Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/02/2024

Caiff proses Caniatâd Adeilad Rhestredig ei rheoli drwy adran gynllunio Sir Gaerfyrddin. Y Swyddog Rheoli Datblygu ar gyfer yr ardal lle lleolir y strwythur rhestredig fydd y swyddog achos ar gyfer y cais Adeilad Rhestredig, ond bydd yn ymgynghori â'r Swyddog Treftadaeth Adeiledig fel rhan o'r broses o adolygu'r cais.

Bydd y Swyddog Treftadaeth Adeiledig yn adolygu deunydd y cais ac mae'n bosibl y bydd yn ymweld â'r safle. Yn y pen draw, bydd yn gwneud penderfyniad ynghylch argymell cymeradwyo'r cais ai peidio. Bydd yr argymhelliad yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau a fydd yn cynnwys priodoldeb y cynnig a'r fframweithiau polisi cenedlaethol a lleol. Mae'r polisïau perthnasol yn cynnwys Polisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 10), Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 24 a Strategaethau Datblygu Lleol (LDS 13).

Cyn i chi wneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig efallai y byddwch hefyd yn elwa o fynychu cwrs Canolfan Tywi ‘Caniatâd Adeilad Rhestredig: canllaw cam wrth gam i wneud newidiadau i’ch cartref hanesyddol’

Yn ogystal â bod yn gasgliad parod o adeiladau sy'n bwysig, mae rhestru'n ychwanegu lefel o warchodaeth. Mae hyn ar ffurf gweithdrefn gynllunio arbennig a elwir yn ganiatâd adeilad rhestredig. Cyn i adeilad rhestredig allu cael ei addasu, ei estyn neu ei ddymchwel, mae'n debygol y bydd angen cael caniatâd adeilad rhestredig. Mae addasu, estyn neu ddymchwel adeilad rhestredig mewn unrhyw fodd a fyddai'n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, heb ganiatâd adeilad rhestredig, yn drosedd.

Mae angen caniatâd ar gyfer gwaith ar bob rhan o'r adeilad, yn fewnol ac yn allanol, waeth beth fo'i radd a ph'un a yw'r nodwedd wedi'i nodi yn y disgrifiad swyddogol ar y rhestr. Efallai ei fod yn berthnasol hefyd i adeiladau cysylltiedig sydd o fewn cwrtil y prif adeilad.

Fel arfer ni fydd angen caniatâd ar gyfer gwaith atgyweirio neu gynnal a chadw cyffredinol, ond fe'ch cynghorir i gysylltu â'r tîm treftadaeth adeiledig i drafod eich cynigion.

Mae Caniatâd Adeilad Rhestredig yn ymwneud yn unig â gwneud addasiadau i adeilad rhestredig. Mae'n bosibl y bydd angen caniatâd cynllunio a chymeradwyaeth rheoliadau adeiladu arnoch hefyd ar gyfer rhai mathau o waith, er enghraifft lle bydd y gwaith yn effeithio ar ymddangosiad allanol yr adeilad; mae defnydd yr adeilad yn myned i gael ei newid; neu mae'r strwythur newydd yn agos i'r adeilad. Dylid gwneud cais amdanynt ar yr un pryd.

Mae caniatâd adeilad rhestredig yn ychwanegol i ganiatâd cynllunio a chymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ac ar wahân iddynt. Ni fydd cymeradwyo caniatâd cynllunio yn golygu y bydd caniatâd adeilad rhestredig yn cael ei roi o reidrwydd. Os oes angen caniatâd arall, dylech gyflwyno'r ceisiadau ar yr un pryd.

I gael gwybod a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich prosiect, cysylltwch â'r Swyddog Rheoli Datblygu yn eich ardal.

Gwneir ceisiadau i'r awdurdod cynllunio lleol priodol y mae'r adeilad yn ei ardal. Gellir gweld y ffurflen gais drwy'r Porth Cynllunio. Bydd yr awdurdod yn archwilio'r achos yn erbyn canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru (gweler y polisïau perthnasol ar wefan Cadw) ac yng ngoleuni ei bolisïau lleol ar gyfer gwarchod yr amgylchedd hanesyddol. Ym mhob achos, bydd rhagdybiaeth o blaid cadw cymaint â phosibl o ffabrig hanesyddol adeilad. Bydd y cais yn cael ei gyhoeddi'n lleol gan yr awdurdod lleol, ac, yn achos gwaith dymchwel (a allai gynnwys dymchwel yn rhannol), rhoddir gwybod i gyrff amwynder cenedlaethol.

