Canllaw Cais Cynllunio

Cwblhau Datblygiad

Diwedd y broses

Nid yw’r datblygiad wedi ei gwblhau’n ffurfiol hyd nes y byddwch wedi cwblhau’r canlynol:

  • A yw eich amodau wedi cael eu rhyddhau a'r datblygiad wedi cael ei gwblhau yn unol â'r wybodaeth a gymeradwywyd?
  • A ydych wedi cydymffurfio ag unrhyw gytundeb cyfreithiol o dan gytundeb Adran 106, e.e. cyfraniadau tai fforddiadwy.
  • A yw'r holl gymeradwyaethau angenrheidiol o dan y Rheoliadau Adeiladu wedi cael eu rhoi?

Yn aml, mae un cam o'r broses heb gael ei gwblhau gan ymgeiswyr a gall y datblygiad aros heb ei awdurdodi/yn anghyflawn am beth amser wedyn. Yn aml mae hyn yn dod i’r amlwg ar yr adeg pan fo perchnogion tai yn bwriadu gwerthu eu heiddo ac mae gwiriadau Cyfreithwyr yn canfod amodau na chafodd eu bodloni, neu absenoldeb Cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu.

Yn ôl y gyfraith, mae unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn dod i ben ar ôl cyfnod penodol a nodir yn yr hysbysiad o benderfyniad. Yn gyffredinol, os nad yw eich caniatâd yn dweud yn wahanol, mae gennych bum mlynedd o'r dyddiad y rhoddir caniatâd i ddechrau'r datblygiad. Os nad ydych wedi dechrau gweithio erbyn hynny, bydd y caniatâd yn dod i ben a bydd angen i chi ailymgeisio.