Cyswllt cynllunio priffyrdd

Diweddarwyd y dudalen ar: 22/04/2024

Bydd y tîm cyswllt cynllunio priffyrdd yn:

  • Cynorthwyo ag ymholiadau cyn cynllunio statudol a gyflwynir drwy'r adran Cynllunio ni.
  • Lle bo'n briodol, rhoi cyngor ac argymhellion i'r Awdurdod Cynllunio Lleol fel ymgynghorai statudol ar oblygiadau cynigion datblygu o ran priffyrdd a thrafnidiaeth.
  • Lle bo'n briodol, darparu ymatebion i ymgynghoriadau cyn ymgeisio (PAC).

Ni fydd y tîm cynllunio priffyrdd yn gallu cynorthwyo o ran y canlynol:

  • Darparu gwasanaeth dylunio
  • Gwneud y penderfyniad terfynol ar geisiadau cynllunio. Gwneir hyn gan y tîm cynllunio
  • Delio â mabwysiadu ffyrdd
  • Delio â chwiliadau priffyrdd

Gallwch gysylltu â'r tîm trwy e-bostio: CyswlltCynllunioPriffyrdd@sirgar.gov.uk.

Lluniwyd y Canllaw Dylunio Priffyrdd gyda'r bwriad o nodi ei ddisgwyliadau o ran datblygiadau newydd yn y sir. Mae'n rhoi arweiniad i ddatblygwyr ac ymgeiswyr ar baratoi cynigion trafnidiaeth a darparu seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth i gefnogi datblygiadau newydd. Mae hefyd yn nodi'r gofynion cysylltiedig yn ystod y cynllunio a'r adeiladu.

Mae'r Canllaw Dylunio Priffyrdd yn darparu gwybodaeth gyson ac yn cyflymu'r broses ymgeisio. Fel y nodwyd uchod, ni all y tîm cyswllt cynllunio priffyrdd roi mewnbwn uniongyrchol ynghylch dylunio, felly argymhellir bod ymgeiswyr a/neu'u hasiantau yn cyfeirio at y ddogfen hon ar y cyfle cyntaf i lywio eu cynigion.

Mae'r ddogfen hon i gynorthwyo:

  • Datblygwyr
  • Ymgeiswyr
  • Rhanddeiliaid

Bydd yn eich galluogi i ddeall a chymhwyso pob agwedd ar y canlynol:

  • Effeithiau posibl ar briffyrdd
  • Dylunio priffyrdd
  • Cymhwyso canllawiau polisi lleol a chenedlaethol priodol

Bydd y canllaw dylunio yn rhoi eglurder ynghylch y canlynol:

  • Lleiniau gwelededd
  • Lleoedd parcio
  • Garejis
  • Un pwynt mynediad
  • Un pwynt mynediad a chilfan
  • Mynediad amaethyddol
  • Ffurfio mynedfa
  • Trofyrddau cerbydau
  • Cynllunio ystad breswyl

Anfonwch unrhyw ymholiadau mewn perthynas â chynllun datblygiadau drwy e-bost i HwbCynllunio@sirgar.gov.uk.

Canllaw Dylunio Priffyrdd (.PDF)

Isod, ceir rhai enghreifftiau o'r ystyriaethau y bydd y tîm cyswllt cynllunio priffyrdd yn eu gwneud wrth asesu cynigion datblygu:

  • Effaith y cynnig ar ddiogelwch priffyrdd
  • Cydymffurfiaeth â'r canllaw dylunio priffyrdd
  • Cydymffurfiaeth â safonau a pholisïau lleol a chenedlaethol
  • Capasiti'r rhwydwaith priffyrdd ehangach nawr ac yn y dyfodol
  • Cydymffurfiaeth â'r Ddeddf Teithio Llesol
  • Hygyrchedd y safle gan ddefnyddio pob math o drafnidiaeth
  • Parcio ar gyfer cerbydau di-fodur a cherbydau modur
  • Mesurau lliniaru mewn perthynas ag unrhyw effeithiau
  • Cynlluniau teithio

O ran ymholiadau ynghylch priffyrdd a thrafnidiaeth nad ydynt yn ymwneud â chais cynllunio, ewch i'n tudalennau ynghylch Teithio, Ffyrdd a Pharcio.

Mae’r polisi hwn yn nodi’r disgwyliadau a’r gofynion ar gyfer systemau draenio dŵr ffo sy’n gysylltiedig â datblygiadau newydd sydd wedi’u lleoli o fewn y briffordd ac sydd i’w hyrwyddo i’w mabwysiadu gan Gyngor Sir Caerfyrddin neu sy’n gysylltiedig â systemau draenio priffyrdd presennol.

Mae'r ddogfen hon, sy'n ymwneud â draenio priffyrdd, wedi'i drafftio i ategu'r Canllaw Dylunio Priffyrdd.

Mae'r dull a fabwysiadwyd yn cefnogi egwyddorion dylunio ac adeiladu systemau draenio trefol cynaliadwy.

Canllaw Dylunio Draenio Priffyrdd

Am ffurflen gais anfonwch e-bost at: HighwayDrainConnect@sirgar.gov.uk

Cynllunio