Addasiadau i Adeiladau Rhestredig

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023

Mae adeiladau rhestredig yn datblygu'n gyson, gan fod pob degawd a phob canrif yn cyfrannu at hanes yr ased treftadaeth. Ni fwriedir i'r broses Caniatâd Adeilad Rhestredig rwystro cynnydd, ond sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni mewn modd sensitif a phriodol sy'n cadw ac yn gwella'r hyn sy'n gwneud yr ased treftadaeth mor bwysig yn hanesyddol. Mae angen caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer yr holl waith dymchwel, addasu neu estyn ar adeilad rhestredig sy'n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

Fel arfer mae ffenestri a drysau hanesyddol yn bwysig iawn i gymeriad adeilad rhestredig ac yn cyfrannu at ei bwysigrwydd drwy ddyluniad, deunyddiau a chrefftwaith. Felly mae cadw gwaith saer hanesyddol sy'n cyfrannu at y pwysigrwydd hwn yn cael ei annog.

Fel arfer, y drysau a ffenestri ar flaen yr adeilad yn benodol yw'r rhai pwysicaf a dylid ond gosod rhai newydd fel opsiwn olaf oll. Mae'n bosibl bod modd cadw ac adfer gwaith coed sy'n ymddangos i fod yn bwdr i'r llygad cyffredinol. Yn aml iawn mae modd trwsio drysau, yn benodol, ac fel arfer mae ffenestri'n cynnwys darnau mawr o bren cadarn y gall crefftwr medrus eu trwsio drwy ailddefnyddio gwydr hanesyddol.

Gall gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweiriadau rheolaidd ar ffenestri a drysau hanesyddol olygu bod modd osgoi atgyweiriadau mawr neu osod rhai newydd. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth ystyried faint o ddeunyddiau o ansawdd da sydd ar gael i'w defnyddio i atgyweirio ffenestri a drysau. Yn hanesyddol, câi pren ei dyfu'n araf ac felly mae'n tueddu i fod yn fwy cadarn na phren modern - felly mae'n bosibl mai cadw cymaint o ddeunyddiau hanesyddol â phosibl a'u gwarchod rhag y tywydd fydd yr opsiwn rhataf i chi yn y tymor hir.

Yn gyffredinol ni fydd angen caniatâd ar gyfer gwaith cynnal a chadw sylfaenol, megis ailaddurno ac atgyweirio, ond mae'n debygol y bydd angen Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith heblaw am waith cynnal a chadw cyffredinol.

Bydd angen caniatâd hefyd ar gyfer newidiadau i nodweddion drysau os bydd deunyddiau hanesyddol yn cael eu gwaredu, er enghraifft os gwneir twll i greu blwch llythyrau. Ni fydd angen caniatâd ar gyfer ailosod nodweddion drysau ar sail tebyg am debyg, oni bai bod yr hyn sy'n cael ei waredu yn nodwedd hanesyddol bwysig.

Ni fyddai angen caniatâd fel arfer ar gyfer ailaddurno waliau mewnol; ond pe byddai unrhyw waith addurno'n cynnwys newid ymddangosiad deunyddiau neu nodweddion hanesyddol, megis trawstiau pren, cornisiau plastr neu loriau hanesyddol, byddai angen caniatâd fel arfer. Byddai'n werth sicrhau bod unrhyw waliau sydd wedi'u plastro â chalch yn cael eu paentio â gwyngalch neu baent anadladwy i sicrhau bod y waliau'n parhau i fod yn 'anadladwy' ac na fydd lleithder neu lwydni.

Fel arfer, bydd angen Caniatâd Adeilad Rhestredig i addurno tŷ yn allanol os bydd yn effeithio ar gymeriad adeilad rhestredig. Er enghraifft, bydd newid lliw wyneb allanol y tŷ yn newid cymeriad yr adeilad. Fodd bynnag, os gwneir unrhyw waith addurno allanol ar sail tebyg am debyg, ni fydd angen caniatâd am hyn yn gyffredinol. Fel gwaith addurno mewnol, mae'n bwysig bod y paent neu'r gorffeniad allanol a ddefnyddir yn briodol ar gyfer adeiladau hanesyddol. Bydd paentiau â sylfaen blastig yn effeithio ar anadladwyedd adeilad hanesyddol a gallent achosi problemau lleithder.

Mae paentio'n cyfrannu at ymddangosiad gweledol adeilad o ran lliw a phroffil. Ni fydd angen Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith ailbwyntio mewn mannau, sy'n debyg o ran deunyddiau a phroffil, ond bydd angen caniatâd ar gyfer ailbwyntio darnau mawr ar adeilad.

Bwriad ailbwyntio yw bod yn elfen aberthol o adeilad, sy'n caniatáu i leithder a halen ddod allan o wal, yn hytrach na gorfodi'r lleithder allan drwy'r brics neu'r cerrig. Felly mae'n bwysig bod y cymysgedd morter yn wannach na'r deunyddiau adeiladu. Mewn adeilad hanesyddol, anaml y bydd morterau â sylfaen sment yn briodol a dylid gosod morter calch yn lle'r rhain wrth wneud gwaith ailbwyntio.