Yn Sir Gaerfyrddin bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn penderfynu ar geisiadau ar gyfer adeiladau Gradd II. Ni fydd angen anfon y penderfyniad i argymell cymeradwyaeth ynghylch Gradd II i Lywodraeth Cymru ei adolygu.

Bydd adeiladau Gradd II* a Gradd I yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu hasesu gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol, ond bydd pob cais yn ymwneud â'r graddau hyn yr argymhellir eu bod yn cael eu cymeradwyo yn cael eu hanfon ymlaen i Lywodraeth Cymru er mwyn eu hadolygu. Os nad yw'n hapus â'r penderfyniad, mae gan y Llywodraeth gyfle i 'alw mewn' y cais am graffu ymhellach.

Os gwrthodir caniatâd, mae'n bosibl cyflwyno apêl.

Gellir gwneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig am ddim; ond os oes angen caniatâd ychwanegol arnoch hefyd (megis Caniatâd Cynllunio), bydd ffi ar gyfer y rhan hon o'r cais.

Gallwch weld manylion ynghylch gwahanol gostau am geisiadau cynllunio ar ein gwefan.

Fel arfer bydd Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer adeilad rhestredig Gradd II yn cymryd hyd at wyth wythnos o adeg cofrestru'r cais fel cais cyflawn, i wneud penderfyniad terfynol yn ei gylch. Bydd Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer strwythurau ac adeiladau Gradd II* a Gradd I fel arfer yn cymryd mwy o amser gan y bydd Cadw yn rhan o'r broses gymeradwyo.

Fodd bynnag, gall ceisiadau gymryd mwy o amser gan ei bod yn bosibl y bydd angen i'r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth ychwanegol yn ystod y cyfnod adolygu er mwyn galluogi'r Awdurdod Cynllunio Lleol i wneud y penderfyniad gwybodus gorau.

Mae dechrau ar waith y mae angen caniatâd ar ei gyfer, cyn gwneud penderfyniad yn ei gylch, yn drosedd.

Weithiau gallai'r Awdurdod Cynllunio Lleol roi Caniatâd Adeilad Rhestredig, ond gan atodi amodau lle bydd angen gwybodaeth ychwanegol arno neu ragor o fanylion cyn i'r gwaith ddechrau ar yr eiddo. Bydd rhestr o'r amodau hyn yn cael ei chynnwys yn yr hysbysiad penderfyniadau. Bydd angen i chi ryddhau pob un o'r amodau hyn cyn i'r gwaith ddechrau, a fydd yn gofyn am gais ychwanegol.

Lle mae ansicrwydd ynghylch yr angen am ganiatâd, fe'ch cynghorir i gysylltu â'r Tîm Treftadaeth Adeiledig cyn paratoi cynllunio manwl er mwyn osgoi unrhyw gostau diangen. Yn ogystal, efallai y bydd yn briodol cyflogi neu ymgynghori â phensaer, syrfëwr neu asiant cynllunio â phrofiad cadwraeth.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar-lein a lawrlwytho ffurflenni cais ar ein gwe-dudalen Cyflwyno cais cynllunio.

Mae angen i'ch cais fod yn gyflawn ac yn llawn gwybodaeth er mwyn cael ei ystyried mewn modd effeithiol a phrydlon gan yr awdurdod cynllunio lleol. Dylech roi'r wybodaeth berthnasol a digonol i'r awdurdod cynllunio lleol i alluogi'r gwaith o asesu effaith debygol y cynigion ar ddiddordeb pensaernïol a/neu hanesyddol arbennig yr adeilad rhestredig ac ar ei leoliad.

