Pryfed Peillio

Diweddarwyd y dudalen ar: 06/12/2023

Yn y DU, pryfed peillio planhigion yw’r pryfed sy’n mynd â phaill o un planhigyn i’r llall, gan ei gwneud yn bosibl i ffrwythloni ddigwydd a hynny’n arwain at dwf planhigion newydd. Maent yn hanfodol ar gyfer twf parhaus planhigion yn y gwyllt.

Mae pryfed peillio’n hanfodol ar gyfer cynnal ein hecosystemau, trwy beillio’r planhigion gwyllt sy’n sail i’r rhan fwyaf o gynefinoedd a hefyd trwy eu rôl allweddol bwysig o ran cynhyrchu llawer o gnydau, gan gyfrannu at economi’r DU. Mae pryfed peillio o werth cynhenid yn eu rhinwedd eu hunain fel rhan o’n treftadaeth naturiol, ac mae rhai rhywogaethau, megis gwenyn a gloÿnnod byw, yn cael eu gwerthfawrogi’n eang gan y cyhoedd.

  • Wrth chwilota bydd gwenyn mêl yn casglu paill a neithdar o 2000 o flodau'r dydd!
  • Yn Sir Gaerfyrddin cynhyrchwyd 45 tunnell o fêl gan wenyn mêl yn 2017!
  • Fodd bynnag, mae’r pryfed pwysig hyn dan fygythiad o ganlyniad i bwysau lluosog gan gynnwys colli cynefinoedd, ffermio dwys, plaladdwyr a chlefydau.

Mae’r Cyngor eisoes wedi ystyried pryfed peillio mewn rhai meysydd y mae’n gweithio ynddynt ac wedi ceisio cymryd camau gweithredu cadarnhaol.

  • Mae'r Adran Priffyrdd yn rheoli cyfres o ymylon ffyrdd fel ymylon 'i'w torri'n hwyr', gan adael i flodau fwrw hadau cyn cael eu torri.
  • Mae'r gwaith a wnaed gyda'r Ymddiriedolaeth Gwarchod Cacwn a phreswylwyr lleol ym Mharc Dŵr y Sandy yn Llanelli wedi gwella'r llecynnau gwyrdd lleol ar gyfer pryfed peillio.
  • Mae cymysgiadau o hadau paill wedi cael eu cyflwyno mewn ardaloedd o laswelltir o amgylch safleoedd tai, ac mae'r rhain wedi bod yn boblogaidd iawn gyda thrigolion lleol
  • Mae rheolwyr y Gwarchodfeydd Natur Lleol yn ceisio rheoli ardaloedd ar gyfer pryfed peillio. Rheoli cynefin tir llwyd sy'n gyforiog o rywogaethau ym Morfa Brewig sy'n cynnal ystod eang o bryfed peillio gan gynnwys y gardwenynen lwydfrown brin.

Mae ein pryfed peillio brodorol yn cynnwys gwenyn meirch a gwenyn eraill, gloÿnnod byw a gwyfynod, pryfed hofran, chwilod a chacwn. Credir bod dros 1500 o rywogaethau pryfed yn y DU yn peillio ein planhigion gwyllt brodorol a’n cnydau bwyd. Heb bryfed peillio byddem yn ei chael yn anodd tyfu llawer o gnydau llysiau a ffrwythau masnachol gan gynnwys afalau, gellyg, mefus, ffa a phys, rêp had olew).

Y Wenynen Fêl Ewropeaidd yw’r prif bryf peillio sydd ar gael ar gyfer cnydau caeau ac awyr agored. Yn Sir Gaerfyrddin mae oddeutu 674 o wenynfeydd sy’n cynnwys tua 3774 o gychod gwynyn. Yn seiliedig ar gyfradd cynhyrchu mêl cyfartalog y cwch yn 2017 o 12kg/cwch byddai hyn yn cyfateb i gynhyrchu tua 45.3 o dunelli o fêl (gwybodaeth gan yr Arolygydd Gwenyn rhanbarthol). Yn 2011 cynhyrchwyd 427 o dunelli o fêl yng Nghymru – sy’n werth tua £2 filiwn. (Gwefan Llywodraeth Cymru ac adroddiad Arolygydd Gwenyn Cymru 2017).

Mae pryfed peillio hefyd yn ein helpu yn yr ardd a’r rhandir, gan helpu i roi inni’r llysiau a blodau gardd yr ydym yn eu mwynhau. Mae gerddi bellach yn cynnwys mwy o flodau na’r rhan fwyaf o dir amaethyddol ac, yn Sir Gaerfyrddin, mae gennym lawer o erddi. I lawer o bryfed peillio gall gerddi fod o gymorth mawr i boblogaethau lleol.

Mae peillio gan bryfed, trwy helpu planhigion i atgynhyrchu hefyd yn cefnogi rhwydwaith mwy cymhleth o fywyd anifeiliaid a phlanhigion. Felly mae peillio’n broses bwysig i gynnal ecosystemau iach a bioamrywiol.

