Cadwraeth yn cael eu diogelu, yn y bôn maent yn cael yr un lefel o warchodaeth â choeden sydd â Gorchymyn Cadw Coed. Os ydych yn ystyried unrhyw waith i goed mewn Ardal Gadwraeth, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaethhttps://www.carmarthenshire.gov.wales/home/council-services/planning/conservation-countryside/trees/.

Mae Porth Cynllunio Llywodraeth Cymru yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol.

Os nad ydych yn siŵr a oes angen caniatâd cynllunio neu ganiatâd ardal gadwraeth arnoch ar gyfer newid yr ydych yn ei ystyried, cysylltwch â'r Tîm Treftadaeth Adeiledig drwy e-bostio ymgynghoriadaubh@sirgar.gov.uk

 

Diben dynodi Ardal Gadwraeth yw rhoi mesur ychwanegol o reolaeth i'r Cyngor ar ardal y mae'n barnu sydd o werth arbennig yn hanesyddol neu'n bensaernïol.

Nid yw hyn yn golygu na ellir cynnig datblygiadau, nac y bydd gwaith ar eich eiddo yn cael ei wrthod fel mater o drefn. Serch hynny, mae'n golygu y bydd y Cyngor yn rhoi sylw i effaith eich cynigion ar yr ardal dan sylw, yn ogystal â'u hasesiad arferol.

Os ydych yn byw mewn ardal gadwraeth, bydd arnoch angen caniatâd ardal gadwraeth i wneud y canlynol:

  • Dymchwel adeilad sydd â chyfaint o fwy na 115 o fetrau ciwbig. Mae yna ychydig o eithriadau – gallwch gael mwy o wybodaeth gan y cyngor perthnasol.
  • Dymchwel gât, ffens, wal neu reilin sy’n fwy nag un metr o uchder nesaf at briffordd (gan gynnwys llwybr troed cyhoeddus neu lwybr ceffylau) neu fan agored cyhoeddus; neu fwy na dau fetr o uchder mewn mannau eraill
  • Mae yna rai eithriadau rhag y gofyniad cyffredinol i geisio caniatâd ardal gadwraeth i ddymchwel adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth.

Gwnewch gais am ganiatâd cynllunio mewn ardal gadwraeth    GWNEUD CAIS AM DDYMCHWEL MEWN ARDAL GADWRAETH

 

 

Defnyddir cyfarwyddydau a awdurdodir gan Erthygl 4 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 i ddileu rhai hawliau datblygu a ganiateir.

Mae rheolaethau tynnach ar waith o ran lefelau datblygu a ganiateir mewn ardaloedd cadwraeth o'u cymharu â mannau eraill, ond, mewn llawer o achosion, efallai na fydd hyd yn oed reolaethau o'r fath yn ddigonol i ddiogelu cymeriad arbennig yr ardal dan sylw, ac atal erydiad cynyddrannol ei chymeriad a'i golwg arbennig, yn enwedig lle mae nifer sylweddol o adeiladau heb eu rhestru yn cael eu defnyddio at ddefnydd preswyl.

Gall nifer o newidiadau bach, gyda'i gilydd – megis gosod deunyddiau modern priodol yn lle teils gwreiddiol y to, gosod ffenestri uPVC neu alwminiwm yn lle'r rhai traddodiadol, a dymchwel perthi neu waliau terfyn blaen i ddarparu parcio oddi ar y stryd – leihau ar gymeriad ‘arbennig’ yr ardal dan sylw.

Ar hyn o bryd, mae pedwar Cyfarwyddydau Erthygl 4 wedi'u cyhoeddi mewn tair ardal gadwraeth, sef:

  • Cwmdu
  • Talacharn / Aber Taf
  • Llanymddyfri
  • Llangadog

Cynllunio