Mae Cadw wedi cynhyrchu cyfres o gyhoeddiadau i'ch helpu i ddeall a gofalu am adeiladau hanesyddol ac mae'r rhain ar gael ar ei wefan. Yn fwy penodol, mae'r ddogfen o'r enw 'Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig' yn rhoi gwybodaeth i'ch cynorthwyo i wneud cais. Yn yr atodiad Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig, ceir rhestr wirio o ddogfennau ategol y bydd angen i chi eu cynnwys fel rhan o gais am ganiatâd adeilad rhestredig. Mae'r rhestr wirio hon wedi'i hatgynhyrchu isod. Ni fydd angen yr holl ddogfennau ym mhob achos; i'r gwrthwyneb, efallai y bydd angen dogfennau ategol ychwanegol weithiau, megis asesiad archeolegol; arolygon strwythurol; atodlen waith; neu adroddiadau ynghylch cyflwr y ffenestri. Dylai dogfennau a gyflwynir gyda'r cais fod yn berthnasol i'r gwaith arfaethedig; er enghraifft, mae'n annhebygol y bydd angen i chi gyflwyno cynlluniau llawr ar gyfer addasiadau i'r ffenestri.

Dylech wirio bob amser gyda'ch awdurdod cynllunio lleol i sefydlu a oes angen gwybodaeth ychwanegol arno.

  • Ffurflen Gais. Ffurflen gais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig wedi'i chwblhau.
  • Tystysgrif Berchenogaeth. Mae angen atodi tystysgrif gyda'ch cais sy'n nodi mai chi yw'r perchennog, neu eich bod wedi rhoi hysbysiad i'r perchennog
  • Datganiad o'r Effaith ar Dreftadaeth. Dylai eich datganiad o'r effaith ar dreftadaeth grynhoi'r gwaith arfaethedig ac esbonio'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni, pwysigrwydd yr ased ac agweddau ar ei werth yr effeithir arnynt fwyaf. Dylai asesu effaith y cynnig, gan gynnwys buddion posibl yn ogystal â niwed. Dylai'r asesiad fod yn gymesur â'r cynigion a'u heffaith debygol.
  • Map Lleoliad. Ar raddfa 1:1,250 neu 1:2,500. Dylid amlinellu'r adeiladau yr effeithir arnynt yn goch a thir cyfagos sydd â'r un perchennog yn las.
  • Cynlluniau. Ar lefel pob llawr, ar raddfa 1:50 (1:100 ar gyfer adeiladau mawr). Dylai lluniadau ar wahân ddangos y sefyllfa bresennol a'r sefyllfa arfaethedig. Dylai cynlluniau digidol gyfeirio at faint y papur.
  • Gweddluniau a Rhannau. Mae'n rhaid dangos addasiadau allanol ar weddluniau presennol a gweddluniau arfaethedig, ac addasiadau mewnol ar rannau tebyg, ar yr un raddfa â'r cynlluniau.
  • Manylion. Ar gyfer gwaith sy'n effeithio ar nodweddion mwy o faint; er enghraifft, drysau, ffenestri, rheiliau a grisiau, lluniadau ar raddfa 1:10 ac 1:20. Ar gyfer manylion bach a mwy addurnol; er enghraifft, mowldinau cerrig, barrau pren ar y ffenestri, manylion plastr a gwaith metel cywrain, lluniadau ar raddfa 1:2 neu 1:1.
  • Ffotograffau. Mae'n rhaid cynnwys lluniau â dyddiadau o ymddangosiad presennol y rhannau hynny o'r adeilad a'r lleoliad yr effeithir arno. Gellir defnyddio ffotogyfosodiadau sy'n dangos effaith weledol y newidiadau arfaethedig ar gyfer mân waith; er enghraifft, gosod goleuadau, erialau, larymau neu newidiadau i ben blaen ac arwyddion siopau. Dylid dangos lleoliad ehangach yr adeilad rhestredig ar ffotograffau pellach i ffwrdd.
  • Ecoleg. Lle bo'n briodol, mae'n rhaid cynnwys datganiad ynghylch y cyfyngiadau ecolegol a gafodd eu hystyried. Dylid atodi canlyniadau arolygon ecolegol ac argymhellion i'r cais.
  • Adroddiadau Arbenigol. Fel y gofynnir amdanynt gan yr awdurdod cynllunio lleol.
  • Datganiad Dylunio a Mynediad. Efallai y bydd angen datganiad dylunio a mynediad i ategu ceisiadau cynllunio. Mae rhagor o arweiniad ar gael yn Natganiadau Dylunio a Mynediad yng Nghymru.

