Trwyddedu ar gyfer digwyddiadau
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/04/2025
Amcanion trwyddedu yw atal trosedd ac anhrefn, sicrhau diogelwch y cyhoedd, atal niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed.
Mae angen i chi gael trwydded ar gyfer y gweithgareddau canlynol:
- Gwerthu alcohol.
- Darparu adloniant rheoledig.
- Gwerthu lluniaeth hwyrnos - gwerthu bwyd poeth neu ddiod rhwng 11.00 yr hwyr a 5.00 y bore.
Yng nghyd-destun y ddeddf drwyddedu, mae ‘adloniant rheoledig’ yn cynnwys y canlynol:
- Dramâu.
- Dangos ffilmiau.
- Digwyddiadau chwaraeon dan do.
- Arddangosfeydd reslo neu focsio.
- Cerddoriaeth fyw (gan gynnwys karaoke).
- Cerddoriaeth a recordiwyd.
- Y cyhoedd neu berfformwyr yn dawnsio.
- Unrhyw adloniant fel y disgrifir yn 5, 6 neu 7 uchod.
Fodd bynnag, does dim angen trwydded ar gyfer y gweithgareddau canlynol:
- Ffilmiau sy'n arddangos cynnyrch neu'n hysbysebu nwyddau neu wasanaethau yn gyfan gwbl neu'n bennaf, neu sy'n darparu gwybodaeth, addysg neu gyfarwyddyd.
- Ffilmiau fel rhan o arddangosfa mewn amgueddfa neu oriel.
- Darllediadau teledu a radio, ar yr amod eu bod yn cael eu darlledu yn “fyw” ac nad ydynt wedi'u recordio.
- Cyfarfodydd neu wasanaethau crefyddol.
- Adloniant mewn mannau addoli crefyddol cyhoeddus.
- Ffeiriau gardd (oni bai eu bod yn cael eu cynnal er budd preifat).
- Adloniant mewn cerbyd sy'n teithio.
- Dawnsio Morris.
- Adloniant achlysurol
Mae angen gwahanol fathau o drwyddedau er mwyn cynnal gweithgareddau trwyddedig mewn digwyddiad. Daw'r rhain o dan y penawdau canlynol:
Bydd angen naill ai Trwydded Safle neu hysbysiad digwyddiadau dros dro ar bob lleoliad i lwyfannu/cynnal gweithgareddau trwyddedig. Os yw cyfanswm nifer y bobl y gall y digwyddiad eu cynnwys, gan gynnwys staff a pherfformwyr, yn llai na 499, gallwch wneud cais am hysbysiad digwyddiadau dros dro (os nad oes gan eich lleoliad drwydded eisoes). Os gall y digwyddiad gynnwys 500 o bobl neu fwy, bydd angen ichi wneud cais i'r cyngor lleol am drwydded safle ar gyfer eich digwyddiad.