Mae hanner y 24 rhywogaeth gwenyn meirch sydd ar ôl yn y DU yn dirywio – mae tair rhywogaeth arall eisoes wedi diflannu.

Mae ymchwil yn dynodi bod dirywiad o 23% wedi bod mewn gwenyn mêl yng Nghymru rhwng 1985 a 2005.

Roedd yr Adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru yn 2016 yn dangos bod 60% o rywogaethau gloÿnnod byw wedi dirywio dros y tymor hir (~1970–2013).
(Ymddiriedolaeth Gwarchod Gwenyn; Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio; Adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru, 2016). Mae llawer o resymau posibl dros y newidiadau hyn yr arsylwyd arnynt. Nid yw’n ymddangos bod un ffactor unigol yn gyfrifol am y newidiadau, ond bod llawer o ffactorau’n cyfuno i greu effaith fwy ar y cyfan. Fodd bynnag, mae rhai effeithiau sy’n fwy amlwg na’i gilydd.

Colli cynefinoedd, eu diraddiad a’u darniad – achos mwyaf arwyddocaol y dirywiad yw colli cynefinoedd sy’n darparu bwyd, cysgod a safleoedd nythu ar gyfer pryfed peillio. Gellir priodoli’r colledion i ffermio mwy dwys, rheolaeth amhriodol ar gynefinoedd posibl, a datblygu trefol/diwydiannol. Roedd astudiaeth a gyhoeddwyd yn Nature yn 2016 yn dangos bod colli blodau gwyllt ym Mhrydain yn cyd-daro â’r dirywiad mewn pryfed peillio.

Plaladdwyr – ceir tystiolaeth gynyddol bod defnyddio plaladdwyr yn cael effeithiau niweidiol ar bryfed peillio gan gynnwys gwenyn mêl, gwenyn gwyllt a gloÿnnod byw.

Newid yn yr Hinsawdd – gall newidiadau hirdymor amddifadu pryfed peillio o gyflenwadau bwyd ar adegau pan fo’u hangen arnynt, eu gwneud yn fwy agored i barasitiaid a chlefydau, neu newid cynefinoedd fel nad ydynt yn addas mwyach. Yn y ffordd hon mae’r newid yn yr hinsawdd yn fygythiad i gydnerthedd ecosystemau.

Bwyd ar ffurf paill a neithdar y chwilotwyd amdanynt mewn amrywiaeth o rywogaethau planhigion blodeuo, sydd ar gael rhwng dechrau’r gwanwyn a diwedd yr hydref o nifer o gynefinoedd, e.e. dolydd, perthi, ymylon ffyrdd, ymylon coetiroedd, perllannau a gerddi. Gall llawer o blanhigion a choed ddarparu’r adnoddau bwyd hyn, gan gynnwys llawer o ‘chwyn’ fel y’u gelwir megis dant y llew a llygad y dydd. Yn ogystal â blodau, mae ar lawer o bryfed peillio angen adnoddau bwyd eraill i gefnogi’r gwahanol gyfnodau yn eu bywydau – er enghraifft mae ar lindys gloÿnnod byw a gwyfynod angen planhigion arbennig i fyw arnynt.

Strwythur llystyfiant amrywiol, e.e. perthi, prysgwydd a gwair hir i gael cysgod, lle i nythu a threulio’r gaeaf ynddo. Gall llystyfiant trwchus megis glaswelltir tuswog, prysgwydd, coed aeddfed, a phentyrrau o bren a cherrig ddarparu cynefin hanfodol ar gyfer pryfed peillio sy’n gaeafgysgu. Mae llawer o rywogaethau’n gaeafgysgu fel oedolion gan gynnwys mamwenyn meirch, a rhai gloÿnnod byw a phryfed hofran, eraill fel wyau, larfau neu bwpaod. Caiff hen dwyni a llystyfiant trwchus eu defnyddio gan wenyn meirch, gyda llethrau heulog a thir sych yn cael eu defnyddio gan wenyn meirch sy’n nythu ar y llawr megis gwenyn turio.

Er mwyn gwrthdroi’r dirywiad yma, dylem amcanu at wneud y canlynol:

  • cynyddu amrywiaeth adnoddau sy’n gyforiog o flodau, h.y. rheoli ardaloedd ffurfiol ac anffurfiol fel bod ystod o rywogaethau addas sy’n denu pryfed peillio ar gael;
  • cynyddu helaethdra adnoddau bwyd, h.y. cynyddu’r arwynebedd tir sydd ar gael i bryfed peillio’i ddefnyddio; ac
  • estyn argaeledd adnoddau sy’n gyforiog o flodau trwy gydol cylch oes pryfed peillio; gwneud yn siŵr bod planhigion addas ar gael o’r gwanwyn tan yr hydref.

Cynllunio