Os ydych yn gwneud unrhyw waith ailbwyntio, bydd angen cynnal dadansoddiad o'r morterau hanesyddol sydd ar ôl, i'ch llywio o ran cyfansoddiad y morter newydd. Bydd hyn yn sicrhau bod gennych liw da ar gyfer eich morter newydd.

Gellir ailweirio mewn Adeilad Rhestredig heb ganiatâd, ar yr amod na fydd angen unrhyw linellau neu dyllau newydd ar gyfer y weiars newydd. Os bydd ailweirio'n cynnwys gwaredu neu newid unrhyw ddeunyddiau hanesyddol a/neu osod llinellau newydd, bydd angen Caniatâd Adeilad Rhestredig gan fod potensial o achosi difrod i ddeunyddiau a chymeriad yr adeilad rhestredig.

Mae hi bron yn sicr y bydd angen Caniatâd Adeilad Rhestredig er mwyn ail-doi, hyd yn oed wrth ailddefnyddio'r llechi neu'r teils presennol. Mae hyn oherwydd ei bod yn debygol y bydd angen teils newydd i gymryd lle'r rheiny sy'n cael eu torri yn ystod y broses - 25% fel arfer.

Os ydych am ddiweddaru cegin bresennol drwy osod unedau modern newydd, neu os ydych am osod ffitiadau newydd mewn ystafell ymolchi, ni fydd angen Caniatâd Adeilad Rhestredig fel arfer. Os bydd cegin neu ystafell ymolchi newydd yn cynnwys gwaredu unrhyw nodweddion/deunyddiau hanesyddol, ychwanegu pibellau newydd, unrhyw waith strwythurol, neu os yw cegin neu ystafell ymolchi'n cael eu symud o fewn tŷ, mae'n debygol y bydd angen Caniatâd Adeilad Rhestredig.

Dylai unrhyw nodweddion hanesyddol pwysig sydd yno, megis ffyrnau bara, ffyrnau haearn bwrw, lloriau cerrig neu drawstiau pren hanesyddol, gael eu cadw lle y bo'n bosibl, a dylid lleoli unrhyw bibellau neu offer newydd yn ofalus i osgoi difrodi deunyddiau hanesyddol pwysig.

Mae angen ystyried yn ofalus cyn ychwanegu estyniad at adeilad rhestredig. Yn y lle cyntaf, mae'n bwysig meddu ar ddealltwriaeth o gymeriad penodol yr adeilad, sut y mae wedi datblygu dros amser a sut y mae'n cyd-fynd â'i leoliad.

Ni ddylai unrhyw estyniad newydd fod yn flaenllaw iawn ar yr adeilad rhestredig ac felly dylai fod yn llai o ran maint ac uchder. Yn gyffredinol bydd estyniad yn y cefn yn cael effaith lai ar adeilad hanesyddol gan nad oes modd ei weld o flaen yr adeilad, ond mae'n bosibl y bydd estyniad ar yr ochr yn gweithio'n dda hefyd. Anaml y rhoddir caniatâd ar gyfer estyniadau ar flaen Adeilad Rhestredig, gan mai'r wyneb blaen yw rhan bwysicaf a mwyaf gweladwy yr adeilad yn gyffredinol.

Bydd angen ystyried dyluniad, arddull a deunydd estyniad newydd yn ofalus er mwyn sicrhau eu bod yn sensitif ac yn gydnaws o ran cymeriad yr adeilad rhestredig.

Rhoddir cydnabyddiaeth gynyddol i'r angen i wella effeithlonrwydd thermol adeiladau, ond er bod modd gwella effeithlonrwydd ynni adeiladau hŷn, mae'n annhebygol y byddant byth yn perfformio cystal ag adeiladau modern.

Lle bo mesurau effeithlonrwydd ynni'n cael eu cyflawni'n gywir, mae yna gyfle go iawn i gael effaith gadarnhaol ar yr adeilad, ar yr amod y cydymffurfir â dwy egwyddor allweddol:

  • bod y deunyddiau a ddefnyddir yn briodol i'r adeilad, ac yn y rhan fwyaf o achosion, eu bod yn caniatáu i anwedd dŵr dreiddio trwyddynt
  • bod systemau awyru priodol yn cael eu cynnal.

Fodd bynnag, mae'n hanfodol sicrhau na fydd cymeriad hanesyddol yr adeilad rhestredig wedi'i beryglu, a bydd unrhyw fesurau effeithlonrwydd ynni a gynigir sy'n amharu ar bwysigrwydd yr adeilad yn annhebygol o gael Caniatâd Adeilad Rhestredig.

Mae'n debygol y byddai mesurau megis inswleiddio'r atig, uwchraddio'r system wresogi a mesurau atal drafft yn dderbyniol, ond ni fyddai caniatâd yn cael ei roi ar gyfer cael gwared â ffenestri hanesyddol a gosod unedau gwydr dwbl newydd.

Mae gwella effeithlonrwydd ynni mewn adeilad hanesyddol yn faes astudio ac ymarfer cymhleth. Fe'ch cynghorir i gysylltu â'r Tîm Treftadaeth Adeiledig gyda'ch cynigion a'ch cwestiynau a byddant yn gallu eich cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth a chymorth mwy penodol.

Cynllunio