O dan reoliadau newydd a ddaeth i rym ar 1 Medi 2017, mae'n ofynnol cael datganiad o'r effaith ar dreftadaeth i ategu ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig ac am ganiatâd ardaloedd cadwraeth.

Dylai eich datganiad o'r effaith ar dreftadaeth gyflawni'r canlynol:

  • Disgrifio pwysigrwydd y rhan o'ch adeilad rhestredig yr effeithir arni.
  • Esbonio'r gwaith arfaethedig, gan gyfeirio at unrhyw ffotograffau, cynlluniau a darluniadau a atodir, yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud a pham mae'r gwaith yn ddymunol neu'n angenrheidiol.
  • Asesu effaith y gwaith arfaethedig.
  • Dangos sut a pham y dewiswyd y dyluniad a ffefrir ar gyfer yr addasiadau neu'r estyniadau, gan gynnwys unrhyw fesurau i leihau niwed.
  • Cynnwys datganiad mynediad mewn perthynas ag unrhyw waith sy'n effeithio ar y trefniadau mynediad i unrhyw ran o'ch adeilad rhestredig nad yw'n cael ei defnyddio fel preswylfa breifat, neu'r tu mewn iddi.
  • Bod yn gymesur â'r cynigion a'u heffaith debygol; er enghraifft, bydd angen rhoi ystyriaeth fwy manwl i gynllun adfer mawr nag i gais i baentio adeilad sydd heb gael ei baentio o'r blaen.

Er mwyn llunio Datganiad o'r Effaith ar Dreftadaeth, mae'n debygol y bydd angen i chi gynnal asesiad llawn o'r ased treftadaeth yr ydych yn cynnig ei addasu, a gellir lawrlwytho arweiniad ynghylch llunio Datganiad o'r Effaith ar Dreftadaeth ar wefan Cadw.

Mae deall pwysigrwydd adeilad yn gysylltiedig â deall elfennau'r adeilad hwnnw sy'n bwysig yn hanesyddol ac sy'n deilwng sylw a gwarchodaeth.

Mae'r arweiniad i asesu pwysigrwydd y gellir ei lawrlwytho isod yn dangos ystod yr elfennau sy'n gallu cyfrannu at greu darlun o bwysigrwydd hanesyddol strwythur rhestredig. Asesu pwysigrwydd yw'r rhan gyntaf o Asesiad o'r Effaith Hanesyddol: heb wybod pa rannau o adeilad a'i leoliad yw'r pwysicaf yn hanesyddol, mae'n anodd iawn gwybod am oblygiadau unrhyw waith arfaethedig ar adeilad.

Ni fydd yr holl strwythurau neu adeiladau'n cynnwys yr holl werthoedd a nodweddion yn yr arweiniad isod, ond dylid ystyried pob un a dylai'r Asesiad o'r Effaith Hanesyddol gofnodi'r canlyniadau.

Yn ôl Egwyddorion Cadwraeth Cadw, disgwylir i Awdurdodau Cynllunio Lleol wneud penderfyniadau ynghylch newidiadau drwy ddefnyddio arbenigedd, profiad a sgiliau barnu mewn proses gyson a thryloyw, o dan arweiniad y gyfraith a'r polisïau.

Yn ymarferol, golyga hyn y byddant yn ystyried pwysigrwydd yr adeilad hanesyddol y mae caniatâd yn cael ei geisio ar ei gyfer, ac yn barnu effaith y newidiadau hynny ar yr adeilad. Byddant yn gwneud eu penderfyniadau yng ngoleuni polisïau a chanllawiau cenedlaethol a lleol. Wrth asesu cais bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn sicrhau bod ganddo ddigon o wybodaeth gennych fel ymgeisydd er mwyn gwneud penderfyniadau cwbl wybodus.

Bydd ymgynghori â'r cyhoedd hefyd yn llywio ac yn cyfiawnhau'r penderfyniadau a wnânt.

Disgwylir i awdurdodau cyhoeddus roi ystyriaeth ddyledus i werthoedd treftadaeth safle wrth ystyried priodoldeb y cynigion sy'n cael eu cyflwyno iddynt.

Cynllunio